Yr Hawl i Gario Gwn

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gruff Goch » Mer 05 Tach 2003 7:36 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Nyge'r cwestiwn ddyled fod siwd y'n ni am stopo'r 'baddies' rhag cal arfe yn y lle cynta?


Yn union. Os nad ydi'r wladwriaeth yn amddiffyn pobl yn ddigonol, yna rhaid newid y ffordd mae'r wladwriaeth yn newid, nid rhoi gynnau yn nwylo pawb.

Mae gynnau yn bethau peryglus, hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n fwriadol i beri niwed. Yn anffodus, does yna ddim 'set phasers to stun', dim saethu bwledi dy elyn di allan o'r awyr.

A faint yn saffach wyt ti mewn ty^ lle mae 'na wn, o gofio'r potensial am ddamweiniau a'r ffaith mai dy deulu a dy gydnabod di sydd fwyaf tebygol o dy ladd di?

Hefyd, pa fath o berson wyt ti fyddai'n rhoi bwled ym mhen lleidr sydd am ddwyn rhywbeth mor bitw a dy chwaraeydd DVD (gan gymryd yn ganiataol dy fod ti'n saethwr da am 3am, a dy lygaid heb arfer â'r golau eto)? Haws a saffach o lawer i ti droi dy Hi-fi 'mlaen yn uchel, ffonio'r heddlu a hawlio peiriant DVD ar dy yswiriant ty^. Hyd yn oed os ydi dy gyfradd yswiriant yn codi yn sgîl hynny, mi fyddi di dal wedi arbed cannoedd drwy beidio gorfod prynu gwn yn y lle cyntaf, ac mae cael gwaed allan o'r carped yn gallu bod yn gostus iawn...

Ar ddiwedd y dydd os ydi'r lleidr yn ddigon desperate i ddwyn eto wedi hynny, dwi'm yn gweld y posibiliad bod gynnau yn y ty^ nesaf yn ei rwystro chwaith.

I fod yn onest, dwi'n meddwl y byddai hi'n ddda gweld y cwmniau cynhyrchu gynnau a bwledi yn cael eu dal yn gyfrifol yn ariannol ac yn gyfreithiol am bob marwolaeth a achosir gan eu cynhyrch. Efallai wedyn y byddyn nhw'n fwy gofalus i bwy mae'n nhw'n gwerthu...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan ceribethlem » Mer 05 Tach 2003 8:20 pm

Y broblem dwi'n gweld gyda'r syniad o "mae gwn gyda'r dihirod felly mae angen gwn arna i" yw y bydd yr holl beth yn troi yn free for all, pobl yn saethu eu gilydd wrth feddwl eu bod yn mynd am wn ayyb.

Peth pwysig arall doe sneb wedi son amdani yw'r gwahaniaeth diwylliant sydd yn y wlad yma i gymharu a'r UDA.
Mae yna 'ddiwylliant' yfed yma nad yw'n bodoli yn America. Mae pobl yn meddwi'n rhacs, ac ar y penwyhtnosau yn enwedig fe fydd clatsho yn digwydd. Pe bai gynnau gyda pawb, yn llofryddiaeth byddai'n digwydd, pobl yn dihuno wedi lladd rhywun y noson cynt yn hytrach na wedi torri trwyn rhywun. Yn bersonol bydde'n well gyda fi fynd mas, meddwi'n dwll a dihuno gyda poen yn fy ngen (nid bod hyn wedi digwydd ers rhyw 10 blynedd) na methu dihuno achos bod rhyw gont pissed gyda gwn wedi'n saethu i.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 06 Tach 2003 1:38 am

Boris a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Peidio cario gwn. Y mwya' sy na o arfau, mwy o ladd fydd. Fact. Yr unig rai sy'n enill yw Lockheed Martin/Smith&Wesson/B.A.E/Haliburton etc. a'r rhai sy'n colli bob tro yw'r gwledydd (ag ardaloedd) tlawd fel Angola/Affganistan, hyd yn oed yr U.D.A.


Perffaith wir.

Ond dio ddim yn ateb y broblem. Os ydi'r baddies yn barod efo arfau ddylai y wladwriaeth wahardd dinesyddion rhag amddiffyn eu hunain?


Na. Gwareiddiad yw'r galllu i beidio troi at ladd. Gwerth 500 mlynedd o feddwl iachus. Ond yr unig ateb yw torri lawr (ar gynhyrchu arfe)!...neu ma''n cyclic. am byth. Pwy sy' ishe mwy o ffecin arfe'n y byd? Ddim y Congo, Irac, Rhosllannerchrugog etc. etc.
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 06 Tach 2003 1:52 am

Cardi Bach a ddywedodd:
Boris a ddywedodd: Os ydi'r baddies yn barod efo arfau ddylai y wladwriaeth wahardd dinesyddion rhag amddiffyn eu hunain?


Mae'r ddadl yma yn aml yn cael ei roi, ond mae'n y nharo i fod rhwbeth mawr o'i le gyda'r ddadl. Onid yw'r cwestiwn ben-i-waered, fel petai?

Nyge'r cwestiwn ddyled fod siwd y'n ni am stopo'r 'baddies' rhag cal arfe yn y lle cynta?


Got It..llai o gynnhyrchu arfau(Prydain Fawr 'di'r ail ar ol yr Amerig)= llai o arfau=llai o ladd=
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 12:45 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Boris a ddywedodd: Os ydi'r baddies yn barod efo arfau ddylai y wladwriaeth wahardd dinesyddion rhag amddiffyn eu hunain?


Mae'r ddadl yma yn aml yn cael ei roi, ond mae'n y nharo i fod rhwbeth mawr o'i le gyda'r ddadl. Onid yw'r cwestiwn ben-i-waered, fel petai?

Nyge'r cwestiwn ddyled fod siwd y'n ni am stopo'r 'baddies' rhag cal arfe yn y lle cynta?


Mae'r uchod, a dilyniant ffwrchmotorbeics a Gruff yn anwybyddu un peth, sef y ffaith fod trio crebachu'r hawl i gael arfau yn ystadegol yn arwain at fwy o drais (gweler cychwyn yr edefyn). Mae Cardi yn dadlau fel mae pobl wedi dadlau yn gyson wrth ddeddfu am 'gun control' ond pwy sy'n gwrando ar y gyfraith - dinasyddion cyffredin. Pwy sy'n anwybyddu y gyfraith - 'y baddies'.

Felly efallai fod troi y ddadl yn swnio'n glyfar (ac o ran y gefnogaeth gafodd Cardi) yn boblogaidd ond yr oll mae hyn yn ddangos go iawn yw diffyg dealltwriaeth o'r pwynt craidd. Os yw tystiolaeth yn dangos fod yr hawl i gario gwn yn arwain at lai o drais yna beth yw'r sefyllfa foesol?

Diddorol sylwi yn y Daily Post heddiw fod Ysgrifennydd Plaid Cymru yn rhanbarth Arfon am 30 mlynedd sydd wedi cael bwrgleriaeth dair gwaith yn datgan y byddai yn falch o'r hawl i amddiffyn ei heiddo fel y gwnaeth Tony Martin. Mae hi dros 70 ac wedi cadw o fewn y gyfraith erioed (ac eithro protestiadau iaith) Os yw'r wladwriaeth yn methu ei hamddiffyn oes ganddi'r hawl i amddiffyn ei hun?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 12:47 pm

ffwrchamotobeics a ddywedodd:Got It..llai o gynnhyrchu arfau(Prydain Fawr 'di'r ail ar ol yr Amerig)= llai o arfau=llai o ladd=


Dwi ddim yn meddwl. Pwrpas dadl yw gwrando ar y ddwy ochor. Mae yna ystadegau ac hefyd ffeithiau ar un ochor i'r drafodaeth yma - 'platitudes' yw dy gyfraniad di. Tyrd, rho ddadl ffeithiol i ni am unwaith. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 06 Tach 2003 12:56 pm

Ymateb yn uniongyrchol i Boris ydw i'n fan hyn - dim digon o amser i ddarllen yr edefyn cyfan, felly ymddiheuriadau os ydw i'n ailadrodd unrhyw beth.

Yn gyntaf, sai'n credu y gallu di weud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwahardd drylliau mewn llefydd fel Washington a chynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd gan ddrylliau. Yr unig wahaniaeth rhwng y 'bobl ddrwg' yn unig yn berchen ar ddrylliau, a'r ddwy ochr yn berchen ar ddrylliau yw pwy sy'n gallu saethu gyflymaf. Felly, yn y bon, rwyt ti'n dweud bod bywydau 'pobl ddiniwed' (ha!) yn bwysicach na'r 'bobl ddrwg', gan dy fod ti'n ddigon parod gweld rheiny'n cael eu saethu, ond nid pobl ar y stryd. Rhagrith llwyr.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 1:01 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ymateb yn uniongyrchol i Boris ydw i'n fan hyn - dim digon o amser i ddarllen yr edefyn cyfan, felly ymddiheuriadau os ydw i'n ailadrodd unrhyw beth.

Yn gyntaf, sai'n credu y gallu di weud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwahardd drylliau mewn llefydd fel Washington a chynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd gan ddrylliau. Yr unig wahaniaeth rhwng y 'bobl ddrwg' yn unig yn berchen ar ddrylliau, a'r ddwy ochr yn berchen ar ddrylliau yw pwy sy'n gallu saethu gyflymaf. Felly, yn y bon, rwyt ti'n dweud bod bywydau 'pobl ddiniwed' (ha!) yn bwysicach na'r 'bobl ddrwg', gan dy fod ti'n ddigon parod gweld rheiny'n cael eu saethu, ond nid pobl ar y stryd. Rhagrith llwyr.


Hei prat, wyt ti'n arfer cerdded mewn i dafarn, taro ar sgwrs a dechrau taflu abuse? Na, wel dangosa ychydig o barch o fewn Maes e. Mae yna drafodaeth eithaf difyr sydd heb fod yn llawn yr abuse arferol ar y pwnc hwn. Pa hawl sydd da ti i bytio mewn, lluchio baw tra'n cyfaddef dy fod heb ddarllen y drafodaeth - fel y dywedai, prat. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Gruff Goch » Iau 06 Tach 2003 1:32 pm

Ym lle'n union ma' GDG yn 'taflu abuse'? Dydi o heb dy alw di'n ddim, jyst dweud dy fod yr hyn wyt tin ei ddweud yn rhagrith llwyr. Ti di'r un sy'n troi at ymosodiadau personol.

Yngly^n â dy ffeithiau, prin ydi'r rhai wyt ti'n rhoi rhai ystyrlon gan eu bod nhw'n ynysu'r ffigyrau oddi wrth ffactorau cymdeithasol a diwylliannol. Mae Dylan wedi dweud hyn yn barod. Pwrpas dadl yw gwrando ar y ddwy ochr?

Ti'n sôn am y Swistir er enghraifft, ond mae'r hyn wyt ti wedi ei sgwennu yn cyfeirio at drais a tor-cyfraith. Ydi gynnau felly yn 'arfau hud a lledrith' sy'n lleihau pob math o dor-cyfraith o biso'n y stryd i dwyll ariannol, nid dim ond tor-cyfraith treisgar, yntau ydi hi'n fwy tebygol fod y Swisiaid yn byw mewn cymdeithas fwy gwar na ni (sy'n digwydd bod a llai o fwlch rhwng y tlawd ar cyfoethog)?

Wedyn, ti'n sôn am y cynnydd enbyd mewn llofruddiaethau mewn llefydd fel New York, a Washington D.C a chanolfannau trefol mawr eraill yn America, heb ystyried efallai mai union natur y trefi a'r dinasoedd hyn gyda'r tlawd a'r cyfoethog yn byw ochr-yn-ochr sy'n cyfrannu at y cynnydd, ac y gallai'r rheolau meddu gynnau fod wedi rhwystro'r sefyllfa rhag mynd yn waeth.

Waeth i ti fod wedi dweud fod trais a tor cyfraith yn is yn y Swistir am fod yna ddim glas ar eu banner nhw...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 1:58 pm

Gruff Goch a ddywedodd:
Wedyn, ti'n sôn am y cynnydd enbyd mewn llofruddiaethau mewn llefydd fel New York, a Washington D.C a chanolfannau trefol mawr eraill yn America, heb ystyried efallai mai union natur y trefi a'r dinasoedd hyn gyda'r tlawd a'r cyfoethog yn byw ochr-yn-ochr sy'n cyfrannu at y cynnydd, ac y gallai'r rheolau meddu gynnau fod wedi rhwystro'r sefyllfa rhag mynd yn waeth.



Dau beth Gruff.

Yn gyntaf, mae galw rhywun yn rhagrithiwr llwyr tra'n cyfaddef nad oedd wedi darllen yr edefyn yn 'abuse' yn fy ngolwg. efallai mod i'n ddiniwed ond yr oeddwn dan yr argraff fod dilyn y drafodaeth yn rhan o broses drafod maes e. Ond un rheol i fi un arall i bawb arall falle - siomedig.

Dwi ddim yn derbyn dy ddadl ynghylch yr ystadegau. Wedi'r cyfan, mae ystadegau sy'n cyfeirio at lefel trais efo gynnau trwy'r UDA yn dangos fod y taliaethau hynny sydd yn rheoli gynnau yn dangos lefelau trais sy'n 8% yn uwch na'r taliaethau hynny sydd ddim wedi cyflwyno rheolau. Lle mae'r dylanwadau eraill yn dod mewn i'r ffaith yma?

Pa ffeithiau eraill sy'n haeddu sylw yn achos Florida lle cwympodd trais efo gynnau wedi cyflwyno yr hawl i gario gwn - eglurhad plis.

O ran y Swisdir, mae lefel llofruddiaethau yno yn draean per capita o lefelau llofruddiaeth Prydain - so beth ydi dy bwynt.

Fel dwi di deud, yn bersonnol fyddwn i ddim am gario gwn - ond tyrd tyrd, rhaid i ti wneud yn well na lluchio amheuon os am newid fy nehongliad o'r ystadegau. Beth am ystadegau sy'n dangod fod rheoli gynnau yn lleihau trais efo gynnau - does yna NEB wedi cyflwyno ystadegau o'r fath hyd yma - ddim hyd yn oed chdi Gruff.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron