'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan pogon_szczec » Iau 25 Medi 2003 9:43 am

Cardi Bach.................

Amlwg dy fod ddim yn ffan o George Bush o bell fordd .........

Fyddai 'n well 'da ti byw dan George Bush neu yn Affganistan o dan y Taliban?

A oes gwraig gyda ti? Os oes a yw hi'n falch o'r ffaith ei bod yn cael addysg, yr hawl i weithio, yr hawl i fynd ma's ar ei phen ei hun, yr hawl i wisgo beth mae hi mo'yn, yr hawl i wrando ar fiwsig ac yn y blaen .........

Wel tase hi wedi byw o dan y Taliban ni fuase wedi cael y hawliau sylfaenol hynny.

A fyddai 'n ddiolchgar i wlad sy'n cael gwared o'r Taleban ........... ?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cardi Bach » Iau 25 Medi 2003 9:58 am

pogon_szczecin a ddywedodd:Cardi Bach.................

Pogon,

tithe'n ffan o Bush.

Pe bydde ti'n ddu, neu a thrafferth meddyliol, neu yn Indiaid gynhenid Americanaidd, neu yn Asiaidd,...(ddim yn wyn dosbarth canol) a fydde ti'n dymuno byw yn nhalaith Texas lle mae dy swydd mwy na thebyg fyddai glanhau toiledau? lle y byddet pan yn ifanc oherwydd trefn y Llywodraethwr, o bosib wedi gorfod dewis cyffiriau? lle y byddet pan yn ifanc wedi cael dy guro yn di-enaid gan yr heddlu? neu wedi cael dy saethu oherwydd nad oedd y llywodraeth yn delio a thrafferthion gynnau ac yn ei anwybyddu am eu bont yn un peth yn sianeli arian i arfogaeth (ymhlith pethau eraill? lle na fyddet yn cael cyfle i addysg sylfaenol dda heb son am addysg uwch oherwydd lliw dy groen neu cefndir? lle y byddet mwy na thebyg yn cael dy garcharu am oes neu cael dy ddienyddio am drosedd nad oeddet wedi ei chyflawnnu? ayb ayb ayb ayb

Tase ti'n byw yn Texas yn yr amgylchiadau yma, dyna fyddai dy fywyd pitw sal di.

Dyma beth mae'r Llywodraethwr George W Bush wedi wneud a llu o rai tebyg iddo.

Yn yr un modd petaet yn Nicaragua, Colombia, Indo-China, Somalia, neu hyd yn oed Mozambique, Rwanda, Liberia, Korea unrhyw wlad sy'n dioddef oherwydd ymgyrchoedd uniongyrchol milwrol America, neu bolisiau tramor America, neu tactegau bwli-boi America yn y WTO ayb...

A fyddet ti'n ddiolchgar petai rhywun yn ceisio cael gwared o'r boi a'r drefn yma?

Mae hyn wedi ei ddweud sawl gwaith yma eisioes, ond dyna pam mae nifer yn dathlu 9/11. Fi ddim yn un ohonynt - na neb arall ar y maes. Ond paid meiddio dweud fod America yn gyfiawn wrth achosi marwolaeth degau o filoedd yn uniongyrchol a channoedd o filoedd yn anuniongyrchol yn Affganistan yn enw 'Liberation' tra hefyd yn gweithredu polisiau o 'genocide' mewn gwledydd eraill.

Bydd y bydd yma'n fyd saffach heb Bush a'i agwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Al Jeek » Iau 25 Medi 2003 10:25 am

Dwi'n meddwl nath Robin Cook symio fo fyny ar ddechrau y rhyfel pan wnaeth o ddweud yn ei speech ymddiswyddo:

"Why is it now so urgent that we should take military action to disarm a military capacity that has been there for 20 years and which we helped to create? And why is it necessary to resort to war this week while Saddam's ambition to complete his weapons programme is frustrated by the presence of UN inspectors?

I have heard it said that Iraq has had not months but 12 years in which to disarm, and our patience is exhausted. Yet it is over 30 years since resolution 242 called on Israel to withdraw from the occupied territories.

We do not express the same impatience with the persistent refusal of Israel to comply. What has come to trouble me most over past weeks is the suspicion that if the hanging chads in Florida had gone the other way and Al Gore had been elected, we would not now be about to commit British troops to action in Iraq."
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan eusebio » Iau 25 Medi 2003 11:08 am

pogon_szczecin a ddywedodd:Dwi jest yn gofyn pam mae pobl yn meddwl nad oedd digon o allu gan wyddonwyr Saddam i ddatblygu nwy mwstard gan ei fod yn hen dechnoleg..

