Cwlcymro a ddywedodd:Rhyfel yng Nghorea:
De Gorea
Dwi'n meddwl ma hwn di'r tro cynta i fi glywed rhiwun yn dweud fod Vietnam yn lwyddianus!Yr hen Iwgoslafia:
Croatia a Chosofo
Gwir, ond ymyryd fel rhan o'r UN nath America yn fana, dim ar liwt ei hyn.
Mae'r dyfyniad cyntaf yn dangos safon dealltwriaeth Cwlcymro - ti di edrych ar fap erioed? Nid Vietnam yw Corea, rhag ofn fod hyn yn rhy anodd i un sy'n amlwg yn gwybod cymaint.
Mae dy ail ddyfyniad uchod hefyd yn hollol anghywir. Chafwyd dim caniatad i ymyraeth yn yr hen Iwgoslafia gan yr UN gan fod Rwsia yn dweud na. Ddaru yr EU ddatgan y bydde nhw yn sortio'r broblem allan - 300,000 marwolaeth yn diweddarach aeth America i mewn a sortio'r blydi broblem mewn chwe mis - beth tybed oedd y fantais i America yn y Balkans? Onid efallai, efallai, fod gan wleidyddion America ychydig o foesoldeb - yn wahanol i gyfranwyr Maes e sy'n amlwg ymhfrydu yn 9/11.
Braf yw cael y rhyddid i edmygu y rhai hynny fyddai'n difa eich rhyddid.