9/11- Eich Barn!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

9/11/01

Trosedd anfaddeuol- mae gan America bob hawl i wylltio!
5
15%
Ofnadwy, ond efallai fod yr Americanwyr yn gwneud gormod o ffws.
7
21%
3,000 o bobl wnaeth farw! Faint sy'n saethu ei gilydd bob mis yn America? Exciws i ymyrrid ym musnes gwledydd eraill yw.
22
65%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan pogon_szczec » Iau 18 Medi 2003 10:52 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Yr un ddadl ni wedi cal wrtho ti drosodd a trosodd hyd syrffed. Ni'n gwbod beth yw dy farn - ond dwyt ti ddim yn ei cefnogi ond a mynegiant arall o farn neu anecdots.


Dyw hynny ddim yn deg ...........

Dwi wedi cefnogi fy marn gyda ...............FFEITHIAU
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Dylan » Gwe 19 Medi 2003 4:50 pm

megis?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

9/11 memorial

Postiogan Dic Penderyn » Gwe 19 Medi 2003 5:32 pm

:( Mae gwybodaeth am ddioddefaint Medi 11fed 1973 i'w gael trwy chwilio yn Google am desaparacidos a Chile
JR
Dic Penderyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2003 1:42 pm
Lleoliad: Clydach

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 20 Medi 2003 3:58 pm

Dylan a ddywedodd::)

ond ta waeth. Y pwnc. Lle oedden ni? O ia, pam ddiawl mae cyfansoddiad America mor sanctaidd be' bynnag? Y pwynt amlwg i'w godi ydi'r busnes gynnau yma ond dadl arall ydi hwnnw. P'run bynnag, mae jyst yn dangos bod seilio cyfraith cenedl gyfan ar ddogfen weddol anhyblyg 200+ oed yn beth ffôl achos, yn amlwg, mae pethau yn newid gydag amser.


Digon hawdd.

Yr constitution American oedd y sylfaen gyntaf o'i fath yn y byd. Cyn hynny, brenin oedd sylfaen pob llywodraeth. Roedd y cyfansoddiad America oedd yr cyntaf o fath mewn llywodraeth modern oedd yn amddiffyn hawliau dynol. Pan gafodd ei lunio yn 1776, roedd y fath llywodraeth erioed wedi cael ei arbrofi o'r blaen.

Mae'n rhaid i mi anghytuno am ei fod yn dogfen anhyblyg. Heblaw am y rhyfel cartref yn 1860, Uniol Daliaethau yw'r wlad mwyaf stabal yn y byd.
(Meddylia am cyn leied o systemau lywodraethau yn y byd sydd cyn hired a'r system a gafodd ei sefydlu yn UDA yn 1776).

Hwyrach mae o'n amherffaith, fel y esiampl gyda'r hawl i gael arfau.

Ond diawch, pa cyfansoddiad sydd ddim !

Prydain sydd dal gyda ail siambr lle mae seddi yn cael ei ddarbwyllo ar sail etifeddiaeth.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cynog » Maw 23 Medi 2003 7:17 pm

Pogo ti'n foi doniol! Pwy sydd wedi dylanwadu ar dy feddylfrid?
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan Dic Penderyn » Mer 24 Medi 2003 8:34 pm

:)
Alun,
ni fuasai'r Parchedigion Martin Luther King, Jesse Jackson, Ralph Abernathy ayyb yn ystyried bod fawr o hawliau suful yn yr UDA cyn 70au'r ganrif 'DWYTHA.

Ni fyddai llawer yn Hollywood yn fodlon a'r hawliau dynol oedd ganddynt adeg McCarthy.

Na hoywon yn ystyried J Edgar Hoover a'r FBI yn gorff i amddiffyn eu hawliau hwy.

Wedi gweithgareddau'r 'Wobblies' yn y 20au, ni fuasai mewnfudwyr yn hoff o ymateb y sefydliad a'r effaith ar eu hawliau.

Nid yw trigolion Bae Guantanamo ag unryw hawl o gwbl.

Fe elwid rhai aelodau o'r dde eithaf gan aelodau o gabinet Papa Bush yn ynfydon - 'the Crazies'. Y nhw, sydd rwan fwyaf blaenllaw yng nghabinet Baby Bush.

Maent yn defnyddio 9/11/01 fel esgus i ddileu hawliau dynol.

Mae'r sefydliad yn UDA wastad wedi bod yn hyblyg yn eu cariad/atgasedd at hawliau dynol.

Be mae'r UDA wedi neud am ddau ganrif ydi ansefydlogi gwladwriaethau eraill. Mossadeq yn Iran ym 1953 i amddiffyn buddiannau cwmni Seisnig - BP, Iraq am ddau ddegawd a mwy, Afghanistan er mwyn adeiladu pibell olew ayyb, ayyb, ayyb...

Mae rhestr eithaf ANGhyflawn i'w gael ar dudalennau 92-101 o lyfr Meryl Wun Davies a Ziauddin Sardar 'Why Do People Hate America?', yn rhestr 'Zoltan Grossman's A Century of US Military Interventions from Wounded Knee to Afghanistan'. Mae llawer mwy o enghreifftiau y gwn amdanynt, nid yn unig yn America Lladin. ISBN 1-84046-383-X. Dyro fe yn dy Fasged!
Dic Penderyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2003 1:42 pm
Lleoliad: Clydach

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 28 Medi 2003 9:38 am

Dic Penderyn a ddywedodd::)
Alun,
ni fuasai'r Parchedigion Martin Luther King, Jesse Jackson, Ralph Abernathy ayyb yn ystyried bod fawr o hawliau suful yn yr UDA cyn 70au'r ganrif 'DWYTHA.

Mae rhestr eithaf ANGhyflawn i'w gael ar dudalennau 92-101 o lyfr Meryl Wun Davies a Ziauddin Sardar 'Why Do People Hate America?', yn rhestr 'Zoltan Grossman's A Century of US Military Interventions from Wounded Knee to Afghanistan'. Mae llawer mwy o enghreifftiau y gwn amdanynt, nid yn unig yn America Lladin. ISBN 1-84046-383-X. Dyro fe yn dy Fasged!


Wel nes i erioed wedi dweud bod y system yn berfaith ond America oedd y wlad cyntaf i creu system llywodraethol gyda sail cwbl cyfansoddiadol etholedig.

Fel ti'n dweud roedd y bobl Duon ddim wedi cael eu hawliau sifil tan y 70au, ond defnyddiodd y mudiad haliau dynol y system cyfansoddiadol i ennill eu hawliau. Esiampl da o hyn oedd Brown vs Board of Education pan penderfynodd y Supreme Court bod didoliad hiliol yn y system addysg yn anghyfansoddiadol.

Yn ail, ar dy bwynt y fewnfudwyr a hiliaeth. Fe ddaeth llawer o fewnfudwyr i America i dengid gormes yn Ewrop fel y Iddewon o'r pogroms a'r Gwyddelon o'r newyn. Fe llewyrchodd rhai mewn ffurf a fuasai wedi bod yn amhosib yn Ewrop.

Mae digon wir bod yna hawliau sifil yn cael eu tanseilio yn America ar y funud. Ond mae hyn wedi digwydd mewn gwledydd eraill. Beth am Prydain drwy y ymgyrch IRA yn y saithdegau ? Pan estynodd y hawl gan y heddlu i gadw rhwyun yn y ddalfa am 7 diwrnod.

Ar dy bwynt olaf, mae America wedi ymyrryd mewn gwledydd eraill mewn ffurff negatif ac i amddiffyn diddordebau eu hunain. Ond mae nhw wedi ymyrryd mewn ffurf positif iawn, beth am y Marshall Plan ? Neu eu ymyraeth mewn i Iwgoslafia pan roedd Ewrop yn rhy brysur yn ffreuo.

Ti'n gweld Dic, hwyrach bod America gyda'u diffygion ac weithiau yn sticio dwy fys i fyny i weddill y byd ond mae'r wlad wedi bod yn grym bositif yn y byd.[/i]
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan RET79 » Iau 09 Hyd 2003 9:15 pm

Fuaswn i'n dweud mae hwn yw'r pol mwyaf siomedig i mi ei weld ar y maes-e. Dwi methu deall sut mae pobl yma yn gallu dod i'r fath gasgliad am y drychineb.

Cofiwch, cachwrs yw terrorists. Does di rhybudd, does dim rhyfel deg lle mae un wlad yn rhoi deadline/ultimatum wedyn yn dweud fod nhw mewn rhyfel a gwlad arall. Mae nhw jest yn ymosod yn gachwraidd ar bobl ddiniwed, ddim soldiwrs, sydd a dim gobaith o achub ei hunain.

Dwi'n siomedig iawn yn agweddau pobl ar maes-e am 9/11. Yn amlwg mae casineb yr adain chwith at lwyddiant America yn y byd yn ddwfn iawn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cwlcymro » Gwe 10 Hyd 2003 2:27 pm

Mae'n rhaid i mi anghytuno am ei fod yn dogfen anhyblyg


Yn dechnegol mai'n anhyblug Alun. Yn wir y term am ddogfen America yw 'Unflexible constitution' (gair arall yw 'written constitution')

Yr unig beth mae anhyblyg yn ei feddwl yw fod na ffordd arbennig o'i newid o. Heb gofio yn iawn, ond dwi'n meddwl fod angan 2/3 o Congress i gytuno i newid constitution America.

Dim y constitution ei hyn ydi problem America. Y broblem ydi'r psyche ma sy'n dweud ei bod hi'n ddogfgen sanctaidd.

Ym Mhrydain da ni di newid lot ar ein constitution yn y can mlwydd diwetha.

Da ni wedi rhoi ychydig on sofren ni i Ewrop
Da ni wedi caniatau i'r Ty Cyffredin bypassio Ty'r Arglwyddi
Da ni wedi stripio'r frenhines o bob pwer practical
Da ni wedi newid cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi

etc etc etc

Ma'n HANFODOL fod gwlad yn barod i newid ei constitution gyda amser. Problam America ydi tra fod nhw'n barod i wneud hynnu ar rannau o'i un nhw (y rhanbna sa neb di clwad am) ma pawb sydd eisiau dal at rhywbeth pwysig iddynt yn troi at y ''ddogfen sanctaidd'.

Fel ddudids i, ma gan Iwerddon, Canada, Seland Newydd a llawer mwy ddogfen UNION fel America (o ran steil nid cynnwys yn amlwg). America yw'r unig wlad sy'n gwrthod newid hi gyda amser.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 10 Hyd 2003 4:22 pm

RET79 a ddywedodd:Cofiwch, cachwrs yw terrorists. Does di rhybudd, does dim rhyfel deg lle mae un wlad yn rhoi deadline/ultimatum wedyn yn dweud fod nhw mewn rhyfel a gwlad arall. Mae nhw jest yn ymosod yn gachwraidd ar bobl ddiniwed, ddim soldiwrs, sydd a dim gobaith o achub ei hunain.


Cofia, dim dial ar y teroristiaid mae America. Dial ar bobl yr un lliw a nhw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron