Tudalen 1 o 9

'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

PostioPostiwyd: Llun 22 Medi 2003 11:54 pm
gan Rhodri Nwdls
http://pilger.carlton.com/ hefyd http://pilger.carlton.com/print

Welodd rhywun arall hon heno. Iesu ma'r boi na'n gallu newyddiadura, o'n i'n gandryll yn gwylio'r petha oedd o'n bwyntio allan. Pethau oedd pawb yn eu meddwl, pawb yn sicr ohonynt ond sydd wedi cael ei sgubo i'r neilltu gana dunnelli o newyddion diflas am yr Hutton enquiry. Lle ma'r stori go iawn wedi mynd? Lle ma'r stori nath gynnau tan ym moliau dros filiwn o bobl ym mis Chwefror?

Diolch i'r Aussie dewr ma siarad yn glir am be ydi gwir issues y dydd, dim hollti blew ynglyn a phwy nath ddeud be yn y BBC a cheisio gneud bwch dihangol allan ohonyn nhw (er bo nhw ddim yn ddi-euog o bell ffordd), ond son amdan y clwydda sydd wedi cale eu palu i gyhoedd America a Phrydain i guddio eu gwir amcanion. Rheolaeth.

Mae nhw wedi torri bob cyfraith ryngladol a sefydlwyd ar ol y rhyfel byd cyntaf ac oedd na broffesyr hanes modern o Rydychen yn deud y galla Blair a Bush gael eu rhoi o flaen eu gwell tasa'r un maeni prawf a osodwyd yn Nhreialon Nuremberg yn cael eu gosod iddynt hwy. H.y. eu bod wedi bod yn agressors mewn rhyfel fod hynny yn constitwtio ac yn cwmpasu pob trosedd ryfel arall.

In the week that the Hutton inquiry into the death of the British scientist Dr David Kelly releases its report, a former senior CIA official tells Pilger that the whole issue of weapons of mass destruction was "95 per cent charade".


Mae na ddeud mawr yn y rhaglen dddogfen hon, ond ma'n ddeud gan Americanwyr, nid dim ond rhyw lefties, ond pobol CIA, pobol a fu yn rhan o lywodraeth America. Un o benaethiaid intlelligence Awstralia a welodd y dogfennau a roddwyd gerbron Awstralia, Prydain a'r Amerig cyn y rhyfel.

Doedd dim arfau.,
Doedd dim cydweithio ag Al Qaeda.
Roedd hi'n ymosodiad aggressive ar wladwriaeth sofren.
Mae Colin Powell wedi ei quotio i ddeud fod civilian casualties yn "inconsequential".
Mae carcharorion Guantanamo Bay yn cael eu dal heb unrhyw hawliau dynol y buasai na sgrechian nerth eu pennau tasa Americanwyr yn cael y fath driniaeth.

A fel dwedodd un boi ar y raglen mae'r Amerig yn wlad sydd bron yn Ffasgaidd yn ei rheolaeth o'i phobol, ei newyddion, ac o'r ffordd y mae'n mynd ati i roi dychryn mewn gwledydd ar draws y bd os na chant ru ffordd eu hunain. Mae pobol sydd yn gneud dim ond pwyntio allan hawliau dynol yn cael eu cyhuddo o fod yn fradychwyr yno. Pryd ddaw i hyn yn y wlad yma? Da ni'n dilyn ddim yn rhy bell ar eu hola nhw. Ma'r holl beth yn ffycin wallgo, faint o wybodaeth da ni'n ei gael? Sgraps.

Ma'r UN wedi cael ei danseilio gan yr Ameri rwan a ma ganddyn nhw rwydd hynt i wneud be bynnag ffwc y mynnan nhw. Sut fath o ddemocratiaeth ydi hynna. Democratiaeth? Sna'm ffasiwn beth yn bodoli ond ar lefel leol yn y Gorllewin y dyddia yma. Pa ddewis sydd gan y cyhoedd? Annibyniaeth i gymru a golchi'n dwylo o'r ffycin lol ma da ni'n gorfod ei dderbyn gan lywodraeth Lloegr. Faint wir o bobol yng Nghymru oedd yn cefnogi'r rhyfel cyn i unrhyw trwps fynd draw i Irac?

Taswn i'n gallu poeri rwan ar ffurf text faswn i'n gneud... Ma'r holl sefyllfa yn ffiaidd.

Rant braidd sori ag ma'n siwr fod na lot o betha dwi heb feddwl amdanyn hw fan'na ond oedd raid i fi gael vent rwla. Nath y raglen na neud i fi isio taflu cadair mewn i'r teli.

Dwi off rwan i neud effigy o Bush allan o fara a'i sdicio yn y tostar. Lllosga'r diawl (ond ddim gormod dwisio dy fwyta di wedyn efo Vegemite. Pen gynta.)

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 8:17 am
gan nicdafis
Rhaglen anhygoel. Diolch byth am John Pilger.

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 10:06 am
gan Ifan Saer
aye, rhaglen wych, ond methu helpu a theimlo'n swp ffwcin sal erbyn y diwedd - be ma rwyn yn neud?!?

A'r pwynt gan Norman Mailer ynglyn a America ar y foment yn "pre-fascist state" - ffycin hel, mae'r boi yn llygaid ei le. Mwy na hynny, cytunodd y boi CIA neu beth bynnag a'r pwynt yma, hyd yn oed yn cynnig fod pethau wedi mynd TU HWNT i hynny!!

Mae Bush a'i griw, neu pwy bynnag sydd y tu ol iddynt, yn hollol ffwcin dieflig a chyfoglyd. Evil fuckers.

Lle mae Mr. Hicks pam ma rwyn ei angan o 'dwch?

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 11:10 am
gan Aelod Llipa
Rhaglen anhygoel.
Mae'r Americanwyr yn hollol ddall i'r hyn y maent wedi ei wneud, ac yn parhau iw wneud mewn gwledydd dros y Byd. Rhag cywilydd Mr Blair am lyfu tin y Terfysgwr Bush.

Re: 'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 11:20 am
gan pogon_szczec
[]

Re: 'BREAKING THE SILENCE' - Rhaglen John Pilger ar ITV

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 11:28 am
gan pogon_szczec
pogon_szczecin a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
A fel dwedodd un boi ar y raglen mae'r Amerig yn wlad sydd bron yn Ffasgaidd yn ei rheolaeth o'i phobol, ei newyddion, ac o'r ffordd y mae'n mynd ati i roi dychryn mewn gwledydd ar draws y bd os na chant ru ffordd eu hunain. Mae pobol sydd yn gneud dim ond pwyntio allan hawliau dynol yn cael eu cyhuddo o fod yn fradychwyr yno. Pryd ddaw i hyn yn y wlad yma? Da ni'n dilyn ddim yn rhy bell ar eu hola nhw. Ma'r holl beth yn ffycin wallgo, faint o wybodaeth da ni'n ei gael? Sgraps.


Mae Mr Nwdls yn trio profi nad oes rhyddid barn yn America, a "dan ni'n dilyn ddim yn rhy bell ar eu hola nhw".

Ond mae'r ffaith bod Mr Pilger yn gallu darledu bolycs llwyr adain chwith fel arfer ar sianel bwysig yn dangos yn amlwg nad yw hynny yn wir.

Nid yw gelynion y gorllewin erioed wedi caniatau y fath na o wrthwynebiad.

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 11:40 am
gan pogon_szczec
Ifan Saer a ddywedodd: Evil fuckers.


Oeddynt.

Hussain, y Taliban, Milosevic, al-Queda, Hitler, Stalin ..........

A diolch i Brydain a'r Unol Daleithiau gwnaethon ni lwyddo i'w gwrthsefyll.

God bless the USA and God Save the Queen!!!

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 3:46 pm
gan Aelod Llipa
A pwy werthodd yr Arfau Cemegol i Saddam yn y lle cyntaf?
Ateb: America a Phrydain.

Ydi Prydain ac America felly'n codi pais ar ol piso?
Ateb: Ydyn siwr iawn

Lle mae'r drwg yn y caws?

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 4:10 pm
gan Rhodri Nwdls
Pogon a ddywedodd:Mae Mr Nwdls yn trio profi nad oes rhyddid barn yn America, a "dan ni'n dilyn ddim yn rhy bell ar eu hola nhw".

Ond mae'r ffaith bod Mr Pilger yn gallu darledu bolycs llwyr adain chwith fel arfer ar sianel bwysig yn dangos yn amlwg nad yw hynny yn wir.

Nid yw gelynion y gorllewin erioed wedi caniatau y fath na o wrthwynebiad.

Ddylsa ti di gweld y ffordd gafodd y cyfweliad a un o;r under secrretary's ei orffan pan wnaeth John Pilger ddechrau son am civilian casualties yn irac ac Affganistan ta.

Lle mae barn adain chwith (wel ganol o'i gymharu ag America) yn cael ei arddangos yn America? Ar CNN? Ar CNBC? Ar Fox? Yn y papurau newydd? Dwi'm yn meddwl. Efallai fod eu sensoriaeth ddim mor amlwg a be rwyt ti'n galw'n "elynion y Gorllewin" (faint o'r rybish ma ti di llyncu?) ond mae yno ag yn treiddio drwy eu cymdeithas. Mae'r ffordd mae glwed gwleidyddion Americanaidd mor ddall i unrhyw ffordd arall heblaw eu ffordd nhw eu hunain yn ddychrynllyd.

Pogon a ddywedodd:Hussain, y Taliban, Milosevic, al-Queda, Hitler, Stalin ..........

A diolch i Brydain a'r Unol Daleithiau gwnaethon ni lwyddo i'w gwrthsefyll.

Gwrthsefyll Saddam Hussein? Gwrthsefyll be dwad? Acts of aggression? Weapons of Mass Destruction?

Ifan Saer a ddywedodd:ond methu helpu a theimlo'n swp ffwcin sal erbyn y diwedd - be ma rwyn yn neud?!?

Cytuno Ifan, mi gallish i ar ol chydig ond o'n i'n benwan. Be ddiawl wyt ti'n gneud? Sut wyt ti'n motivatio pobol i godi yn erbyn hyn ar raddfa fawr? Ma'r llywodraeth yn gwybod sut i reoli'r cyfryngau i dawedu pobol a gneud iddyn nhw feddwl am bethau eraill. Dyna pam ma pobol fel John Pilger a Gore Vidal mor bwysig i gadw perspectif ar y petha ma a bod yn ysbrydoliaeth i bobol gyffredin sy'n gwrthwynebu'r fath imperialaeth treisgar.[/b][/quote]

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2003 6:24 pm
gan pogon_szczec
Aelod Llipa a ddywedodd:A pwy werthodd yr Arfau Cemegol i Saddam yn y lle cyntaf?
Ateb: America a Phrydain.


RONG