Rhagor o gwestiynau ............
9 Pe bai De Gorea yn gor-cynhyrchu reis a fyddent yn 'dwmpio' eu gor-cynhyrch yn yr UDA, gan dan-seilio amaethyddiaeth yr UDA?
Cwestiynau ynglyn a Irac ........
10 A wyt ti'n derbyn (yn ol tystiolaeth dy erthyglau) bod nwy mwstard oedd yr arf cemegol a ddefnyddwyd gan Saddam yn erbyn Iran a'r Curds, bod nwy mwstard yn arf a ddefnyddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bod digon o allu gan wyddonwyr Saddam i gynhyrchu'r arf hwn, ac nid oedd rhaid i Saddam ofyn i'r gorllewin am gymorth i'w cynhyrchu, a nid oes bai ar Brydain nac America am y ffaith ei fod wedi'i ddefnyddio?
11 A wyt ti'n derbyn bod embargo arfau ar Irac wedi bod mewn bodolaeth am gyfnod hir, ac os yw cwmniau Prydeinig wedi gwerthu arfau iddo y mae bai arnyn nhw nid llywodraeth Prydain?
12 Mae America wedi ymosod Irac oherwydd olew. Felly, fyddi di'n fodlon gweld meysydd olew mwyaf y byd dan reolaeth neill ai Saddam neu (yn gynharach) gwladwriaeth Islamaidd Iran. Wyt ti'n gallu dychmygu'r canlyniadau economaidd a gwleidyddol nid i America yn unig ond i'r byd i gyd gan gynnwys Cymru?
13 Roedd y byd Arabaidd yn erbyn disodli Saddam. Gwnaeth lywodraethau'r Gwlff wrthwynebu yn gyhoeddus, a chefnogi yn breifat. Buasai ymosod ar Irac yn amhosib heb gymorth Saudi Arabia, Bahrain, Jordan, a Chiweit. A wyt ti'n derbyn bod gwledydd y Gwlff yn ofni Saddam ac Iran yn fwy na'r Satan Mawr yr UDA wrth reswm?
14 A wyt yn sylweddoli bod bodolaeth miloedd o filwyr Americanaidd dros deng mlynedd wedi peri tensiynau ym mhrenhiniaeth Saudi Arabia, ac roedd rhaid cael gwared o Saddam cyn iddynt adael? (Dyma wir reswm y rhyfel).
15 Ac yn olaf, a wyt ti'n derbyn bod yr UDA, beth bynnag eu ffaeliau, wedi gwneud mwy o les nac o ddrwg yn y byd dros y hanner ganrif diwethaf trwy wrthsefyll Nasiaeth, Stalinyddiaeth ac Islamaeth filwrol?