'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan eusebio » Sul 28 Medi 2003 10:11 pm

[quote="pogon_szczecin]A gyda llaw gwnaeth Thatcher fyd o les i Brydain ..........

Oherwydd 20 blynedd o reolaeth Toriaid mae gyda ni diweithdra isaf y gymuned Ewropiaidd. (Dwi'n meddwl).[/quote]


Be di'r ni 'ma?
Rhai negeseuon yn ôl roeddem yn cael darlith am fywyd o dan gomiwnyddiaeth a roeddet yn dweud na allwn siarad am sosialaeth/gwleidyddiaeth asgell chwith gan nad oeddem wedi byw o dan y fath lywodraeth ...

... ond erbyn hyn ...

:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Medi 2003 10:21 pm

Ni ydi pobl y Deyrnas Unedig lle ces i fy ngeni a'm magu.

Siarad am brofiad ngwraig, ei theulu, ffrindiau o'n i.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan eusebio » Sul 28 Medi 2003 10:29 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Ni ydi pobl y Deyrnas Unedig lle ces i fy ngeni a'm magu.


Ond os ti'n byw yng Ngwlad Pwyl, nid oes gen ti hawl, yn ôl dy logic bizzarre di, o ddweud wrthym ni sut mae bywyd wedi gwella yng Ngwledydd Prydain.

I fod yn onest, dwi'n dechrau laru ar dy ddadleuon tylliog tiu'n un o'r pobl 'ma sydd yn cael cic allan o ddadlau er mwyn dadlau.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Medi 2003 10:41 pm

Ond os ti'n byw yng Ngwlad Pwyl, nid oes gen ti hawl, yn ôl dy logic bizzarre di, o ddweud wrthym ni sut mae bywyd wedi gwella yng Ngwledydd Prydain.


Nes i ddim ddweud hynny. Ond mae profiad uniongyrchol yn helpu deallusrwydd wrth gwrs

I fod yn onest, dwi'n dechrau laru ar dy ddadleuon tylliog tiu'n un o'r pobl 'ma sydd yn cael cic allan o ddadlau er mwyn dadlau.


Ymddengys dy fod ti ishe dadleu. Ond gweler sylwadau Nic ynglyn a throlio yn yr edefyn 'Plaid Annibynol Cymru'.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cardi Bach » Llun 13 Hyd 2003 4:37 pm

Gan mod i a pheth amser dyma ymdrechu arni:

pogon_szczecin a ddywedodd:1 A wyt yn derbyn bod pobl De Gorea yn well off YM MHOB FFORDD na phobl Gogledd Gorea?

Nagw. Ma hwn yn ymddangos yn hurt braidd. Mae yna dlodi ac anhegwch yn y ddwy wlad. Mae Gogledd Korea yn cael ei reoli gan drefn filitaraidd ffiaidd sydd yn Gomiwnyddol mewn enw ond ddim mewn gweithred. Mae De Korea gyda chyfoeth enbyd yn nwyl;o'r ychydig a'r mwyafrif llethol yn dioddef o dlodi enbyd. Does dim un system yn gweithio.

pogon_szczecin a ddywedodd:2 A wyt yn derbyn eu bod yn well off oherwydd (a) cyfalafiaeth (b) ymyrraeth yr UDA?

Mae hon wedi ei lunio gyda ti yn cymryd yn ganiataol mod i'n derbyn fod y de yn 'well' na'r gogledd. Un wlad yw Korea sydd wedi ei rannu oherwydd uchelgais gyfalafol y Gorllewin. Mae cyfalafiaeth yn ei hanfod yn golygu fod rhai yn gyfoethog a'r gweddill yn dlotach. Un cacen sydd - yn naturiol wrth fod 5% o'r bobl yn cymryd 95% o'r gacen, does dim gwahaniaeth pam mor galed mae'r 95% arall am weithio achos dim ond 5% o'r gacen sydd ar ol ta waeth beth. Mae ymyrraeth yr UDA - ym mhob achlysur - wedi golygu dioddefaint i filiynnau - gellir ddim gwadu hyn, a 'the end never justifies the means".

pogon_szczecin a ddywedodd:3 Ac os ynt yn well off oherwydd ymyrraeth yr UDA a ddylent fod yn ddiolchgar i'r wlad honna?

Gan nad ydynt yn well does dim byd i ddiolch. Dychmyga fod ganddo ti blentyn anystywallt sydd a thrafferthion dysgu, ond mi wyt ti'n deall dy blentyn ac yn gallu ei drin, ac mae gobaith o'i drin y byddai'n gwella. Serch hynny mae'r awdurdodau yn dweud tyff ac fod yn rhaid cymryd dy fab i ffwrdd iw roi mewn seilam lle y bydd yn dioddef yn enbyd. Er dy brotestio dy fod yn gwybod y byddai dy fab yn gwella ac mai amynedd sydd ei angen ac amser, ma nhw'n cymryd dy blentyn a dyna'r olaf i ti ei weld, ond ti'n gwbod yn iawn, o trac record yr awdurdodau, fod dy blentyn yn dioddef neu o bosib yn marw. A fyddet ti'n protesto i gadw'r plentyn? A fyddet ti'n protesto yn erbyn ymyrraeth yr awdurdodau? Dyw'r awdurdodau ddim yn adnabod y plentyn, ac yn poeni dim amdano. (Hwn yw'r gymharieth ore fi'n gallu dod lan gyda ar y foment! Falle ddaw un gwell toc...os odw i'n arsed.)

pogon_szczecin a ddywedodd:4 Wyt ti'n meddwl bod rhywun yn lladd ei hun yn ddadl da? Os felly, fuaset newid dy farn o 'Bakis' petasai RET79 yn lladd ei hun fel protest yn eu herbyn?
:ofn:
Os mai cyfeirio at 'suicide bombings' wyt ti. fi erioed wedi gweud mod i'n cytuno a nhw. Mae'n ddull ffiaidd o gael nges drosodd. Mae unrhyw ladd yn ddull ffiaidd o ennill dadl neu gipio grym/tior/arian unrhywbeth. Fi yn cydymdeimlo a rhwystredigaeth y bobl, ac yn deall eu rhwystredigaeth. Dyw rhywun ddim yn dod at y penderfyniad o chwythu eu hunen lan yn ysgafn - nid dyma dy 'first-port-of-call' mewn protest! Mae hyn yn dangos dy ddiffyg-dealltwriaeth o hanfod protestio a sefyll lan yn erbyn y bwli.

pogon_szczecin a ddywedodd:5 A wyt ti wedi clywed o 'brotectionism' fel alternatif i farchnadoedd rhydd? A wyt ti'n gwybod bod 'protectionism' yn rhannol gyfrifol am 'Dirwasgiad Mawr' y tridegau?

Odw fi wedi clywed am 'protectionsim'. Wy ddim yn cyd-fynd a 'protectionism', ond wy chwith ddim yn cyd-fynd a'r farchnad rydd. Mae'n rhaid i genhedloedd ddysgu i gyd-fyw a rhannu adnoddau yn deg pan a lle fo eisiau heb gael eu dylanwadu gan gwmniau ariangar sydd yn pryderi am y 'bottom-line'. Mae'r farchnad rydd yn golygu fo America yn sybsideiddio diwydiant cotwm America lawer mwy na eu cymorth i wledydd datblygiedig. Mae cotwm America yn cael ei orfodi ar wledydd y trydydd byd, sydd hefyd yn ddibynnol ar gotwm, ac yn gwneud cotwm gwledydd y trydydd byd yn ddiwerth oherwydd y syrplys mewn cotwm sy'n cael ei sybsideiddio gan lywodraeth America. Dyna yw grym y farchnad rydd heddiw. Wyt ti'n meddwl fod hyn yn iawn? Fi ddim.

pogon_szczecin a ddywedodd:6 A wyt ti'n gwybod bod diwydiant yn yr UDA yn dioddef o fewnforion o'r dwyrain pell a nid yw marchnadoedd rhydd yn broses sy o les i'r UDA yn unig? Fyddi di'n cefnogi y rhai yn yr UDA sy'n gwrthwynebu mewnforio o lefydd fel Corea?

falle fod rhai busnesau ac eldennau o ddiwydiannau yn dioddef, ond yn sicr dyw America ddim. Un enghraifft o Ewrop yn ennill yn erbyn America yw'r Steel Tariffs - hynny am eu bont yn blatant o anghyfreithlon. Ond ewrop yw hwnna - beth am y gwledydd nad sydd ar un grym a Ewrop? Diolch byth yn Cancun fe unon nhw, y G23. 23 o wledydd sy'n datblygu yn cael eu arwain gan Brasil a China yn sefyll lan yn erbyn grym America. Petai'r rhain yn gosod tariffs ar America a Phrydain ac yn mynd yn gyfoethocach o ganlyniad ac America yn colli grym, a fyddet ti'n eu cefnogi? (bydden i ddim gyda llaw - does dim pwynt cael gwared o un drefn anghyfiawn gyda un arall).

pogon_szczecin a ddywedodd:7 'Nid arian yw popeth, ond mae'n helpu'. A fyddai astudio economeg fod o gymorth i ti?
:lol: A fyddai astudio moesoldeb yn dy helpu di? :winc: Odw i fod cymryd hwn o ddifri?

pogon_szczecin a ddywedodd:8 A yw o les i gwnswmers Corea cael reis rhad a chwnswmers America nwyddau electronig rhad? Dyna beth ydi marchnad rhydd .........

Eh?...eto na i gyfeirio ti at fy ateb uchod - cenhedloedd i fod o gymorth iw gilydd pan fo angen ayb Mae e o les i Korea gael yr hawl i werthu ei reis ar 'level playing field' a gweddill y byd, heb gael reis o America wedi ei orfodi arnyn nhw gan dan brisio ei cynnyrch nhw! O fewn y system sydd ohoni dyna sydd angen. Wrth gwrs mae Utopia yn wahanol :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cardi Bach » Llun 13 Hyd 2003 4:56 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:
9 Pe bai De Gorea yn gor-cynhyrchu reis a fyddent yn 'dwmpio' eu gor-cynhyrch yn yr UDA, gan dan-seilio amaethyddiaeth yr UDA?

hal lythyr at y Korean Ambassador ym Mhwyl i ffindo mas!


pogon_szczecin a ddywedodd:10 A wyt ti'n derbyn (yn ol tystiolaeth dy erthyglau) bod nwy mwstard oedd yr arf cemegol a ddefnyddwyd gan Saddam yn erbyn Iran a'r Curds, bod nwy mwstard yn arf a ddefnyddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bod digon o allu gan wyddonwyr Saddam i gynhyrchu'r arf hwn, ac nid oedd rhaid i Saddam ofyn i'r gorllewin am gymorth i'w cynhyrchu, a nid oes bai ar Brydain nac America am y ffaith ei fod wedi'i ddefnyddio?
odw. Er rhaid nodi os mai dyma yw'r rheswm dros fynd i ryfel pam na aethpwyd i ryfel nol yn yr 80au, neu pam y bu i Bush alw 'cease-fire' yn '90 heb ymdrechu i gipio Saddam a'r Ba'athists?

pogon_szczecin a ddywedodd:11 A wyt ti'n derbyn bod embargo arfau ar Irac wedi bod mewn bodolaeth am gyfnod hir, ac os yw cwmniau Prydeinig wedi gwerthu arfau iddo y mae bai arnyn nhw nid llywodraeth Prydain?
Llywodraeth Prydain sy'n sybsideiddio nifer o'r cwmniau yma (BAA ayyb) a Llywodraeth Prydain, America, Almaen, Ffrainc ayb werthodd yr arfau iddo yn y 70au/80au, ac yn ymwybodol fod cwmniau Prydeinig hefyd yn gwneud. Nid yw'r llywodraeth yn ddiniwed fel wyt ti'n awgrymu. :drwg:

pogon_szczecin a ddywedodd:12 Mae America wedi ymosod Irac oherwydd olew. Felly, fyddi di'n fodlon gweld meysydd olew mwyaf y byd dan reolaeth neill ai Saddam neu (yn gynharach) gwladwriaeth Islamaidd Iran. Wyt ti'n gallu dychmygu'r canlyniadau economaidd a gwleidyddol nid i America yn unig ond i'r byd i gyd gan gynnwys Cymru?
So mae'n well cal Tyrant gwyn Neo-Con so called Cristion i dreisio gwlad ac elwa na Arab doji?! Iawn falle achos fod Prydain yn bartneriaid masnachu ag America y byddwn ni'n elwa. Ti'n amlwg, o dy neges yn meddwl fod hynny'n iawn. Beth am weddill y byd? Mae yn dy neges ofn fod y pwer bydol, a chyfoeth, yn mynd i gael ei drosglwyddo i Arab neu rywun 'lliw' - nad sy'n wyn - O NA! BYDD Y 'WHITES' YN LEIAFRIF TLAWD!!!!!!!!! Whoopeee shit - wy'n becso'r dam punnai Saddam neu Bush sy'n rhedeg yr olew - pwy bynnag un, fydd yna dal i fod 95% o boblogaeth y byd yn byw mewn tlodi enybd - hwnna yw'r broblem, a dyw bobo gwlad dlawd a phobl ddiniwed yn neud dim i helpu'r peth!

