'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Maw 23 Medi 2003 9:33 pm

Dyfyniad:
Dyfyniad:


A phwy felly gwnaeth eu gwerthu?


Mae'r dyfyniad uchod yn awgrymu yn gryf dy fod yn sicr nad oes digon o allu gan Arabs i gynyrchu arfau chemegol eu hunain.

Pam?

Am eu bod yn is-hil falle?


Dadl pathetig, yn amlwg wyt ti wedi cael dy hyn mewn i dwll ac felly yn ceisio dod allan ohoni trwy awgrymu pethau sydd yn amlwg ddim yn wir.

Does dim unrhyw frawddeg dwi wedi dweud ar y maes hwn erioed yn awgrymu fy mod yn credu fy un hil yn "uwch" nac yn "is" nac unrhyw hil arall.

Mae'r hyn a ddywedais uchod yn deillioo o'r ffaith fod y Cenhedloedd Unedig, ymysg eraill, wedi datgan nad ydynt wedi darganfod y gallu i wneud arfau cemegol o fewn Irac.
Os nad ydynt wedi darganfod y gallu yma o fewn Irac, ond eto mae'r arfau gan Irac, yna mae'n rhaid fod Saddam wedi eu prynu yn rhywle.

Mae datgan ffeithiau tebyg i hyn ddim yn beth hiliol i'w wneud. Nid ydwyf erioed wedi honni fod gallu yr Arabiaid yn uwch nac yn is na gallu unrhyw hil arall yn y byd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 23 Medi 2003 10:40 pm

Pogon a ddywedodd:Gwrthsefyll Saddam Hussein yn ymosod ar Giweit, gwrthsefyll rhywun yn amlwg off ei ben yn rheoli reserfs olew mwyaf y byd, gwrthsefyll rhywun a ddefnyddiodd arfau chemegol yn erbyn ei bobl ei hun.

Cyfnewider Bush am Iraq, Affganistan a oilfileds Kazhakstan nawr yn y frawddeg hon:

gwrthsefyll rhywun yn amlwg off ei ben yn rheoli reserfs olew mwyaf y byd,


Fel dwedodd Ceri, roedd y rhyfel i wrthwynebu Saddam yn Ciiweit 13 mlyned nol, roedd sefyllfa Irac yn 2003 yn dra gwahanol. Doedd dim prawf fod arfau yno.

Ydi o ddim yn poeni ti fod y rhyfel yma wedi cael ei seilio ar glwyddau, fod y rhyfel yma wedi bod yn gynllwyn ers cyn 9/11, fod y rhyfel yma wedi dod nid allan o deimlad humanitarian dros y Cwrdiaid a'r Iracis eraill ond oherwydd hunan-ddiddordeb, ydi o ddim yn poeni ti fod yr UN wedi ei thanseilio, ydi o ddim yn poeni ti fod gwledydd eraill nawr mewn peryg o ymosodiad oherywdd y precedent mae hyn wedi ei osod, ydi o ddim yn poeni ti fod yr US yn floutio pob confensiwn rhyfel sy'n bod yn Guantanamo Bay, ydi o ddim yn poeni ti mai dim fod un gwlad yn gallu mynd yn ei blaen a chreu nyth cacwn yn y Dwyrain Canol drwy ei ymyrryd parhaol, yd i o ddim yn poeni ti fod Israel yn cael arian gan y wlad berffaith hon i wasgu'r Palestiniaid i'r llawr a WEDYN gneud o allan fod o'n angnhygoel fod suicide bombers yn bodoli addim yn stopio bomio (dwi'm yn cytuno efo nhw, ond ffycin hel allai weld lle mae'r casineb yna'n dod), yd i o ddim yn poeni ti fod yr US wedi gosod system lle mae pob galwad ffo a phob ebost yn gallu cael eu tracio a threiddio mewn i fywyd pob unigolyn yn y wlad (os nad symudiad at wald ffasgaidd reoledig ydi hon dwi'm yn gwybod be sydd), ma'n poeni'r ffwc allan ohona i.

A paid a insyltio fy intielijyns (hynny sgeni !) drwy ddweud bo ni'n bod yn hiliol tuag at Arabiaid yn deud fod nhw ddim yn capable o adeiladu taflegrau ac ati, wrtth gwrs eu bod nhw, ond ddim heb y deunyddiau crai a'r technoleg, sydd oll yn cael ei ddatblygu yn yr UDA, Ffrainc, Rwsia, Prydain, Israel, Almaen. Wrth gwrs eu bod nhw, ond mae'n nhw'n gorfod ei gael o o rywle tydyn? A lle ddoth o...gweler uchod.

Reit dwi'n mynd i gwely dwi'n dipresd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan pogon_szczec » Mer 24 Medi 2003 12:17 pm

Er bod rhai ar y maes wedi awgrymu bod Arabs yn rhy 'gyntefig' i ddatblygu arfau chemegol eu hunain, a nad oedd digon o ddychymyg ganddynt i'w defnyddio, ac felly yr oedd rhaid i'r Satan Mawr, yr UDA, i'w sbarduno i wneud hynny, ni allaf gytuno gyda'r sylwadau hiliol uchod.

