9/11- Eich Barn!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

9/11/01

Trosedd anfaddeuol- mae gan America bob hawl i wylltio!
5
15%
Ofnadwy, ond efallai fod yr Americanwyr yn gwneud gormod o ffws.
7
21%
3,000 o bobl wnaeth farw! Faint sy'n saethu ei gilydd bob mis yn America? Exciws i ymyrrid ym musnes gwledydd eraill yw.
22
65%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

9/11- Eich Barn!

Postiogan Macsen » Iau 11 Medi 2003 3:03 pm

Barn??
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 11 Medi 2003 4:01 pm

Erchyll ac anfaddeuol. Ond i opsiwn 3 pleidleisiais innau drosto.

Faint o bobl sy'n dioddef yn uniongyrchol gan fusnesau America pob blwyddyn, pod DYDD? Neu gan eu hygyrchoedd milwrol?

Yr hyn sy'n gwylltio fi yw fod yn ein hysgolion, er engrhaifft, clywsom am yr ymosodiad erchyll a diawleiddio'r terfysgwyr (yn gyfiawn), ond clywem ddim am y miloedd llofruddiaeth America yn Affganistan ar ôl hynny. Mor unochrog yw'r system de?

Nid oedd neb yn haeddu marw cyn eu hamser y diwrnod hwnnw. Ond, os oedd un WLAD yn ei haeddu hi, yr UDA oedd hwnnw.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan ArnoldMR » Iau 11 Medi 2003 4:06 pm

Unrhyw esgis i America cael gwared o hen arfau tarfegrol i greu rhai newydd i gadw y busnessau Arfau yn hapus. ARIAN ARIAN ARIAN
Arnold yr Mwnci Rhydweithiol
Rhithffurf defnyddiwr
ArnoldMR
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 11 Medi 2003 9:49 am
Lleoliad: gwlad y cofis

Postiogan Dylan » Iau 11 Medi 2003 6:40 pm

2) & 3) plis Bob

'dw i'n synnu nad ydi'r amserlenni teledu wedi cael eu boddi gan raglenni dogfen amdano. 'Roeddwn i wedi meddwl byddai'r gweithwredwyr yn rhwbio'u dwylo ac wrth eu boddau gyda'r cyfle i ddangos yr awyrennau yn crasho eto. Mae'n rhaid eu bod wedi defnyddio pob un syniad posibl y flwyddyn dwytha'.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan pogon_szczec » Iau 11 Medi 2003 8:05 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Faint o bobl sy'n dioddef yn uniongyrchol gan fusnesau America pob blwyddyn, pod DYDD? Neu gan eu hygyrchoedd milwrol?


A faint bydd yn dioddef petasai'r U.D.A. ddim yn ymyryd. LOT FWY.

Nid oedd neb yn haeddu marw cyn eu hamser y diwrnod hwnnw. Ond, os oedd un WLAD yn ei haeddu hi, yr UDA oedd hwnnw.


Gwarthus. Yr wlad sy'n gwarchod rhyddid trwy gydol y byd am hanner can mlynedd ddim yn ei haeddu o bell ffordd. Neis i ishte tu ol i dy gyfrifiadur gyda'r hawl i sgwenu be ti moyn yn dy iaith dy hun gan ymosod ar yr wlad sy'n amddifyn yr hawliau sylfaenol hyn.

Os nad wyt ti'n hoff o'r hawl i 'neud be ti moyn cer i Ogledd Corea i weld y wahaniaeth.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Dylan » Iau 11 Medi 2003 9:21 pm

'Does dim cyfiawnhau lladd o gwbl. Yn ddi-eithriad. 'Roedd yr ymosodiad yn gwbwl gwbwl ffiaidd (mae'n dweud lot bod angen rhoi y blydi disclaimers 'ma yn y lle cynta')

OND 'dydi hynny ddim yn golygu bod yr UDA yn hollol ddi-fai. Mae wir angen iddo - a gweddill y byd gorllewinol - edrych yn fanwl iawn ar ei hun a dadansoddi sut effaith mae eu gweithredoedd yn ei gael ar farn gweddill y byd ohonynt.

"gwarchod heddwch"? Plis dweda bod ti ddim o ddifri.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan pogon_szczec » Iau 11 Medi 2003 9:33 pm

Dylan a ddywedodd:
"gwarchod heddwch"? Plis dweda bod ti ddim o ddifri.


Surely you can't be serious?!

I AM serious and please stop calling me Shirley.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Iau 11 Medi 2003 9:53 pm

Pogon a ddywedodd:Gwarthus. Yr wlad sy'n gwarchod rhyddid trwy gydol y byd am hanner can mlynedd ddim yn ei haeddu o bell ffordd. Neis i ishte tu ol i dy gyfrifiadur gyda'r hawl i sgwenu be ti moyn yn dy iaith dy hun gan ymosod ar yr wlad sy'n amddifyn yr hawliau sylfaenol hyn.


A wyt ti, ga'i ofyn, yn gwylio FOX news drwy'r dydd. Dwi'm yn cytuno a'r 'Hypodermic Needle' theory o'r dominant ideology (angen edrych yn Bruce, ie) ond dwi'n meddlw dy fod ti wedi llyncu heb amau pob un darn o rybish mae'r Americanwyr yn dweud wrthot ti.

Enwa un lle mae America wedi ymyrrid ynddo ac wedi gwella'r sefyllfa mewn ryw ffordd. Fysen nhw ddim yn actio fel plismyn y byd os doedd yna ddim yndda fo iddyn nhw. Mae nhw'n wlad gyfoethog sy'n cadw gweddill y byd dan sawdl ei sgidiau nike glan neis gafodd ei creu ar ddiwedd barrel gwn gan ryw blentyn yn Affrica sy'n gweithio am $3 yr wsos.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan pogon_szczec » Iau 11 Medi 2003 10:09 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
Enwa un lle mae America wedi ymyrrid ynddo ac wedi gwella'r sefyllfa mewn ryw ffordd
.


Ofnadwy o hawdd.

Yr ail ryfel byd:
Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Gorllewin yr Almaen .... ac ati.

Y rhyfel oer:
Pob wlad dwyrain Ewrop gan gynnwys Rwsia ei hun

Rhyfel yng Nghorea:
De Gorea

Yr hen Iwgoslafia:
Croatia a Chosofo

Irac a Chwrdistan

Siwr bod na fwy o enghreifftiau .............
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Iau 11 Medi 2003 10:11 pm

Diolch am y dyfyniad o fy ngeiriau, ond wyt ti am ei hateb nhw?

Ta wyt ti angen gwylio ychydig mwy o'r Fox News i ddarganfod dy inspiration? Neu efallai dy fod ti'n goginio ryw ateb yn dy ben di sydd mor witi a mor bigog fy mod i am ddisgyn yn syth oddiar fy nghadair a torri fy ngwddwg, ac mi fyddi di wedi gwneud dy ran yn y Rhyfel ar Bobol Ofnadwy Fel I.M.J. Sydd Ddim yn Llyncu Bwlshit Ac Sydd Yn Gweld Gobaith Am Fyd Heb Law Du Rupert Murdoch Yn Hofran Dros Bob Dim Ac Yn Rhoi Adverts Ar Bob Saith Blydi Munud.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron