gan Huw T » Sul 28 Medi 2003 12:34 pm
9. Mae'n bosib y bydde nhw - dyma'r feddylfryd gyfalafol o guro pobl eraill.
10. Fe ddefnyddiodd Saddam nwy mwstard - cywir. Fe allai Saddam gynhyrchu nwy mwstard ei hun - yn sicr mae'n bosibl. Ti heb ddangos unrhyw dystiolaeth i brofi hyn er hynny. Nid oes bai ar Brydain ac America - mae'n ffaith i America arfogi'r Cwrdiaid i ymladd Saddam. Posib felly mai retaliatory strike oedd defnyddio nwy mwstard. America a'i bys yn y cawl unwaith eto. Hefyd Imperialaeth Prydain a Ffrainc oedd creu 'Iraq' sef gwlad artiffisial, ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf, gan grwpio Cwrdiaid Shiass a Shit'te gyda'i gilydd mewn un gwlad. Petai'r Gorllewin wedi cadw ei addewidion i'r Arabiaid, a'i gadael i benderfynnu ar ei dyfodol ei hunain, ni fyddai'r broblem bresennol gyda ni heddi.
11. Mae bai ar y llywodraeth am fethu atal yr arfau hyn rhag cael ei cludo i Iraq, ond mae'n wir taw'r cwmniau oedd yn gyfrifol am ei gwerthu. Yr ateb ddwedwn i yw gwladoli'r cwmniau hyn felly, a'i dodi dan reolaeth y llywodraeth.
12. Byddwn ni ddim am weld y meysydd olew yn nwylo fanatics moslemaidd, na. Ond cofia i Islam ddod yn bwer gwleidyddol yn Iran fel ymateb i ymdrech cwmniau olew Prydain a UDA i reoli Iran a chael mynediad i'w meysydd olew.
13. Ydw. Gallai dderbyn yn iawn fod pobl Palesteina a Syria yn ofni mwy o'i brodyr Arabaidd na'r wlad sydd am hanner canrif wedi bod yn arfogi a chefnogi Israel i ymladd rhyfel yn eu herbyn.
14. Bydde ni'n derbyn fod unrhyw sefydliad anemocratiadd yn mynd i ddioddef tensiynnau yn hwyr neu'n hwyrach. Hefyd, doedd dim strategol i ddisodli Saddam - fel y gwelwyd yn ystod y rhyfel, doedd dim siap ar luoedd arfog Iraq, a phetai Saddam yn ddigon twp i ymosod, byddai'n siwr o wybod y byddai'r Gorllewin yn ymateb fel y gwnaethan gyda Kuwait.
15. Rwy'n cytuno fod yr UDA wedi bod yn hanfodol wrth wrthwynebu Hitler a Staliniaeth. Fodd bynnag, yn y ddau achos, ymladd dros fuddiannau ei hunan yr oedd America - e.e yn WW2 aros allan am 3 mlynedd gan adael i Brydain waedu nes ei bod yn dlawd.
Am Islamaeth filwrol, rwy'n dal America yn bennaf gyfriol am ei fodolaeth. Beth oeddynt yn meddwl fyddai rhai pobl yn ei wneud yng nghwyneb ar anhafaleddau sy'n bodoli yn ein byd heddi.