Nid oes neb wedi dweud nad oes gan Arabaiaid y gallu i ddatblygu arfau cemegol - chdi sydd wedi rhoi'r geiriau yna yn ein cegau - yr oll yda ni yn ei ddweud yw bod America a Phrydain wedi gwerthu'r fath arfau i Iraq.

Tri ddallt :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan pogon_szczec » Iau 25 Medi 2003 11:54 am

Cardi Bach a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:Cardi Bach.................

Amlwg dy fod ddim yn ffan o George Bush o bell fordd .........

Fyddai 'n well 'da ti byw dan George Bush neu yn Affganistan o dan y Taliban?

A oes gwraig gyda ti? Os oes a yw hi'n falch o'r ffaith ei bod yn cael addysg, yr hawl i weithio, yr hawl i fynd ma's ar ei phen ei hun, yr hawl i wisgo beth mae hi mo'yn, yr hawl i wrando ar fiwsig ac yn y blaen .........

Wel tase hi wedi byw o dan y Taliban ni fuase wedi cael y hawliau sylfaenol hynny.

A fyddai 'n ddiolchgar i wlad sy'n cael gwared o'r Taleban ........... ?

Pogon,

tithe'n ffan o Bush.

Pe bydde ti'n ddu, neu a thrafferth meddyliol, neu yn Indiaid gynhenid Americanaidd, neu yn Asiaidd,...(ddim yn wyn dosbarth canol) a fydde ti'n dymuno byw yn nhalaith Texas lle mae dy swydd mwy na thebyg fyddai glanhau toiledau? lle y byddet pan yn ifanc oherwydd trefn y Llywodraethwr, o bosib wedi gorfod dewis cyffiriau? lle y byddet pan yn ifanc wedi cael dy guro yn di-enaid gan yr heddlu? neu wedi cael dy saethu oherwydd nad oedd y llywodraeth yn delio a thrafferthion gynnau ac yn ei anwybyddu am eu bont yn un peth yn sianeli arian i arfogaeth (ymhlith pethau eraill? lle na fyddet yn cael cyfle i addysg sylfaenol dda heb son am addysg uwch oherwydd lliw dy groen neu cefndir? lle y byddet mwy na thebyg yn cael dy garcharu am oes neu cael dy ddienyddio am drosedd nad oeddet wedi ei chyflawnnu? ayb ayb ayb ayb

Tase ti'n byw yn Texas yn yr amgylchiadau yma, dyna fyddai dy fywyd pitw sal di.

Dyma beth mae'r Llywodraethwr George W Bush wedi wneud a llu o rai tebyg iddo.

Yn yr un modd petaet yn Nicaragua, Colombia, Indo-China, Somalia, neu hyd yn oed Mozambique, Rwanda, Liberia, Korea unrhyw wlad sy'n dioddef oherwydd ymgyrchoedd uniongyrchol milwrol America, neu bolisiau tramor America, neu tactegau bwli-boi America yn y WTO ayb...

A fyddet ti'n ddiolchgar petai rhywun yn ceisio cael gwared o'r boi a'r drefn yma?

Mae hyn wedi ei ddweud sawl gwaith yma eisioes, ond dyna pam mae nifer yn dathlu 9/11. Fi ddim yn un ohonynt - na neb arall ar y maes. Ond paid meiddio dweud fod America yn gyfiawn wrth achosi marwolaeth degau o filoedd yn uniongyrchol a channoedd o filoedd yn anuniongyrchol yn Affganistan yn enw 'Liberation' tra hefyd yn gweithredu polisiau o 'genocide' mewn gwledydd eraill.

Bydd y bydd yma'n fyd saffach heb Bush a'i agwedd.

Mae hyn i gyd jest yn mynd nol i'r hen ddadleuon ynglyn a chyfalafiaeth/sosialaeth .........

Os nad wyt ti'n gweld bod pobl tlawd yn well off yn yr UDA na phobl gyffredin o dan Saddam neu o dan y Taleban, i fod yn gwbl onest, ti ddim yn gweld lot ...................

Os yw bywyd mor annifyr i dlodion yn yr UDA paham y mae sut gymaint o bobl ishe byw na............ ac yn y blaen.

Ac wyt ti o ddifri am gondemnio yr UDA am ymyrryd yng Nghorea. A fyddai pobl De Corea yn well off tasen nhw'n byw yn y gogledd ..... Hyd yn oed pobl o gefndir Cymreig yn gallu gweld bod y De yn weddol gyfoethog a'r Gogledd ddim ............

Byddaf yn dy gynghori i ..............

1 Paid a chymryd sylw o John Pilger a phobl sydd yn debyg iddo am gyfnod. Maen nhw wedi cael dylanwad digon ddrwg arnat yn barod ......

2 Pryna rhyw gylchgawn call fel 'yr Economist' sy'n disgrifio'r byd real ......

3 Astudia economeg er mwyn deall rhywfaint am farchnadoedd rhydd a pham y maent o les i BAWB ........

4 Ymweld a rhywle fel Wcren neu Belarws am nad ynt wedi gwella lot ers comiwynyddiaeth i weld beth ydi'r aternatif i gyfalafiaeth ..............

5 Cwrdd a phobl sy ddim yn Gymry Cymraeg yn enwedig pobl sy'n rhedeg busnesau eu hunain er mwyn cael rhyw syniad am sut y mae'r byd yn gweithio ...........

Dwi'n gwastraffu gormod o'm amser ar y negesfwrdd hon ............
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan eusebio » Iau 25 Medi 2003 12:27 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:4 Ymweld a rhywle fel Wcren neu Belarws am nad ynt wedi gwella lot ers comiwynyddiaeth i weld beth ydi'r aternatif i gyfalafiaeth ..............

Mi ydw i wedi treulio amser yn y ddwy wlad yma, a'r bai am sefyllfa;r ddwy wlad yw Comiwnyddiaeth Stalin ac nid sosialaeth - mae cymharu sosialaeth i gomiwnyddiaeth neu stalinyddiaeth (?) fel cymharu cyfalafiaeth i ffasgiaeth ...
:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cardi Bach » Iau 25 Medi 2003 1:28 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:

Mae hyn i gyd jest yn mynd nol i'r hen ddadleuon ynglyn a chyfalafiaeth/sosialaeth .........

Os nad wyt ti'n gweld bod pobl tlawd yn well off yn yr UDA na phobl gyffredin o dan Saddam neu o dan y Taleban, i fod yn gwbl onest, ti ddim yn gweld lot ...................

Os yw bywyd mor annifyr i dlodion yn yr UDA paham y mae sut gymaint o bobl ishe byw na............ ac yn y blaen.

Ac wyt ti o ddifri am gondemnio yr UDA am ymyrryd yng Nghorea. A fyddai pobl De Corea yn well off tasen nhw'n byw yn y gogledd ..... Hyd yn oed pobl o gefndir Cymreig yn gallu gweld bod y De yn weddol gyfoethog a'r Gogledd ddim ............

Mae America ac ewrop yn dympo eu gor-gynnyrch (boed yn siwgwr neu reis neu cynnyrch eraill) ar wledydd y trydydd byd sydd yn tanseilio'r economi lleol yn llwyr. Mae hyn yn wir am Korea (fel dangosodd y ffarmwr a laddodd ei hunan) a Guyana a Botswana a Papua ayb ayb Economeg felly: Hwn yn dda i 5% o boblogaeth y byd ond gwael i 95% = ddim yn gyfartal = ddim yn dda! (gwers bach i ti ar foesoldeb fan'na rwle).

pogon_szczecin a ddywedodd:
Byddaf yn dy gynghori i ..............
wyt ti'n nabod fi? na. wyt ti'n gwbod unrhywbeth amdana i? na, a mi ddangosa i i ti pa mor wallus wyt ti:

pogon_szczecin a ddywedodd:
1 Paid a chymryd sylw o John Pilger a phobl sydd yn debyg iddo am gyfnod. Maen nhw wedi cael dylanwad digon ddrwg arnat yn barod ......

Sail cynta fi'n gwitho arno yw dysgeidiaeth Crist. Os mai dyna yw drwg, wel fi moyn bod mor ddrwg a phosib. Ma bywyd Gandhi, Mandela, Biko, Oscar Romero ac eraill yn ddylanwad - 'call me yn evil slut!'

pogon_szczecin a ddywedodd:
2 Pryna rhyw gylchgawn call fel 'yr Economist' sy'n disgrifio'r byd real ......

Falle fod y byd yn troi o amgylch arian i ti pogon bach, ond dyw hyn ddim yn wir i bawb - finne yn eu plith.

pogon_szczecin a ddywedodd:
3 Astudia economeg er mwyn deall rhywfaint am farchnadoedd rhydd a pham y maent o les i BAWB ........

Dyw e ddim yn cymryd athrylith i wybod fod rhoi 95% o gyfoeth y byd i 5% o'r boblogaeth ddim yn beth da.

pogon_szczecin a ddywedodd:
4 Ymweld a rhywle fel Wcren neu Belarws am nad ynt wedi gwella lot ers comiwynyddiaeth i weld beth ydi'r aternatif i gyfalafiaeth ..............

