Yr Hawl i Gario Gwn

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 06 Tach 2003 1:59 pm

Boris a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Got It..llai o gynnhyrchu arfau(Prydain Fawr 'di'r ail ar ol yr Amerig)= llai o arfau=llai o ladd=


Dwi ddim yn meddwl. Pwrpas dadl yw gwrando ar y ddwy ochor. Mae yna ystadegau ac hefyd ffeithiau ar un ochor i'r drafodaeth yma - 'platitudes' yw dy gyfraniad di. Tyrd, rho ddadl ffeithiol i ni am unwaith. :lol:


'Dwi ddim yn meddwl'
Pam? Rho dy reswm, pric.
p.s Ti dal yn Coleg, tybed?
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 2:02 pm

ffwrchamotobeics a ddywedodd:'Dwi ddim yn meddwl'
Pam? Rho dy reswm, pric.
p.s Ti dal yn Coleg, tybed?


Sbi ar y rhyfel oer - pric

p.s Braidd yn nawddoglyd o stiwdants dwyt? Wancar :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 06 Tach 2003 2:08 pm

Boris a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:'Dwi ddim yn meddwl'
Pam? Rho dy reswm, pric.
p.s Ti dal yn Coleg, tybed?


Sbi ar y rhyfel oer - pric

p.s Braidd yn nawddoglyd o stiwdants dwyt? Wancar :drwg:


Byta nhw i frecwast.
Heddwch xx
Ond be am y rhyfel oer??
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 06 Tach 2003 2:32 pm

Boris a ddywedodd:Yn gyntaf, mae galw rhywun yn rhagrithiwr llwyr tra'n cyfaddef nad oedd wedi darllen yr edefyn yn 'abuse' yn fy ngolwg. efallai mod i'n ddiniwed ond yr oeddwn dan yr argraff fod dilyn y drafodaeth yn rhan o broses drafod maes e. Ond un rheol i fi un arall i bawb arall falle - siomedig.


Ymateb i dy ddatganiad cychwynnol di oeddwn i; sori bod fi yn y gwaith ac felly'n methu treulio fy holl amser yn darllen cynnwys y Maes.

Fi'n cymryd yn ganiatol dy fod ti'n dal i lynu wrth y cwestiwn/datganiad gwreiddiol, felly rwy'n credu fod gen i bwynt dilys. Nid oherwydd unrhyw gyfraith sy'n ymwneud a drylliau'n unig mae'r gyfradd lofruddio wedi cynyddu - cymhara'r ffigyrau hynny gyda'r toriadau mewn cyllid i ardaloedd difreintiedig gan lywodraethau Gweriniaethol yn ystod yr un cyfnod.

Ac, yn olaf, sai wir yn hoff o'r ffaith dy fod ti'n fy ngalw i'n 'prick' am ymateb i drafodaeth. Tyfa fyny.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 3:12 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Ac, yn olaf, sai wir yn hoff o'r ffaith dy fod ti'n fy ngalw i'n 'prick' am ymateb i drafodaeth. Tyfa fyny.


Ddaru fi ddim. Prat oedd y gair ddefnyddiwyd. Fel dwi di deud, darllena'r edefyn cyn cyfrannu!!.

Os am drafod mae o'n syniad darllen y cyfraniadau oll cyn galw rhywun yn ragrithiwr. Hwyl a heddwch :)
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 3:15 pm

ffwrchamotobeics a ddywedodd:Heddwch xx
Ond be am y rhyfel oer??


Heddwch amdani.

Y pwynt am y rhyfel oer yw dy ddadl fod mwy o arfau = mwy o drais.

Nid dyna'r wers o'r rhyfel oer. Mwy o arfau = stand off. Serch hynny dwi'n credu fod hyn + dy bwyntiau di am arfau yn y trydydd byd yn tangent.

PS Dwi ddim yn stiwdant chwaith, ond be oedd hynny yn feddwl? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 3:23 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Fi'n cymryd yn ganiatol dy fod ti'n dal i lynu wrth y cwestiwn/datganiad gwreiddiol, felly rwy'n credu fod gen i bwynt dilys. Nid oherwydd unrhyw gyfraith sy'n ymwneud a drylliau'n unig mae'r gyfradd lofruddio wedi cynyddu - cymhara'r ffigyrau hynny gyda'r toriadau mewn cyllid i ardaloedd difreintiedig gan lywodraethau Gweriniaethol yn ystod yr un cyfnod.



Sgen ti ffeithiau? Ta jyst hunch i gyfiawnhau dy farn?

Rhwng 1975 ac 2000 cafwyd 12 mlynedd o Arlywyddion Democrataidd ac 13 blwyddyn gyda Arlywydd Gwerinaethol. Mae trais ar ei uchaf yn y dinasoedd / taliaethau hynny sydd yn nwylo y Blaid Democrataidd eg California / Chicago / Washington DC. Mae datganoli yn UDA yn llawer mwy na Prydain felly yn lleol gan amlaf mae gwariant cyhoeddus yn digwydd (gweler ethol Arnold yn California a'r rhesymau pam) felly dwi ddim yn meddwl fod dy ddadl honedig yn dal dwr. Ond os oes da ti ffeithiau tyrd a nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 06 Tach 2003 3:46 pm

Ymddiheuraf na allaf gofio'r ffigyrau, ac nad oes unrhyw lenyddiaeth o'r fath ar gael yn y swyddfa, ond rwy' wedi darllen am y materion hyn (megis lleihau budd-daliadau, yr arian a gaiff ei wario ar brosiectau cymdeithasol) mewn llyfrau gan Michael Moore, Noam Chomsky ac eraill.

Prosiectau cymdeithasol o'r fath sy'n fwyaf tebygol o leihau torcyfraith drylliau, ac nid deddfau a charcharu. Os nad oes prosiectau cymdeithasol ac addysg fel hyn ar gael, at beth y mae pobl yn mynd i droi er mwyn dal gafael ar eu cymdeithas?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 6:01 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ymddiheuraf na allaf gofio'r ffigyrau, ac nad oes unrhyw lenyddiaeth o'r fath ar gael yn y swyddfa, ond rwy' wedi darllen am y materion hyn (megis lleihau budd-daliadau, yr arian a gaiff ei wario ar brosiectau cymdeithasol) mewn llyfrau gan Michael Moore, Noam Chomsky ac eraill.

Prosiectau cymdeithasol o'r fath sy'n fwyaf tebygol o leihau torcyfraith drylliau, ac nid deddfau a charcharu. Os nad oes prosiectau cymdeithasol ac addysg fel hyn ar gael, at beth y mae pobl yn mynd i droi er mwyn dal gafael ar eu cymdeithas?


Wel dyna ti wedi dweud y cyfan. Michael Moore, 'Angry White Men' - mae holl ystadegau Michael Moore yn blydi amheus. Mae Mark Steyn, newyddiadurwr o New Hampshire, wedi cyhoeddi cyfrol yn ateb cyhuddiadau Moore - dylet ddarllen hwnna hefyd. O ddifri, mae da ti hawl i'th farn, ond mae selio barn ar lyfrau Michael Moore yn debyg iawn i mi yn selio fy marn ar agweddau Charlton Hestom, sef Cadeirydd y National rifle Association.

Diddorol yw dy ffydd mewn prosiectau cymdeithasol. Dan Michael Howard fe syrthiodd lefelau tor cyfraith 18% ym Mhrydain - "prison works". Mae'n ymddangos fod David Blunket yn cytuno. Dim ond y dosbarth canol sydd yn 'spoon fed' ar Chomsky ac erthyglau golygyddol y Guardian sy'n credu mae'r ateb i leidr sydd wedi bwrglera 400 gwaith yw 'community service order'. Ond dyna fo, go brin dy fod wedi cynrychioli stad cyngor a gweld y dioddefaint mae'r unigolion hyn sy'n barhaol yn torri'r gyfraith yn greu o fewn cymunedau.

Dim ond y cyfaethog a diogel ei byd sy'n gallu fforddio bod mor 'ryddfrydol'. Dwi o blaid rhyddid yr unigolyn; rhyddid rhag lladrata, trais, fandaliaeth, ymosodiadau, ofn dod o'r ty gyda'r nos. Pam fod 'knee jerk lefties' maes e yn rhoi rhyddid yob sydd wedi curo hen wraig yn ei chartref uwchlaw rhyddid yr hen wraig i fwynhau bywyd yn rhydd o drais.

Edrych ar Zero Tolerance Efrog Newydd a jyst tria, jyst tria wadu fod agwedd gryf tuag at ddrwg weithredwyr ddim yn gweithio. Neith hyd yn oed Chomsky a Mr Moore ddim trio troi'r ystadegau o'r ddinas honno.

Mae darllen yn eang yn golygu darllen dwy ochr i ddadl. Dwi wedi darllen Chomsky, Moore, Marx, Luxembourg ac eraill o arwyr y chwith. Ond tybed os wyt ti wedi darllen Hayek, neu Bork, neu Marsland? Dwi'n amheus.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Gwe 07 Tach 2003 11:47 am

Boris a ddywedodd:
Diddorol yw dy ffydd mewn prosiectau cymdeithasol. Dan Michael Howard fe syrthiodd lefelau tor cyfraith 18% ym Mhrydain - "prison works". Mae'n ymddangos fod David Blunket yn cytuno. Dim ond y dosbarth canol sydd yn 'spoon fed' ar Chomsky ac erthyglau golygyddol y Guardian sy'n credu mae'r ateb i leidr sydd wedi bwrglera 400 gwaith yw 'community service order'. Ond dyna fo, go brin dy fod wedi cynrychioli stad cyngor a gweld y dioddefaint mae'r unigolion hyn sy'n barhaol yn torri'r gyfraith yn greu o fewn cymunedau.

Dim ond y cyfaethog a diogel ei byd sy'n gallu fforddio bod mor 'ryddfrydol'. Dwi o blaid rhyddid yr unigolyn; rhyddid rhag lladrata, trais, fandaliaeth, ymosodiadau, ofn dod o'r ty gyda'r nos. Pam fod 'knee jerk lefties' maes e yn rhoi rhyddid yob sydd wedi curo hen wraig yn ei chartref uwchlaw rhyddid yr hen wraig i fwynhau bywyd yn rhydd o drais.



Sori, sdim lot o amser gyda fi, ond yn gloi:
Beth felly wyt ti'n meddwl o lwyddiannau y gwledydd Scandinafaidd?
Yno, yn lle dedfrydu troseddwyr i gyfnod hir o garchar, ma nhw'n rhedeg prosiectau 'rehabilitation' effeithiol, lle mae'r troseddwr yn cyfarfod a'r un a droseddwyd yn erbyn, ac yn talu rhywbeth yn ol i'r gymdeithas.

Mae hyn wedi llwyddo i'r fath raddau efl bod lefelau trais yn is yng Ngwledydd Scandinafia, a charchardai yn fwy gwag.

On o ran gynnau.

Ffeithiau am yr Unol Daleithau.

Mae'r tabl yn dangos nad yw dy daeriad ar y cychwyn Boris, fod troseddau cysylltiedig a dryll yn y Swistir yn is na Phrydain, yn ffals.

Homicide Suicide Unintentional


USA 4.08 (1999) 6.08 (1999) 0.42 (1999)

Canada 0.54 (1999) 2.65 (1997) 0.15 (1997)

Switzerland 0.50 (1999) 5.78 (1998) -

Scotland 0.12 (1999) 0.27 (1999) -

England/Wales 0.12 (1999/00) 0.22 (1999) 0.01 (1999)

Japan 0.04* (1998) 0.04 (1995) <0.01 (1997)


Mae yna lyfryddiaeth ddifyr ar y gwaelod hefyd.

Rhai dyfyniadau i'r rheini sydd ddim am ymweld a'r wefan yn y linc:

Guns and Suicide

View the US data on suicide and firearms that suggests evidence can be viewed as a warning to us in the UK of some of the effects of firearm possession. Most articles predict that the storage of a firearm in the home predicts an increased rate of a violent death. The articles have been referenced so that those interested can obtain further information.


The level of gun ownership world-wide is directly related to murder and suicide rates and specifically to the level of death by gunfire.

'International Correlation between gun ownership and rates of homicide and suicide.' Professor Martin Killias, May 1993.


Wedi neud peth ymchwil dyw ffigirau Boris ar y Cychwyn ddim yn gwneud synnwyr i fi.

Ffigirau syddo bosib wedi cael ei defnyddio allan o gyd-destun ar gyfer propoganda, achos er fod gan Illinois yr 8fed uchafl o Violent Crime yn America, yn Illinois mae dinas fawr Chicago, ac mae hi'n dalaith reit ddinesig. Mae i Illinois reolai tynn ar gynnau, ac mae llofruddiaeth wedi disgyn yno yn sylweddol ers Columbine i 7.2 o bob 100k.

Ond os defnyddio dull o'r fath, beth am yr enghraifft amlycaf.
Y dalaith sydd a'r gun control llacaf = Florida.
Florida yw #1 America am Violent Crimes (2000)

Y dalaith a'r rheolau llymaf yw Hawaii.
Hawaii yw #43 America am Violent Crimes (2000)

Felly: US states with the largest increase in gun ownership have also recorded the largest decrease in violent crime" John Lott, 'More Guns, Less Crime' ?

Na.

Mae 72% i Idaho o blaid rheolaeth dynn ar ddrylliau, ac o ganlyniad mae yno reolaeth llym. Idaho = #42 America am Violent Crimes (2000).

Mae gan Dde Affrica reolai llac ar ddrylliau, ond dyna lle y mae'r mwyaf o lofruddiaethau ayb yn y byd.

Mae amgylchiadau cymdeithasol yn amlwg yn chwarae rha, fel y dywedodd GDG.

Er tegwch, oes posib cymharu Hawaii a Florida? Bydden i ddim yn meddwl hynny, oherwydd amgylchiadau cymdeithasol. Ond os am anwybyddu'r ddadl yma, yna mae'n amlwg fod 'gun control' yn gweithio llawer gwell.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron