Welodd rhywun arall hon heno. Iesu ma'r boi na'n gallu newyddiadura, o'n i'n gandryll yn gwylio'r petha oedd o'n bwyntio allan. Pethau oedd pawb yn eu meddwl, pawb yn sicr ohonynt ond sydd wedi cael ei sgubo i'r neilltu gana dunnelli o newyddion diflas am yr Hutton enquiry. Lle ma'r stori go iawn wedi mynd? Lle ma'r stori nath gynnau tan ym moliau dros filiwn o bobl ym mis Chwefror?
Diolch i'r Aussie dewr ma siarad yn glir am be ydi gwir issues y dydd, dim hollti blew ynglyn a phwy nath ddeud be yn y BBC a cheisio gneud bwch dihangol allan ohonyn nhw (er bo nhw ddim yn ddi-euog o bell ffordd), ond son amdan y clwydda sydd wedi cale eu palu i gyhoedd America a Phrydain i guddio eu gwir amcanion. Rheolaeth.
Mae nhw wedi torri bob cyfraith ryngladol a sefydlwyd ar ol y rhyfel byd cyntaf ac oedd na broffesyr hanes modern o Rydychen yn deud y galla Blair a Bush gael eu rhoi o flaen eu gwell tasa'r un maeni prawf a osodwyd yn Nhreialon Nuremberg yn cael eu gosod iddynt hwy. H.y. eu bod wedi bod yn agressors mewn rhyfel fod hynny yn constitwtio ac yn cwmpasu pob trosedd ryfel arall.
In the week that the Hutton inquiry into the death of the British scientist Dr David Kelly releases its report, a former senior CIA official tells Pilger that the whole issue of weapons of mass destruction was "95 per cent charade".
Mae na ddeud mawr yn y rhaglen dddogfen hon, ond ma'n ddeud gan Americanwyr, nid dim ond rhyw lefties, ond pobol CIA, pobol a fu yn rhan o lywodraeth America. Un o benaethiaid intlelligence Awstralia a welodd y dogfennau a roddwyd gerbron Awstralia, Prydain a'r Amerig cyn y rhyfel.
Doedd dim arfau.,
Doedd dim cydweithio ag Al Qaeda.
Roedd hi'n ymosodiad aggressive ar wladwriaeth sofren.
Mae Colin Powell wedi ei quotio i ddeud fod civilian casualties yn "inconsequential".
Mae carcharorion Guantanamo Bay yn cael eu dal heb unrhyw hawliau dynol y buasai na sgrechian nerth eu pennau tasa Americanwyr yn cael y fath driniaeth.
A fel dwedodd un boi ar y raglen mae'r Amerig yn wlad sydd bron yn Ffasgaidd yn ei rheolaeth o'i phobol, ei newyddion, ac o'r ffordd y mae'n mynd ati i roi dychryn mewn gwledydd ar draws y bd os na chant ru ffordd eu hunain. Mae pobol sydd yn gneud dim ond pwyntio allan hawliau dynol yn cael eu cyhuddo o fod yn fradychwyr yno. Pryd ddaw i hyn yn y wlad yma? Da ni'n dilyn ddim yn rhy bell ar eu hola nhw. Ma'r holl beth yn ffycin wallgo, faint o wybodaeth da ni'n ei gael? Sgraps.
Ma'r UN wedi cael ei danseilio gan yr Ameri rwan a ma ganddyn nhw rwydd hynt i wneud be bynnag ffwc y mynnan nhw. Sut fath o ddemocratiaeth ydi hynna. Democratiaeth? Sna'm ffasiwn beth yn bodoli ond ar lefel leol yn y Gorllewin y dyddia yma. Pa ddewis sydd gan y cyhoedd? Annibyniaeth i gymru a golchi'n dwylo o'r ffycin lol ma da ni'n gorfod ei dderbyn gan lywodraeth Lloegr. Faint wir o bobol yng Nghymru oedd yn cefnogi'r rhyfel cyn i unrhyw trwps fynd draw i Irac?
Taswn i'n gallu poeri rwan ar ffurf text faswn i'n gneud... Ma'r holl sefyllfa yn ffiaidd.
Rant braidd sori ag ma'n siwr fod na lot o betha dwi heb feddwl amdanyn hw fan'na ond oedd raid i fi gael vent rwla. Nath y raglen na neud i fi isio taflu cadair mewn i'r teli.
Dwi off rwan i neud effigy o Bush allan o fara a'i sdicio yn y tostar. Lllosga'r diawl (ond ddim gormod dwisio dy fwyta di wedyn efo Vegemite. Pen gynta.)