Mae edefyn 9/11 wedi datblygu yn ddadl am hawl i gario gwn, ac felly dyma fynd ati i ddechrau edefyn newydd. Gobeithio fod hwn yn iawn o fewn y seiat rhyfel a heddwch.
Mae'n amlwg o'r drafodaeth flaenorol fod Dylan yn gryf yn erbyn yr hawl i gadw gwn - fe ymddengys mai dim ond y wladwriaeth ddylai fod â'r hawl hwn yn ei olwg ef. Yn bersonnol dwi ddim yn sicr.
Eisioes dwi wedi cyflwyno achos y Swisdir lle mae cadw gwn yn ddisgwyliad cyfreithiol. Mae tor cyfraith a thrais yn y wlad honno yn hynod isel mewn cymhariaeth gyda'r DU. Oes yna gysylltiad?
A beth am yr UDA? Dwi o'r farn fod y dystiolaeth yn dangos fod mwy o reolaeth ar yr hawl i gael gynnau yn arwain at fwy o drais - ond o ddweud hyn sialens Dylan, yn hollol resymol, oedd i mi gynnig esiampl neu ddau. Felly ffwrdd a ni;
Yn 1977 fe waharddwyd gynnau llaw yn Washington DC. Erbyn canol y '90au roedd lefel llofruddiaethau y brif ddinas wedi codi 300%, y cynnydd mwyaf yn America. Mewn cyfnod o ddeunaw mlynedd hyd 1995 ym mhob llofruddiaeth yn Washington DC lle cafodd gwn ei ddefnyddio fe ddefnyddiodd y llofrudd wn llaw. Fe ymddengys felly fod y rhai hynny oedd yn byw o fewn y gyfraith wedi colli'r hawl i amddiffyn eu hunain tra fod drwg weithredwyr yn meddu ar arfau. Sefyllfa deg?
Dilynodd Chicago esiampl Washington DC yn 1982. Erbyn 1991 yr oedd lefelau llofruddiaethau oedd yn defnyddio gynnau wedi dwblu.
Mae rhai o'r rheolau mwyaf caeth ar brynnu gynnau yn yr UDA yn bodoli yng Nghaliffornia. Yn dilyn tynhau y ddeddf yn 1975 mae lefelau trais sy'n defnyddio gynnau wedi bod, ar gyfartaledd 32% yn uwch yng Nghaliffornia nac yng ngweddill yr UDA.
Mae llofruddiaethau lle defnyddwyd gynnau 8% yn uwch yn y taliaethau hynny sy'n gwahardd gynnau llaw nac yn y taliaethau hynny sydd ddim yn gwahardd gynnau o'r fath. Y taliaethau dan sylw yw California, Illinois, Maryland, Massachusetts(sillafu?), New Jersey, New York a Washington DC. Mae hyn er gwaethaf y lleihad syfrdanol yn lefel llofruddiaethau yn ninas Efrog Newydd dan Guilliani(sillafu?).
"US states with the largest increase in gun ownership have also recorded the largest decrease in violent crime" John Lott, 'More Guns, Less Crime'
Yn 1987 fe basiodd Florida ddeddf yn rhoi'r hawl i'r boblogaeth yno gario gynnau. Erbyn 1996 yr oedd lefel llofruddiaethau yn y dalaith wedi syrthio 51%.
A beth am y sefyllfa yma yn y DU?
Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd gan lywodraeth yr Iseldiroedd;
"England and Wales have the highest rates of violent crime in the industrialised world".
Sunday Times - 2002
"Britains murder rate at highest rate since records began 100 years ago"
Dwi'n credu fod hyn yn ddigon am y tro.