Wedi bod ym Mhwyl, ymweld a Hwngari, China (teulu yn byw yno) ac wedi byw yn beth oedd y wlad dlotaf yn y byd ar y pryd, Guyana, yng nghanol tlodi go iawn. Paid ti gweud wrtha mod i'n siarad o foethusrwydd heb brofiad - ma gyda fi'n siar o brofiad diolch yn fawr ac odd e'n brofiad uffenol o drist. Fi am fynd i Sowetto cyn hir fyd - gobitho.

pogon_szczecin a ddywedodd:
5 Cwrdd a phobl sy ddim yn Gymry Cymraeg yn enwedig pobl sy'n rhedeg busnesau eu hunain er mwyn cael rhyw syniad am sut y mae'r byd yn gweithio ...........

Be, fel teulu Americanaidd yn Ohio (ma'r teulu ochor arall yn perthyn i'r Rockefeller's :ofn: )? Neu'r teulu yn Aotearoa? Neu ffrindiau o Singapore, De Affrica, Fryslan, Almaen, Ffrainc, China, Somalia, Alban, Iwerddon, Watford, Liskeard, ... ... ... ... ...

pogon_szczecin a ddywedodd:
Dwi'n gwastraffu gormod o'm amser ar y negesfwrdd hon ............

Na, cadw fynd, mae dy negeseuon ond yn cryfhau ein dadleuon :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan nicdafis » Iau 25 Medi 2003 2:01 pm

Wedi dileu cwpl o negeseuon rhwng Cynog a pogon_szczecin am nad ydynt ddim byd i wneud â'r trafodaeth. Gaf i ofyn i bawb fod yn fwy ofalus gyda'r dyfyniadau - mae'r edefyn 'ma yn hynod o annodd i ddilyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Huw T » Iau 25 Medi 2003 11:11 pm

Pwy yw Cynog? :?

Does dim pwynt cyfrannu i'r pwnc hwn - mae bron popeth fi eisie dweud wedi cael ei ddweud yn barod, ac wedi cael ei anwybyddu gan Pogon, a bydde unrhwybeth sydd ar ol i gael ei ddweud hefyd yn cael ei anwybyddu gan Pogon.

"I disagree with what you say, but will defend to teh death your right to say it"..... or not.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan pogon_szczec » Sad 27 Medi 2003 7:39 pm

Ymateb i Cardi Bach:

Cardi Bach a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:

Mae hyn i gyd jest yn mynd nol i'r hen ddadleuon ynglyn a chyfalafiaeth/sosialaeth .........

Ac wyt ti o ddifri am gondemnio yr UDA am ymyrryd yng Nghorea. A fyddai pobl De Corea yn well off tasen nhw'n byw yn y gogledd ..... Hyd yn oed pobl o gefndir Cymreig yn gallu gweld bod y De yn weddol gyfoethog a'r Gogledd ddim ............

Mae America ac ewrop yn dympo eu gor-gynnyrch (boed yn siwgwr neu reis neu cynnyrch eraill) ar wledydd y trydydd byd sydd yn tanseilio'r economi lleol yn llwyr. Mae hyn yn wir am Korea (fel dangosodd y ffarmwr a laddodd ei hunan) a Guyana a Botswana a Papua ayb ayb Economeg felly: Hwn yn dda i 5% o boblogaeth y byd ond gwael i 95% = ddim yn gyfartal = ddim yn dda! (gwers bach i ti ar foesoldeb fan'na rwle).

Mae rhai wedi gofyn cwestiynau i fi, felly mae ychydig da fi i ti:

1 A wyt yn derbyn bod pobl De Gorea yn well off YM MHOB FFORDD na phobl Gogledd Gorea?

2 A wyt yn derbyn eu bod yn well off oherwydd (a) cyfalafiaeth (b) ymyrraeth yr UDA?

3 Ac os ynt yn well off oherwydd ymyrraeth yr UDA a ddylent fod yn ddiolchgar i'r wlad honna?

4 Wyt ti'n meddwl bod rhywun yn lladd ei hun yn ddadl da? Os felly, fuaset newid dy farn o 'Bakis' petasai RET79 yn lladd ei hun fel protest yn eu herbyn?

5 A wyt ti wedi clywed o 'brotectionism' fel alternatif i farchnadoedd rhydd? A wyt ti'n gwybod bod 'protectionism' yn rhannol gyfrifol am 'Dirwasgiad Mawr' y tridegau?

6 A wyt ti'n gwybod bod diwydiant yn yr UDA yn dioddef o fewnforion o'r dwyrain pell a nid yw marchnadoedd rhydd yn broses sy o les i'r UDA yn unig? Fyddi di'n cefnogi y rhai yn yr UDA sy'n gwrthwynebu mewnforio o lefydd fel Corea?

7 'Nid arian yw popeth, ond mae'n helpu'. A fyddai astudio economeg fod o gymorth i ti?

8 A yw o les i gwnswmers Corea cael reis rhad a chwnswmers America nwyddau electronig rhad? Dyna beth ydi marchnad rhydd .........
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron