Boris a ddywedodd:
Diddorol yw dy ffydd mewn prosiectau cymdeithasol. Dan Michael Howard fe syrthiodd lefelau tor cyfraith 18% ym Mhrydain - "prison works". Mae'n ymddangos fod David Blunket yn cytuno. Dim ond y dosbarth canol sydd yn 'spoon fed' ar Chomsky ac erthyglau golygyddol y Guardian sy'n credu mae'r ateb i leidr sydd wedi bwrglera 400 gwaith yw 'community service order'. Ond dyna fo, go brin dy fod wedi cynrychioli stad cyngor a gweld y dioddefaint mae'r unigolion hyn sy'n barhaol yn torri'r gyfraith yn greu o fewn cymunedau.
Dim ond y cyfaethog a diogel ei byd sy'n gallu fforddio bod mor 'ryddfrydol'. Dwi o blaid rhyddid yr unigolyn; rhyddid rhag lladrata, trais, fandaliaeth, ymosodiadau, ofn dod o'r ty gyda'r nos. Pam fod 'knee jerk lefties' maes e yn rhoi rhyddid yob sydd wedi curo hen wraig yn ei chartref uwchlaw rhyddid yr hen wraig i fwynhau bywyd yn rhydd o drais.
Sori, sdim lot o amser gyda fi, ond yn gloi:
Beth felly wyt ti'n meddwl o lwyddiannau y gwledydd Scandinafaidd?
Yno, yn lle dedfrydu troseddwyr i gyfnod hir o garchar, ma nhw'n rhedeg prosiectau 'rehabilitation' effeithiol, lle mae'r troseddwr yn cyfarfod a'r un a droseddwyd yn erbyn, ac yn talu rhywbeth yn ol i'r gymdeithas.
Mae hyn wedi llwyddo i'r fath raddau efl bod lefelau trais yn is yng Ngwledydd Scandinafia, a charchardai yn fwy gwag.
On o ran gynnau.
Ffeithiau am yr Unol Daleithau.
Mae'r tabl yn dangos nad yw dy daeriad ar y cychwyn Boris, fod troseddau cysylltiedig a dryll yn y Swistir yn is na Phrydain, yn ffals.
Homicide Suicide Unintentional
USA 4.08 (1999) 6.08 (1999) 0.42 (1999)
Canada 0.54 (1999) 2.65 (1997) 0.15 (1997)
Switzerland 0.50 (1999) 5.78 (1998) -
Scotland 0.12 (1999) 0.27 (1999) -
England/Wales 0.12 (1999/00) 0.22 (1999) 0.01 (1999)
Japan 0.04* (1998) 0.04 (1995) <0.01 (1997)
Mae yna lyfryddiaeth ddifyr ar y gwaelod hefyd.
Rhai dyfyniadau i'r rheini sydd ddim am ymweld a'r wefan yn y linc:
Guns and Suicide
View the US data on suicide and firearms that suggests evidence can be viewed as a warning to us in the UK of some of the effects of firearm possession. Most articles predict that the storage of a firearm in the home predicts an increased rate of a violent death. The articles have been referenced so that those interested can obtain further information.
The level of gun ownership world-wide is directly related to murder and suicide rates and specifically to the level of death by gunfire.
'International Correlation between gun ownership and rates of homicide and suicide.' Professor Martin Killias, May 1993.
Wedi neud peth ymchwil dyw ffigirau Boris ar y Cychwyn ddim yn gwneud synnwyr i fi.
Ffigirau syddo bosib wedi cael ei defnyddio allan o gyd-destun ar gyfer propoganda, achos er fod gan Illinois yr 8fed uchafl o Violent Crime yn America, yn Illinois mae dinas fawr Chicago, ac mae hi'n dalaith reit ddinesig. Mae i Illinois reolai tynn ar gynnau, ac mae llofruddiaeth wedi disgyn yno yn sylweddol ers Columbine i 7.2 o bob 100k.
Ond os defnyddio dull o'r fath, beth am yr enghraifft amlycaf.
Y dalaith sydd a'r gun control llacaf = Florida.
Florida yw #1 America am Violent Crimes (2000)
Y dalaith a'r rheolau llymaf yw Hawaii.
Hawaii yw #43 America am Violent Crimes (2000)
Felly: US states with the largest increase in gun ownership have also recorded the largest decrease in violent crime" John Lott, 'More Guns, Less Crime' ?
Na.
Mae 72% i Idaho o blaid rheolaeth dynn ar ddrylliau, ac o ganlyniad mae yno reolaeth llym. Idaho = #42 America am Violent Crimes (2000).
Mae gan Dde Affrica reolai llac ar ddrylliau, ond dyna lle y mae'r mwyaf o lofruddiaethau ayb yn y byd.
Mae amgylchiadau cymdeithasol yn amlwg yn chwarae rha, fel y dywedodd GDG.
Er tegwch, oes posib cymharu Hawaii a Florida? Bydden i ddim yn meddwl hynny, oherwydd amgylchiadau cymdeithasol. Ond os am anwybyddu'r ddadl yma, yna mae'n amlwg fod 'gun control' yn gweithio llawer gwell.