quote]Dylan a ddywedodd:OND mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng "haeddiant" a "deall" pam ddigwyddodd o. Mae nifer o resymau am be' ddigwyddodd. 'Dydi'r un ohonynt yn cyfiawnhau gyrru awyrrenau mewn i adeiladau anferth a lladd 3000, ond mae'n dal yn bwysig i ni geisio deall be ddiawl ddoth dros eu meddwl. Wedi'r cyfan, mae'n raid ei fod o'n eitha' pwysig i waranty y fath weithred giaidd.
Os wyt ti'n fodlon marw dros achos, dyw hynny ddim yn gwneud yr achos yn iawn.
Nid protest yn erbyn tlodi y trydedd byd oedd 9/11, gan fod Osama Bin Ladin ei hun yn filioner.
Gwithred ffantigs Islamaidd oedd.
Yn ol Mr Bin Laden Afganistan o dan y Taliban oedd yr unig wlad wirioneddol Islamaidd yn y byd.
O dan y Taliban roedd miwsig a'r teledu wedi 'u gwahardd am eu bod yn 'wrth-Islamaidd' a doedd dim hawl i fenywod mynd ma's ar eu pennau eu hunain.
Roedd Bin Ladin a'i ddilynwyr yn casau 'r 'Satan Mawr' am eu bod yn casau llwyddiant a rhyddid a hyd yn oed cael rhywfaint o blesur mewn bywyd.
Cyn i 9/11 ddigwydd cafodd Afganistan ei enwi gan 'the Economist' fel lle gwaethaf y byd i fyw ynddo.
Wyt ti o ddifri am gondemnio Americanwyr drwg am gael gwared ar y fath na o drefn?
Ac os oedd newid i ddod yn Afganistan sut? Trwy drafod?
Yr unig ffordd i wellhau bywydau pobl Afganistan oedd cael gwared o'r Taliban, a'r unig ffordd i gael gwared o'r Taliban oedd trwy rym milwrol, a'r unig wlad gyda'r gallu a'r ewyllys i wneud hyn i gyd oedd yr Unol Daleithiau 'drwg'.