MA dyddiadur Robin Cook yn y newyddion rwan am ei fod o'n cal ei brintio mewn rhyw bapur. Ynddo fo ma'n deud fod Blair wedi cyfadda iddo fo ma unig arfa Saddam oedd taflegrau na fysa'n gallu mynd yn bellach na Kuwait a mai unig ddefnydd nhw oedd i hitio byddin sy'n ymosod.
Nid yn unig ma hynnu'n gyfaddefiad nad oedd Saddam o UNRHYW berryg i ni, ond mi ofynodd Cook iddo fo os oedd o'n poini y galla Saddam ei defnyddio nhw yn erbyn ein milwyr ni. Atab Blair oedd fod popeth mewn gymaint o fes yno fysa Saddam yn cymeryd wythnosa i saethu unrhyw un io'r talegra, ac erbyn hynnu mi fysa America y Prydain yn Bagdad.
45 munud riwun?!
Os fysa riwun fatha Clare Short yn dod allan efo petha felma mi fyswn i'n barod i feddwl ma just nytar yn ramblo fysa fo, ond ma Robin Cook ychydig yn wahanol. Natho sefyll i lawr heb ymosod yn chwyrn ar Blair, a dydio heb wneud hynnu wedyn. Ma'n ychwanegu yn y dyddiadur ei fod o'n credu fod Blair yn convinced fod angan cal gwarad o Saddam am resymau moral.