Tudalen 1 o 1

17.01.08 - Protest yn erbyn Academi Filwrol Sain Tathan

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 9:24 pm
gan Mihangel Macintosh
Am 1yp ar ddydd Iau y 17eg o Ionawr fe fydd protest tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn yr Academi Filwrol yn Sain Tathan. Dewch a placardiau ac esgidiau plant - ymysg pethau eraill mae'r ymgyrch yn erbyn yr Academi filwrol yn Saint Athan yn protestio yn erbyn y cynyrchwyr bomiau clystyr, Raytheon, sydd yn ymwneud a'r prosiect.

Gwybodaeth bellach o wefan Cynefin y Werin

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 9:34 am
gan Mihangel Macintosh
Tu allan i'r Senedd fydd y brotest.

Gyda llaw, dyma'r digwyddiad ar y gwep lyfr.

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 10:47 pm
gan Foel Gornach
Bum yn y gwrthdystiad heddiw. Ni ddaeth unrhyw aelod o'r cynulliad o unrhyw blaid i'n cyfarfod - diffyg cwrteisi elfennol. Mae'r Sefydliad yn cau rhengoedd. Bellach mae'r holl bleidiau yn rhan o'r Sefydliad hwnnw.