9/11- Eich Barn!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

9/11/01

Trosedd anfaddeuol- mae gan America bob hawl i wylltio!
5
15%
Ofnadwy, ond efallai fod yr Americanwyr yn gwneud gormod o ffws.
7
21%
3,000 o bobl wnaeth farw! Faint sy'n saethu ei gilydd bob mis yn America? Exciws i ymyrrid ym musnes gwledydd eraill yw.
22
65%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 17 Medi 2003 11:46 pm

Yn gyntaf ynglyn a disodli Allende. Roedd Prydain wedi chwarae eu rhan gan fod nhw wedi rhoi Awyrennau Hawks i'r fyddin a gafodd ei ddefnyddio i bomio Adeliad lle cuddiau Allende

Yn ail, y malu cachu bod y America yn gofyn amdani ar 11fed o Fedi 2001. Wel cwestiwn dwi'n gofyn yw pwy oedd y hedfan yr awyrennau ?
Casglwyr ffrwythau o Ecuador, Ffermwyr o Chile,Mecsico, gweithwyr y siopau chwys y Dwyrain pell ? nac hi.

Grwp o ddynion ifanc, o cefndir dosbarth canol o Saudi Arabia. Un o wledydd sydd wedi elwa gan buddsoddiant y Gorllewin. Mae America wedi cwyno ers blynyddoedd am llywodraeth Saudi Arabia a'i ddiffyg ymdrech i ymdrin a broblem o eithafwyr islamaidd yn Saudi Arabia.

Hwyrach bod rhai ohonych chi yn cwyno bod hawliau dynol yn cael ei anwybyddu gan y Americanwyr. Ond pwy dyfeisiodd y hawliau dynol ? Yr Americanwyr. Pwy dyfeisiodd llywodraeth cyfansoddiadol cyntaf ? Yr Americanwyr.

Mae America wedi bod yn grym bositif iawn yn byd yma, beth bynnag mae rhai ffyliaid yn deud.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cardi Bach » Iau 18 Medi 2003 8:39 am

Alunewilliams a ddywedodd: Pwy dyfeisiodd llywodraeth cyfansoddiadol cyntaf ? Yr Americanwyr.

Mae America wedi bod yn grym bositif iawn yn byd yma, beth bynnag mae rhai ffyliaid yn deud.


Fi'n credu y ffindi di fod America heddi tam'bach yn wahanol i America George Washington, Jogn Adams, Thomas Jefferson a phob un o'r 56 a arwyddodd y datganiad o annibyniaeth (nifer fawr yn Gymru/o dras Cymreig).

Ma POTENSIAL gyda America i fod yn rym positif - ond dyw hi ddim yn byw lan iw photensial, ac yn hytrach yn dilyn agenda cul asgell dde bersonol ar drail gweddill y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan pogon_szczec » Iau 18 Medi 2003 10:07 am

Alunewilliams a ddywedodd:
Mae America wedi bod yn grym bositif iawn yn byd yma, beth bynnag mae rhai ffyliaid yn deud.


Yn gymws.

A bydden yn gofyn am dipyn o gydbwysedd a sens yn nadleuon yn y dyfodol.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cardi Bach » Iau 18 Medi 2003 10:14 am

pogon_szczecin a ddywedodd:
Alunewilliams a ddywedodd:
Mae America wedi bod yn grym bositif iawn yn byd yma, beth bynnag mae rhai ffyliaid yn deud.


Yn gymws.

A bydden yn gofyn am dipyn o gydbwysedd a sens yn nadleuon yn y dyfodol.


Sai moyn tynnu ni lawr i waelodion dadl - ond, beth yn gwmws ma hyn fod i olygu?

Fod pawb sy'n anghytuno a thi a diffyg cydbwysedd ac yn afresymol, ond fod ti a phawb sy'n cytuno a thi yn hollol synhwyrol a rhesymegol?

Cyn belled ag odw i'n gweld mae pobol fel Dylan a Cwlcymro ac Aran ac eraill yma wedi gosod mynegiant o farn, ac yna yn ei esbonio - yn reit sylweddol.

Yr un ddadl ni wedi cal wrtho ti drosodd a trosodd hyd syrffed. Ni'n gwbod beth yw dy farn - ond dwyt ti ddim yn ei cefnogi ond a mynegiant arall o farn neu anecdots.

[/rhwystredigaeth].
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cwlcymro » Iau 18 Medi 2003 12:39 pm

Fel ddudodd Cardi, fedrith neb farnu llywodraeth gwlad am be wnaeth llywodraeth yr un wlad ddegawdau yn ol. Da ni'm yn barnu Schroder a'i fets am ladd yr Iddewon nadan! Da ni'm yn barnu Tony Blair am gaethweision nadan!

Mae'n bosib barnu traddodiad lywodraethol gwlad (teulu brenhinol, america a gynnau etc) ond dim dyna da ni'n son am yn fama.

Mar un peth yn wir am longyfarch gwlad. Dydy'r ffaith fod America wedi creu eu constitution eu hunain yn golygu dim.
Hyd yn oed os fysa fo ma'n raid chdi sylwi fod gan POB gwlad eu Constitution eu hun. Ma gan Seland Newydd, Iwerddon a Canada un, du nhw'm yn mynnu pwyntio ato fo pob dau funud! Ma gan Brydain un, jusd heb ei sgwennu mewn un man. Ma cyfansoddiad Prydain yn dod o draddodiada seneddol (mar frenhines yn 'goro' dewis arweinydd y brif blaid fel Prif Werinidog), cyfreithia (Parliment Acts ect) a hyd yn oed llythr i'r Times (gan y frenhines yn dweud 'i can oversee, advise and listen, but not order). A gan bopd ein constitutuion ni yn un heb ei sgwennu mae'n hyblyg ac felly'n haws i'w newid gyda amser.

Doedd y constitution ma America yn ei garu gymaint ddim mor wych a ma nhw'n credu chwaith. Dio'm yn y fersiwn gwech chi yn ysgolion y wlad ond yn y gwreiddiol ma'n son am fod gan pawb hawl i bledleisio, os oeddynt yn 'weddus'. Oedd fod i olygu dim duon!!

Dosnam byd sbesial am constitution America, heblaw'r ffaith eu bod nhw'n mynnu sticio ato yn llythrennol, dim ots pa mor dwp a henffasiwn yw'r bregeth.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Iau 18 Medi 2003 2:23 pm

Onid y Magna Carta ydi cyfansoddiad Prydain? 'Dw i'n sylweddoli bod yna wahaniaethau ond rhywbeth digon tebyg ydi o i bob pwrpas.

Be' ddiawl sydd mor dda am gyfansoddiadau be' bynnag? Mae un America dros 200 mlwydd oed, a mae'n dangos.

on ta waeth
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Iau 18 Medi 2003 8:17 pm

Ma'r Magna Carta yn un o'r petha sy'n ran o un Prydain yndi. Ond dim hwnna ydio o bell ffordd.

Yn syml ma rhei gwledydd 'America, iwerddon, Canada, Seland Newydd a mwy) hefo cyfansoddiad syml, strict, ar bapur a gyda ffyrdd arbennig o'i newid.

Ma gwledydd eraill (Prydain) efo cyfansoddiad "heb ei ysgrifennu" sy'n golygu ei fod o'n dod o sawl source gwahanol, yn hyblyg, ac yn gallu cael ei newid heb ddim dull sbesial.

Ma cyfansoddiad Prydain yn CYNNWYS:

San Steffan sydd ar hawl uchaf. BETH BYNNAG ma nhw'n ddeud, ma'n gyfreithlon

Mi all Ty'r Cyffredin 'overrulio' Ty'r Arglwyddi

Ma'n raid i'r frenhines arwyddo pob act (diom yn gyfraith, 'custom' dio. Os sai'n gwrthod mi fysain ddiwadd ar y teulu brenhinol)

Ma'r cwrt, y senedd a'r llywodraeth wedi eu rhannu'n raddol (i.e. ellith Tony Blair ddim ordro llys i ddefrydu unrhyw ffordd)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Iau 18 Medi 2003 8:28 pm

Rhywun wedi bod yn cymryd sylw mewn darlithoedd yn amlwg. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Iau 18 Medi 2003 8:30 pm

Wsos gynta blwyddyn dwytha odd honna! A dwi dal i gofio! Da de! (Er, gofyna am wbath ddigwyddodd yn ail hannar y flwyddyn a fyddai ddim mor coci!)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Iau 18 Medi 2003 8:37 pm

:)

ond ta waeth. Y pwnc. Lle oedden ni? O ia, pam ddiawl mae cyfansoddiad America mor sanctaidd be' bynnag? Y pwynt amlwg i'w godi ydi'r busnes gynnau yma ond dadl arall ydi hwnnw. P'run bynnag, mae jyst yn dangos bod seilio cyfraith cenedl gyfan ar ddogfen weddol anhyblyg 200+ oed yn beth ffôl achos, yn amlwg, mae pethau yn newid gydag amser.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai