Fi'n synnu braidd nad oes neb wedi son am hyn cyn hyn, ond na fe.
Beth mae pobl yn meddwl o'r ffaith fod Israel wedi lawnsio "air strike" ar Syria?
Yn bersonol dwi'n credu fod y peth yn warthus, mae'n torri pob cyfraith rhyngwladol ac yn cynnyddu'r broblem yn y dwyrain canol.
Nid dyma'r tro cyntaf i Israel ymddwyn yn y fath ffordd.
Pe baent yn amau fod yma ganolfan o derfysgwyr yn Syria, pam ddim trafod gyda'r UN yn hytrach na mynd mewn "all guns blazing"