pogon_szczecin a ddywedodd:13 Roedd y byd Arabaidd yn erbyn disodli Saddam. Gwnaeth lywodraethau'r Gwlff wrthwynebu yn gyhoeddus, a chefnogi yn breifat. Buasai ymosod ar Irac yn amhosib heb gymorth Saudi Arabia, Bahrain, Jordan, a Chiweit. A wyt ti'n derbyn bod gwledydd y Gwlff yn ofni Saddam ac Iran yn fwy na'r Satan Mawr yr UDA wrth reswm?
Na, ma nhw'n ofni'r ddwy. Irac am mai hwnna sydd yn uniongyrchol drw nesa, ac America achos bod America wedi bygwth Trade Tariffs ayb arnyn nhw!!! Dyw 'r ffaith fod y gwledydd yma wedi cefnogi America yn dawel ddim yn gwneud gwahaniaeth - dy'n nhw ddim yn ddiniwed, ac ariangarwyr y'n nhw hefyd, fel y mwyafrif o lywodraethau. Nethon nhw chwarae'r gem - beth oedd mwyaf proffidiol iddyn nhw. sdim moesau yn perthyn i arian - lwmpyn o fetel a phapur yw e.

pogon_szczecin a ddywedodd:14 A wyt yn sylweddoli bod bodolaeth miloedd o filwyr Americanaidd dros deng mlynedd wedi peri tensiynau ym mhrenhiniaeth Saudi Arabia, ac roedd rhaid cael gwared o Saddam cyn iddynt adael? (Dyma wir reswm y rhyfel).
Fi ddim yn deall hwn o gwbwl...ti wedi ngholli i.

pogon_szczecin a ddywedodd:15 Ac yn olaf, a wyt ti'n derbyn bod yr UDA, beth bynnag eu ffaeliau, wedi gwneud mwy o les nac o ddrwg yn y byd dros y hanner ganrif diwethaf trwy wrthsefyll Nasiaeth, Stalinyddiaeth ac Islamaeth filwrol?

Do, mi wnath America wrthwynebu rhain i gyd, ond bethoedd eu cymhellion? Petain nhw ddim yn elwa o hyn a fyddent wedi gwrthsefyll? Anhebygol, achos ma nhw wedi ariannu ac arfogi sawl gwlad ffiaidd neu carfan o bobol ffiaidd dros y blynyddoedd - ma nhw dal i arfogi rhai grwpiau Islamaidd ffwndamental. Eto byth dy'n nhw ddim yn gweld yw mai disodli un gwael ermwyn cael un arall gwael ma nhw. Twpdra fi'n galw hyn - gwallgo - gwall ar y cof. Os odyn nhw'n hollol gyfiawn yna pam cadw arfogi pobol ffiaidd heddiw (sydd o fydd iddyn nhw) ayb ayb - eniwei, fi'n bord nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cardi Bach » Maw 14 Hyd 2003 10:50 am

pogon_szczecin a ddywedodd:

11 A wyt ti'n derbyn bod embargo arfau ar Irac wedi bod mewn bodolaeth am gyfnod hir, ac os yw cwmniau Prydeinig wedi gwerthu arfau iddo y mae bai arnyn nhw nid llywodraeth Prydain?


A gyda llaw, roedd yna ffair arfau yn nociau Llundain fis yn ol. Y Llywodraeth Brydeinig a'i hyrwyddodd a noddodd, a Geoff Hoon agorodd y ffair yn ffurfiol. Ro'n nhw'n gwerthu arfau i Israel, Pakistan, India, Indonesia a gwledydd a record hawliau dynol erchyll eraill, gyda nifer o'r gwledydd yma yn gwerthu'r arfau ymlaen i grwpiau ofnadwy eraill gyda'r llywodraeth yn llwyr ymwybodol o hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Owain Llwyd » Maw 14 Hyd 2003 11:54 am

Cardi Bach a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:15 Ac yn olaf, a wyt ti'n derbyn bod yr UDA, beth bynnag eu ffaeliau, wedi gwneud mwy o les nac o ddrwg yn y byd dros y hanner ganrif diwethaf trwy wrthsefyll Nasiaeth, Stalinyddiaeth ac Islamaeth filwrol?


Do, mi wnath America wrthwynebu rhain i gyd, ond bethoedd eu cymhellion?


Mae'n siwr bod y pwynt yma wedi cael ei godi o'r blaen, ond mae sôn am yr UDA yn gwneud hyn neu'r llall neu'r arall fel tasa'n uned seml yn anhelpfawr iawn. 'Swn i'n dweud bod llawer iawn o bethau a dylanwadau buddiol iawn wedi hanu o'r Unol Daleithiau yn ystod y 50 mlynedd diwetha, ond bod y cymhlyg diwydiannol-milwrol-llywodraethol ddim yn gyfrifol am fawr ddim o hynny o fwriad.

O ran rhesymau Americanwyr dros gwffio yn yr Ail Ryfel Byd, dw i'n credu o ddifri calon bysa nifer go sylweddol o Americanwyr arferol, o bob lliw gwleidyddol, wedi bod yn awyddus i daro ergyd yn erbyn ffasgaeth drwy ymaelodi â'r lluoedd arfog ar y pryd. Cymhellion gonest ac anrhydeddus iawn.

Dw i'n teimlo'n fwy sinicaidd am gymhellion yr elites gwleidyddol a diwydiannol. Mi oedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn coleddu cysylltiadau efo llywodraethau ffasgaidd yn Ewrop ers bod Mussolini wedi dod i rym.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan pogon_szczec » Mer 15 Hyd 2003 9:27 am

Cardi Bach a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:1 A wyt yn derbyn bod pobl De Gorea yn well off YM MHOB FFORDD na phobl Gogledd Gorea?

Nagw. Ma hwn yn ymddangos yn hurt braidd. Mae yna dlodi ac anhegwch yn y ddwy wlad. Mae Gogledd Korea yn cael ei reoli gan drefn filitaraidd ffiaidd sydd yn Gomiwnyddol mewn enw ond ddim mewn gweithred. Mae De Korea gyda chyfoeth enbyd yn nwyl;o'r ychydig a'r mwyafrif llethol yn dioddef o dlodi enbyd. Does dim un system yn gweithio.

pogon_szczecin a ddywedodd:2 A wyt yn derbyn eu bod yn well off oherwydd (a) cyfalafiaeth (b) ymyrraeth yr UDA?

Mae hon wedi ei lunio gyda ti yn cymryd yn ganiataol mod i'n derbyn fod y de yn 'well' na'r gogledd. Un wlad yw Korea sydd wedi ei rannu oherwydd uchelgais gyfalafol y Gorllewin. Mae cyfalafiaeth yn ei hanfod yn golygu fod rhai yn gyfoethog a'r gweddill yn dlotach. Un cacen sydd - yn naturiol wrth fod 5% o'r bobl yn cymryd 95% o'r gacen, does dim gwahaniaeth pam mor galed mae'r 95% arall am weithio achos dim ond 5% o'r gacen sydd ar ol ta waeth beth. Mae ymyrraeth yr UDA - ym mhob achlysur - wedi golygu dioddefaint i filiynnau - gellir ddim gwadu hyn, a 'the end never justifies the means".


Diolch am drafferthu i ateb fy nghwestiynau. Mae'r dadl yn mynd yn fwy 'aeddfed'.

Mae lot o bwyntiau yn dy atebion, ond hoffwn i ddechrau trwy drafod Corea.

Dwi ddim erioed di bod yng Nghorea, yr unig gwybodaeth sydd gennyf yw'r hyn dwi wedi'i ddarllen ar y we, mewn papurau newydd ac ati. Mae diddordeb enfawr gennyf mewn gogledd Corea fel yr wlad olaf 'Stalinaidd' sy ar y planed.

Yn gyntaf, ymddengys dy fod (a phobl yn debyg i ti) yn rhoi bai ar yr UDA, cyfalafiaeth cwmniau mawrion a y y b, am broblemau y trydydd byd.
Ond yn Ngogledd Corea, nid yw'r UDA yn dylanwadu ar y llywodraeth, nid oes cwmniau mawrion ac mae dwy filion o bobl wedi marw o newyn. Gogledd gorea, yr unig wlad ar ol ar y planed sy wedi cefnu ar gyfalafiaeth yn llwyr, yw'r lle agosaf i uffern ar y ddaear. Efallai nid cyfalafiaeth sy'n gyfrifol am broblemau'r byd?

(A gyda llaw, hyd y gwn y mae gan drigolion y De safon o fywyn eithaf da, yn debyg i rywle fel Gwlad Groeg).
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Dylan » Iau 16 Hyd 2003 10:05 am

Mae Gogledd Corea yn gwbl afiach. Y wlad mwya' ffiaidd ar y blaned dybiwn i. 'Does neb yn dweud mai "cyfaladdiaeth" sy'n gyfrifol am holl broblemau'r byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai