Cardi Bach a ddywedodd:Nyge'r cwestiwn ddyled fod siwd y'n ni am stopo'r 'baddies' rhag cal arfe yn y lle cynta?
Yn union. Os nad ydi'r wladwriaeth yn amddiffyn pobl yn ddigonol, yna rhaid newid y ffordd mae'r wladwriaeth yn newid, nid rhoi gynnau yn nwylo pawb.
Mae gynnau yn bethau peryglus, hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n fwriadol i beri niwed. Yn anffodus, does yna ddim 'set phasers to stun', dim saethu bwledi dy elyn di allan o'r awyr.
A faint yn saffach wyt ti mewn ty^ lle mae 'na wn, o gofio'r potensial am ddamweiniau a'r ffaith mai dy deulu a dy gydnabod di sydd fwyaf tebygol o dy ladd di?
Hefyd, pa fath o berson wyt ti fyddai'n rhoi bwled ym mhen lleidr sydd am ddwyn rhywbeth mor bitw a dy chwaraeydd DVD (gan gymryd yn ganiataol dy fod ti'n saethwr da am 3am, a dy lygaid heb arfer â'r golau eto)? Haws a saffach o lawer i ti droi dy Hi-fi 'mlaen yn uchel, ffonio'r heddlu a hawlio peiriant DVD ar dy yswiriant ty^. Hyd yn oed os ydi dy gyfradd yswiriant yn codi yn sgîl hynny, mi fyddi di dal wedi arbed cannoedd drwy beidio gorfod prynu gwn yn y lle cyntaf, ac mae cael gwaed allan o'r carped yn gallu bod yn gostus iawn...
Ar ddiwedd y dydd os ydi'r lleidr yn ddigon desperate i ddwyn eto wedi hynny, dwi'm yn gweld y posibiliad bod gynnau yn y ty^ nesaf yn ei rwystro chwaith.
I fod yn onest, dwi'n meddwl y byddai hi'n ddda gweld y cwmniau cynhyrchu gynnau a bwledi yn cael eu dal yn gyfrifol yn ariannol ac yn gyfreithiol am bob marwolaeth a achosir gan eu cynhyrch. Efallai wedyn y byddyn nhw'n fwy gofalus i bwy mae'n nhw'n gwerthu...