ceribethlem a ddywedodd:Os ga i gymryd y cyfle i ateb ar ran Eusebio (gobeithio nad wyt ti'n becso eusebio )
Dwi wedi ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau yn barod, a dwi'n meddwl byddwn i'n troi rownd mewn cylchoedd petaswn i'n ateb unwaith eto .....
Ta beth...........
Pwynt 1pogon_szczecin :
Barn pobl ydy bod bai ar Brydain ac America am y ffaith bod Saddam wedi defnyddio nwy mwstard yn erbyn Iran a'r Cwrds.
Naci - barn pobl ydi bod America a Phrydain yn anghywir i werthu'r fath arfau a thechnoleg i Iraq ac yna cwyno pam fo'r bastard Saddam yn eu defnyddio.
Dwi'n gwadu bod Prydain/ yr UDA wedi gwerthu arfau cemegol i Saddam...........
Pwynt 2pogon_szczecin :
Dwi ddim wedi gwadu bod Irac wedi cael arfau gan Prydain neu America.
Felly be yn union ydi hwn ?
pogon_szczecin :
Aelod Llipa :
A pwy werthodd yr Arfau Cemegol i Saddam yn y lle cyntaf?
Ateb: America a Phrydain.
RONG
Am yr ail waith mae'r gair 'cemegol' yn ymddangos yn nyfiniad Aelod Llipa ond dim yn f'un i .............
Pwynt 3Does yna neb wedi awgrymu fod Arbiaid yn rhy 'gyntefig' i ddatblygu arfau cemegol - dweud mae pawb mai America a Phrydain werthodd yr arfau yma i Iraq.
Wyt ti'n awgrymu gan ddweud mai nid America werthodd yr arfau yma fod America yn wlad mor hiliol nad oeddynt yn fodlon gwerthu arfau i Arabiaid?
Nag ydw.
Pwynt 4Pogon, wyt ti erioed wedi bod i America a gwylio'r nonsens mae nhw yn ei alw'n raglenni newyddion?
Fues i yn America rhai wythnosau wedi'r 'rhyfel' diweddaraf yn Iraq, a roedd un sianel yn rhedeg pol piniwn yn gofyn os mai Iran neu Gogledd Corea oedd y wlad oedd bellach yn peryglu heddwch y byd ...
Mae'n amlwg nad oeddynt yn gweld mai ei llywodraeth eu hunain oedd yn peryglu heddwch y byd - unai hynny neu bod eu perchnogion yn dweud na fyddai'n beth call i ymosod ar y llywodraeth ...
Dwi ddim yn gweld eu rhaglennu newyddion yn aml....
Dwi'n darllen 'the Onion' yn aml iawn.
Os yw trigolion yr UDA ishe darllen safbwynt gwahanol mae lot fawr o wybodaeth ar y we .........
Yn fy marn i nid America sy'n peryglu heddwch y byd, ond yn hytrach ei sicrhau ............
Mae'r holl bwyntiau yma wedi eu gosod yn wrth gronolegol. Ond maent oll ar y dudalen yma ac felly yn hawdd i'w darganfod
I fod yn onest dwi ddim yn meddwl bod fy atebion yn helpu lot, ond dwi wedi ateb y pwyntiau i gyd, (am yr ail dro o leiaf)