Yn wir defnyddiodd Irac nwy mwstard yn erbyn Iran, ond roedd y technoleg i wneud hynny wedi bodoli am gan mlynedd, gan fod nwy mwstard wedi'i ddefnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

'Falle mod i'n rong, ond meddyliaf y byddai'r Athrawes Ameesh gyda Phd o Brifysgol yn America (pennaeth datblygu arfer chemegol o dan Saddam) yn ddigon gall i wybod sut mae cynhyrchu'r math na o hen arfau, er ei bod yn Arabes 'gyntefig'.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan eusebio » Mer 24 Medi 2003 12:32 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Er bod rhai ar y maes wedi awgrymu bod Arabs yn rhy 'gyntefig' i ddatblygu arfau chemegol eu hunain, a nad oedd digon o ddychymyg ganddynt i'w defnyddio, ac felly yr oedd rhaid i'r Satan Mawr, yr UDA, i'w sbarduno i wneud hynny, ni allaf gytuno gyda'r sylwadau hiliol uchod.

Yn wir defnyddiodd Irac nwy mwstard yn erbyn Iran, ond roedd y technoleg i wneud hynny wedi bodoli am gan mlynedd, gan fod nwy mwstard wedi'i ddefnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

'Falle mod i'n rong, ond meddyliaf y byddai'r Athrawes Ameesh gyda Phd o Brifysgol yn America (pennaeth datblygu arfer chemegol o dan Saddam) yn ddigon gall i wybod sut mae cynhyrchu'r math na o hen arfau, er ei bod yn Arabes 'gyntefig'.


Wyt ti'n thick ta be?
Does yna neb wedi awgrymu fod Arbiaid yn rhy 'gyntefig' i ddatblygu arfau cemegol - dweud mae pawb mai America a Phrydain werthodd yr arfau yma i Iraq.

Wyt ti'n awgrymu gan ddweud mai nid America werthodd yr arfau yma fod America yn wlad mor hiliol nad oeddynt yn fodlon gwerthu arfau i Arabiaid?

:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Aelod Llipa » Mer 24 Medi 2003 12:33 pm

Ai cyd ddigwyddiad yw'r ffaith fod America wedi ymyrryd ym musnes mwy o wledydd eraill ar draws y Byd na neb arall?
Mae'n hen bryd i rhywun eu haddysgu o'u pechodau eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Cardi Bach » Mer 24 Medi 2003 1:32 pm

Pogon bach,

pogon a ddywedodd:Yn wir defnyddiodd Irac nwy mwstard yn erbyn Iran, ond roedd y technoleg i wneud hynny wedi bodoli am gan mlynedd, gan fod nwy mwstard wedi'i ddefnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf.


A bu i Brydain ddefnyddio nwy mwstard yn y Rhyfel Byd 1af, a bu i Churchill ddatblygu Anthrax (mae ynys Gruinard yn yr Alban yn dal i fod yn wenwynig o'r herwydd), a bu i America ollwng ddwy bom Niwclear ar Japan...ayb ayb

chware teg, ti'n cadw fynd er fod dim dadl yn y byd gyda ti.

licen i gyfeirio at Ciweit yn sydyn.

Nid yw Ciweit yn wlad yn yr ystyr hanesyddol yn un peth. Roedd hi'n perthyn i bobl y Shiaits (De Irac heddiw), ond yn y cyfnod wrth fod ymerodraethau yn dod i ben fe rannodd gwladweinwyr ardaloedd y byd lan trwy dynnu llinellau ar fap. Crewyd Irac allan o dair cenedl nad oedd yn cyd-fyw yn gyfforddus (Shiaits, Sunis a Chwrdiaid) a chollodd llawer o'r bobl yma eu tiroedd (Rhannwyd Cwrdistan ee) a chrewyd gwlad newydd arall, Ciweit, a hynny o amgylch cyfoeth yr olew yno a'r ffaith ei fod yn amgylchynnu bae naturiol i allforio – holl bwysig i gael rheolaeth milwrol ac economaidd o’r gwlff. Rhesymau economaidd Gorllewinol.

Wyt ti'n credu fod hyn yn iawn? Wy ddim.

Yn hynny o beth roedd gweithred Saddam nol yn 1990 ddim ond yn gam naturiol iddo fel gwladweinydd (ffiaidd) Irac. Ond byddai colli Ciweit wedi golygu colli ffortiwn mewn olew a man strategol perffaith i reoli y Dwyrain Canol.

Ta waeth.

Pam wyt ti'n dadlau gyda Ceri mai EI FARN yw fod Prydain ac America wedi gwerthu arfau i Saddam am ei fod yn 'wrth-Americanaidd'?

Nid barn mo hyn. Ffaith yw hyn. Punnai wyt ti'n pro neu anti America gelli di ddim newid ffeithiau hanesyddol. Fel dywedodd Ceri, roedd y Gorllewin (America a Phrydain) am dawelu ‘bygythiad’ Iran Islamaidd Ffwndamentalaidd, felly bu iddyn nhw werthu arfau dinistr enbyd, yn gemegol a biolegol, i Saddam. Mae hyn yn archifau’r MoD a’r Llywodraeth Brydeinig, ac mae rhai o’r dogfennau yn agored i’r cyhoedd. Roedd Prydain hefyd wedi gwerthu gorsaf Niwclear i Irac yn y cyfnod yma!

A chofia, falle bo ti am wadu hyn am Irac nawr, 20 mlynedd yn ddiweddarach, ond cofia fod Prydain ac America (a gwledydd eraill) yn gerthu arfau a deunydd ar gyfer arfau i lywodraethau Indonesia, Israel, India, Pakistan a llu o wledydd a record dyngarol erchyll eraill, nawr. Pan fyddPrydain am rheibio’r gwledydd yma o’u hadnoddau ymhen degawdau a nhwythau yn ymladd yn ol cofia pwy werthodd yr arfau iddyn nhw.

Mae 17 cwmni Prydeinig yn cael eu archwilio am werthu deunydd niwclear, biolegol a chemegol i Irac:
“UK firms that sold arms to Iraq
Key: A -- nuclear, B -- biological, C -- chemical, R -- rocket, K -- conventional
Euromac Ltd-UK (A)
C Plath-Nuclear (A)
Endshire Export Marketing (A)
International Computer Systems (A, R, K)
MEED International (A, C)
Walter Somers Ltd. (R)
International Computer Limited (A, K)
Matrix Churchill Corp. (A)
Ali Ashour Daghir (A)
International Military Services (R)
Sheffield Forgemasters (R)
Technology Development Group (R)
International Signal and Control (R)
Inwako (A)
TMG Engineering (K)
XYY Options, Inc (A)”


Dyma i ti rai lincs pellach o nghof:

http://observer.guardian.co.uk/iraq/story/0,12239,811109,00.html

http://www.caat.org.uk/information/magazine/1201/middle-east.php

http://www.casi.org.uk/info/usdocs/usiraq80s90s.html

http://web.amnesty.org/pages/ttt4-article_7-eng

http://www.oneworld.org/ibt/ibt_war_regions.html

http://www.scoop.co.nz/mason/stories/HL0212/S00126.htm

http://www.sundayherald.com/print31710

“Throughout the eight-year Iran-Iraq war, the British government assured the public that it was not selling 'lethal equipment' to either side. Evidence given to the current inquiry by Lord Justice Scott into arms sales to Iraq has revealed that this policy was for public consumption only. In reality, Britain was one of the 26 countries which sold military equipment to both countries, prolonging a war which is estimated to have cost more than a million lives and - once the value of destroyed infrastructure is included - as much as $600 billion. The bulk of Western arms sales went to Iraq. The West and the former Soviet Union backed Saddam Hussein in order to contain Iranian Islamic fundamentalism. Western countries were particularly concerned to protect their access to Saudi Arabian oil. This policy backfired. The Soviets and the West had armed a brutal dictator who used these weapons to attack oil-rich Kuwait. Western forces soon found themselves at the wrong end of their own weapons.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan pogon_szczec » Mer 24 Medi 2003 4:14 pm

Dwi ddim wedi gwadu bod Irac wedi cael arfau gan Prydain neu America.

Wrth gwrs dylai Prydain ac America fod wedi arfogi Irac pryd hynny.

Son am arfau chemegol yn unig ydw i.

Barn pobl ydy bod bai ar Brydain ac America am y ffaith bod Saddam wedi defnyddio nwy mwstard yn erbyn Iran a'r Cwrds.

Ond fel yr ysgrifennais nid anodd ydi cynhyrchu nwy mwstard am ei fod yn hen dechnoleg.

Felly nid oedd rhaid i Saddam gael help gwledydd drygion y gorllewin i ladd pobl.

Y dystiolaeth yn fy erbyn ydi'r ffaith bod America a Phrydain yn wledydd drygion a felly os yw rhywbeth yn mynd yn rong yn y dwyrain canol rhywsut rhaid eu bod yn gyfrifol ...........
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan eusebio » Mer 24 Medi 2003 4:24 pm

blydi hell - wyt ti wedi darlen pwynt unrhyw berson arall yn y ddadl yma?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 24 Medi 2003 4:26 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Dwi ddim wedi gwadu bod Irac wedi cael arfau gan Prydain neu America.


Felly be yn union ydi hwn ?

pogon_szczecin a ddywedodd:
Aelod Llipa a ddywedodd:A pwy werthodd yr Arfau Cemegol i Saddam yn y lle cyntaf?
Ateb: America a Phrydain.


RONG
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan eusebio » Mer 24 Medi 2003 4:28 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Barn pobl ydy bod bai ar Brydain ac America am y ffaith bod Saddam wedi defnyddio nwy mwstard yn erbyn Iran a'r Cwrds.


Naci - barn pobl ydi bod America a Phrydain yn anghywir i werthu'r fath arfau a thechnoleg i Iraq ac yna cwyno pam fo'r bastard Saddam yn eu defnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron