Tudalen 5 o 9

PostioPostiwyd: Mer 24 Medi 2003 10:37 pm
gan pogon_szczec
ceribethlem a ddywedodd:Os ga i gymryd y cyfle i ateb ar ran Eusebio (gobeithio nad wyt ti'n becso eusebio :winc: )

Dwi wedi ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau yn barod, a dwi'n meddwl byddwn i'n troi rownd mewn cylchoedd petaswn i'n ateb unwaith eto .....

Ta beth...........

Pwynt 1
pogon_szczecin :
Barn pobl ydy bod bai ar Brydain ac America am y ffaith bod Saddam wedi defnyddio nwy mwstard yn erbyn Iran a'r Cwrds.



Naci - barn pobl ydi bod America a Phrydain yn anghywir i werthu'r fath arfau a thechnoleg i Iraq ac yna cwyno pam fo'r bastard Saddam yn eu defnyddio.


Dwi'n gwadu bod Prydain/ yr UDA wedi gwerthu arfau cemegol i Saddam...........

Pwynt 2
pogon_szczecin :
Dwi ddim wedi gwadu bod Irac wedi cael arfau gan Prydain neu America.


Felly be yn union ydi hwn ?

pogon_szczecin :
Aelod Llipa :
A pwy werthodd yr Arfau Cemegol i Saddam yn y lle cyntaf?
Ateb: America a Phrydain.


RONG


Am yr ail waith mae'r gair 'cemegol' yn ymddangos yn nyfiniad Aelod Llipa ond dim yn f'un i .............

Pwynt 3

Does yna neb wedi awgrymu fod Arbiaid yn rhy 'gyntefig' i ddatblygu arfau cemegol - dweud mae pawb mai America a Phrydain werthodd yr arfau yma i Iraq.

Wyt ti'n awgrymu gan ddweud mai nid America werthodd yr arfau yma fod America yn wlad mor hiliol nad oeddynt yn fodlon gwerthu arfau i Arabiaid?


Nag ydw.

Pwynt 4
Pogon, wyt ti erioed wedi bod i America a gwylio'r nonsens mae nhw yn ei alw'n raglenni newyddion?

Fues i yn America rhai wythnosau wedi'r 'rhyfel' diweddaraf yn Iraq, a roedd un sianel yn rhedeg pol piniwn yn gofyn os mai Iran neu Gogledd Corea oedd y wlad oedd bellach yn peryglu heddwch y byd ...

Mae'n amlwg nad oeddynt yn gweld mai ei llywodraeth eu hunain oedd yn peryglu heddwch y byd - unai hynny neu bod eu perchnogion yn dweud na fyddai'n beth call i ymosod ar y llywodraeth ...


Dwi ddim yn gweld eu rhaglennu newyddion yn aml....

Dwi'n darllen 'the Onion' yn aml iawn.

Os yw trigolion yr UDA ishe darllen safbwynt gwahanol mae lot fawr o wybodaeth ar y we .........

Yn fy marn i nid America sy'n peryglu heddwch y byd, ond yn hytrach ei sicrhau ............

Mae'r holl bwyntiau yma wedi eu gosod yn wrth gronolegol. Ond maent oll ar y dudalen yma ac felly yn hawdd i'w darganfod


I fod yn onest dwi ddim yn meddwl bod fy atebion yn helpu lot, ond dwi wedi ateb y pwyntiau i gyd, (am yr ail dro o leiaf)

PostioPostiwyd: Mer 24 Medi 2003 10:45 pm
gan eusebio
Os yr wyf i yn credu fod America wedi gwerthu arfau cemegol i'r Arabiaid, rwyf yn hiliol am i mi beidio â chredu fod y gallu gan yr Arabiaid i greu'r arfau eu hunain.

OND trwy troi y ddadl ar ei phen a defnyddio dy synnwyr anghyffredin iawn - os wyt ti yn dweud nad yw America wedi gwerthu arfau cemegol i'r Arabiaid onid yw hynny'n gwneud America yn hiliol am wrthod gwerthu'r arfau i'r Arabiaid?

Pam wyt ti'n dweud na? Alli di egluro'r logic yn fan hyn?

PostioPostiwyd: Mer 24 Medi 2003 10:51 pm
gan pogon_szczec
Felly fyddi di 'n beio yr Americanwyr os yn nhw gwerthu arfau cemegol i Saddam a mae Saddam yn ei ddefnyddio ..............

Ond os yn nhw'n gwrthod eu gwerthu y maent yn hiliol?

PostioPostiwyd: Mer 24 Medi 2003 11:02 pm
gan eusebio
pogon_szczecin a ddywedodd:Felly fyddi di 'n beio yr Americanwyr os yn nhw gwerthu arfau cemegol i Saddam a mae Saddam yn ei ddefnyddio ..............

Ond os yn nhw'n gwrthod eu gwerthu y maent yn hiliol?


Na, dwi'n trio cael chdi i sylwi fod dy logic a ddadl yn un hollol hurt.

Ti'n trio dweud ein bod ni yn hiliol tuag at Arabaiaid trwy ddweud mai America werthodd yr arfau cemegol yn hytrach na bod yr Arabiaid wedi eu datblygu.

Rwyt ti yn dweud nad ywr Americanwyr wedi gwerthu arfau cemegol i'r Arabiaid, ac felly, gan ddefnyddio yr un logic a dy ddadl di uchod, dwi'n awgrymu fod America yn hiliol am beidio gwerthu arfau i'r Arabaidi - rwan ti'n sylwi pa mor hurt mae dy gyhuddiadau o hiliaeth yn swnio?

... neu ydw i'n gwastraffu'n amser yn fan hyn?

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2003 8:30 am
gan Cardi Bach
:rolio:

Pogon, Postiwyd: Mer Medi 24, 2003 7:45 pm a ddywedodd:
Ond fy mhwynt i ydi ni wnaeth Brydain ac America werthu arfau chemegol iddo.



Fi, Postiwyd: Mer Medi 24, 2003 2:32 pm a ddywedodd:

Mae 17 cwmni Prydeinig yn cael eu archwilio am werthu deunydd niwclear, biolegol a chemegol i Irac:
“UK firms that sold arms to Iraq
Key: A -- nuclear, B -- biological, C -- chemical, R -- rocket, K -- conventional
Euromac Ltd-UK (A)
C Plath-Nuclear (A)
Endshire Export Marketing (A)
International Computer Systems (A, R, K)
MEED International (A, C)
Walter Somers Ltd. (R)
International Computer Limited (A, K)
Matrix Churchill Corp. (A)
Ali Ashour Daghir (A)
International Military Services (R)
Sheffield Forgemasters (R)
Technology Development Group (R)
International Signal and Control (R)
Inwako (A)
TMG Engineering (K)
XYY Options, Inc (A)”


Ti'n amlwg ddim yn darllen dadleuon pobol!
(Codi'r cwestiwn o beth yw'r pwynt dadlau a thi, ond fi'n siwr fod yna ruddun o ddaioni yno yn rhywle).

Mae oleia un cwmni Prydeinig wedi cael ei dal am werthu arfau a deunydd cemegol i Irac, - mae UNMOVIC yn chwilo mewn i'r mater.

A beth bynnag os mai dy unig ddadl yw nwy mwstard, yna beth ddiawl y'n ni'n dadle am? Iawn, cydnabod, falle bydde Saddam ai wyddonwyr wedi mynd ati i ddatblygu nwy mwstard eu hun, ond odd Prydain yn gwerthu deunydd niwclear!!! Ma fwy o arfau cemegol na jyst nwy mwstard fyd!
Paid di-ystyri pwer arian - os oes yna arian iw wneud yna does dim gwahaniaeth beth ti'n werthu nag i bwy, cyn belled a fod cyfoeth yn cael ei wneud! Dyna agwedd Prydain ac America (a llawer o wladwriaethau eraill), a dyna yw ffieidd-dra cyfalafiaeth.

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2003 9:00 am
gan pogon_szczec
Dwi wedi darllen popeth !!!!!!!!!!!

Os yw cwmniau neu unigolion o Brydain wedi gwerthu cemegau peryglus i Saddam yn erbyn ewyllys ein llywodraeth yn amlwg mae bai arnyn nhw, nid y llywodraeth.

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2003 9:02 am
gan eusebio
... dal i ddisgwyl ateb i fy mhwynt i ...

:rolio:

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2003 9:15 am
gan pogon_szczec
Mae'n bosibl sgwenu dadleuon hir a chymleth am y pwnc dan sylw ond dwi ddim yn meddwl bod Cymraeg ddigon dda 'da fi i wneud hynny.

Er hyn, mae fy nadleuon yn eithaf syml yn y bon:

Dwi'n meddwl fy mod yn gwybod digon i weud bod y byd yn well off heb y Taliban a heb Saddam.

Felly, dylen ni fod yn ddiolchgar i wlad sy'n cael gwared ohonynt ........

A 'na fe.

Dim yn 'intellectual' iawn ond yn wir .................

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2003 9:25 am
gan Cardi Bach
pogon_szczecin a ddywedodd:Mae'n bosibl sgwenu dadleuon hir a chymleth am y pwnc dan sylw ond dwi ddim yn meddwl bod Cymraeg ddigon dda 'da fi i wneud hynny.

Er hyn, mae fy nadleuon yn eithaf syml yn y bon:

Dwi'n meddwl fy mod yn gwybod digon i weud bod y byd yn well off heb y Taliban a heb Saddam.

Felly, dylen ni fod yn ddiolchgar i wlad sy'n cael gwared ohonynt ........

A 'na fe.

Dim yn 'intellectual' iawn ond yn wir .................


Oce, a finne'n meddwl y bydd y byd yn well off heb George W Bush a llywodraeth asgell dde America, Tony Blair a llywodraeth asgell Dde Prydain, John Howard a Llywodraeth Asgell Dde Awstralia...

A dylen ni fod yn ddiolchgar i'r gwledydd sy'n cael eu gwared? Os mai America a Phrydain a Awstralia sy'n cael eu gwared yna dylen.

A 'na fe.

Dim yn 'intellectual' iawn ond yn wir...i fi.

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2003 9:26 am
gan pogon_szczec
eusebio a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:Felly fyddi di 'n beio yr Americanwyr os yn nhw gwerthu arfau cemegol i Saddam a mae Saddam yn ei ddefnyddio ..............

Ond os yn nhw'n gwrthod eu gwerthu y maent yn hiliol?


Na, dwi'n trio cael chdi i sylwi fod dy logic a ddadl yn un hollol hurt.

Ti'n trio dweud ein bod ni yn hiliol tuag at Arabaiaid trwy ddweud mai America werthodd yr arfau cemegol yn hytrach na bod yr Arabiaid wedi eu datblygu.

Rwyt ti yn dweud nad ywr Americanwyr wedi gwerthu arfau cemegol i'r Arabiaid, ac felly, gan ddefnyddio yr un logic a dy ddadl di uchod, dwi'n awgrymu fod America yn hiliol am beidio gwerthu arfau i'r Arabaidi - rwan ti'n sylwi pa mor hurt mae dy gyhuddiadau o hiliaeth yn swnio?

... neu ydw i'n gwastraffu'n amser yn fan hyn?


Wel mae'n bwynt eithaf glyfar ...............

Ond nid oedd ym mhwynt i yn un 'hollol hurt'

Dwi jest yn gofyn pam mae pobl yn meddwl nad oedd digon o allu gan wyddonwyr Saddam i ddatblygu nwy mwstard gan ei fod yn hen dechnoleg..

Nid 'rhaid bod rhywun wedi'i werthu iddo yn gywir'.