Tudalen 1 o 6

Yr Hawl i Gario Gwn

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 11:38 am
gan Boris
Mae edefyn 9/11 wedi datblygu yn ddadl am hawl i gario gwn, ac felly dyma fynd ati i ddechrau edefyn newydd. Gobeithio fod hwn yn iawn o fewn y seiat rhyfel a heddwch.

Mae'n amlwg o'r drafodaeth flaenorol fod Dylan yn gryf yn erbyn yr hawl i gadw gwn - fe ymddengys mai dim ond y wladwriaeth ddylai fod â'r hawl hwn yn ei olwg ef. Yn bersonnol dwi ddim yn sicr.

Eisioes dwi wedi cyflwyno achos y Swisdir lle mae cadw gwn yn ddisgwyliad cyfreithiol. Mae tor cyfraith a thrais yn y wlad honno yn hynod isel mewn cymhariaeth gyda'r DU. Oes yna gysylltiad?

A beth am yr UDA? Dwi o'r farn fod y dystiolaeth yn dangos fod mwy o reolaeth ar yr hawl i gael gynnau yn arwain at fwy o drais - ond o ddweud hyn sialens Dylan, yn hollol resymol, oedd i mi gynnig esiampl neu ddau. Felly ffwrdd a ni;

Yn 1977 fe waharddwyd gynnau llaw yn Washington DC. Erbyn canol y '90au roedd lefel llofruddiaethau y brif ddinas wedi codi 300%, y cynnydd mwyaf yn America. Mewn cyfnod o ddeunaw mlynedd hyd 1995 ym mhob llofruddiaeth yn Washington DC lle cafodd gwn ei ddefnyddio fe ddefnyddiodd y llofrudd wn llaw. Fe ymddengys felly fod y rhai hynny oedd yn byw o fewn y gyfraith wedi colli'r hawl i amddiffyn eu hunain tra fod drwg weithredwyr yn meddu ar arfau. Sefyllfa deg?

Dilynodd Chicago esiampl Washington DC yn 1982. Erbyn 1991 yr oedd lefelau llofruddiaethau oedd yn defnyddio gynnau wedi dwblu.

Mae rhai o'r rheolau mwyaf caeth ar brynnu gynnau yn yr UDA yn bodoli yng Nghaliffornia. Yn dilyn tynhau y ddeddf yn 1975 mae lefelau trais sy'n defnyddio gynnau wedi bod, ar gyfartaledd 32% yn uwch yng Nghaliffornia nac yng ngweddill yr UDA.

Mae llofruddiaethau lle defnyddwyd gynnau 8% yn uwch yn y taliaethau hynny sy'n gwahardd gynnau llaw nac yn y taliaethau hynny sydd ddim yn gwahardd gynnau o'r fath. Y taliaethau dan sylw yw California, Illinois, Maryland, Massachusetts(sillafu?), New Jersey, New York a Washington DC. Mae hyn er gwaethaf y lleihad syfrdanol yn lefel llofruddiaethau yn ninas Efrog Newydd dan Guilliani(sillafu?).

"US states with the largest increase in gun ownership have also recorded the largest decrease in violent crime" John Lott, 'More Guns, Less Crime'

Yn 1987 fe basiodd Florida ddeddf yn rhoi'r hawl i'r boblogaeth yno gario gynnau. Erbyn 1996 yr oedd lefel llofruddiaethau yn y dalaith wedi syrthio 51%.

A beth am y sefyllfa yma yn y DU?

Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd gan lywodraeth yr Iseldiroedd;
"England and Wales have the highest rates of violent crime in the industrialised world".

Sunday Times - 2002
"Britains murder rate at highest rate since records began 100 years ago"

Dwi'n credu fod hyn yn ddigon am y tro. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 12:43 pm
gan Di-Angen
Gan dy fod yn llawn ystadegau, gai ofyn faint o potential murders sydd wedi cael eu arbed gan aelod o'r cyhoedd yn y states yn berchen ar gun?

A sut mae hyn yn cymharu gyda faint o bobl a lladdwyd (yn ddamweiniol neu'n deliberate) gan gynnau a oedd yn berchen gan aelodau non-criminal o'r cyhoedd?

Hwyl

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 1:23 pm
gan Al Jeek
Ti di gweld Bowling for Columbine Boris?
Mae hwnna yn dangos fod yr hawl i fod yn berchen ar wn ddim pob tro yn arwain at lefel isel neu uchel o lofruddiaeth. Yn yr UDA mae miloedd ar filoedd o achosion llofruddiaeth gyda gwn pob blwyddyn, ond mae pobl Canada gyda'r un hawlia ac cymaint o ynnau y person a pobl yr UDA, ond mae llawer, llawer llai o achosion o farwolaeth oherwydd gynnau.

Yn fy marn i, beth mae cyfraith yn erbyn gynnau yn ei wneud yw ei gwneud hi'n llawer anoddach i bobl arferol neu droseddwyr bach gael ei gafael ar ynnau. Wrth gwrs fe neith o ddim cael gwared o ynnau y gyfan gwbl, yn enwedig yn nwylo gangiau sydd a'i dwylo mewn mewnforio gynnau a cyffuriau, ond mi neth o lot i atal average jo rhag mynd i mewn i'w ASDA lleol, prynu gwn o'r silff wrth ymyl y dvd's, a cerdded mewn i'w ysgol/gwaith a dechrau saethu am ei fod yn depressed.
Hefyd mae'n rhoi mwy o nerth i'r heddlu i daclo troseddwyr. Efallai na all heddwas ddarganfod digon o dystiolaeth i daflu troseddwr yn jel, ond os mae'n cario gwn, i mewn a fo.

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 1:33 pm
gan Boris
Al Jeek a ddywedodd:Ti di gweld Bowling for Columbine Boris?
Mae hwnna yn dangos fod yr hawl i fod yn berchen ar wn ddim pob tro yn arwain at lefel isel neu uchel o lofruddiaeth. Yn yr UDA mae miloedd ar filoedd o achosion llofruddiaeth gyda gwn pob blwyddyn, ond mae pobl Canada gyda'r un hawlia ac cymaint o ynnau y person a pobl yr UDA, ond mae llawer, llawer llai o achosion o farwolaeth oherwydd gynnau.



Oeddwn i'n disgwyl rhywun i godi'r sgwarnog yma. Propoganda yw Bowling for Columbine. Yn gyntaf, fel ti'n nodi uchod, mae hawliau Canadians i gario gynnau yn debyg iawn i'r sefyllfa yn yr UDA ond mae'r nifer o lofruddiaethau sy'n defnyddio gwn in is. Felly yn amlwg tydi hynny ddim yn ddadl yn erbyn yr hawl i gael gwn. A dyna fy union bwynt. Tydi hawl i gario gwn ddim yn gorfod arwain at gynnydd mewn lladd gyda gynnau.

O ran ystadegau Bowling for Columbine, bwriad y ffilm oedd cefnogi myth 'The Angry White Man'. Mae Mark Steyn, Canadian sy'n byw yn New Hampshire, wedi ateb neges y ffilm yn gryf gan ddangos fod ystadegau marwolaethau trwy ddefnydd gynnau yn is yn yr UDA nac yn Canada os ti'n tynnu allan yr hyn fyddai'n cael ei ddisgrifio fel 'Black on black homicide'. Pam fod y ffilm wedi anwybyddu hyn? Ofn bod yn wleidyddol anghywir?

Un ffordd neu llall, tydi Bowling for Columbine ddim yn dangos fod atal pobol rhag cael gynnau yn arwain at lai o drais - felly fel y dwedais uchod, tipyn o sgwarnog.

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 1:34 pm
gan Boris
Di-Angen a ddywedodd:Gan dy fod yn llawn ystadegau, gai ofyn faint o potential murders sydd wedi cael eu arbed gan aelod o'r cyhoedd yn y states yn berchen ar gun?

A sut mae hyn yn cymharu gyda faint o bobl a lladdwyd (yn ddamweiniol neu'n deliberate) gan gynnau a oedd yn berchen gan aelodau non-criminal o'r cyhoedd?

Hwyl


Mi wnaf fy ngorau :!:

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 1:37 pm
gan Gruff Goch
Sut wyt ti'n defnyddio gwn i amddiffyn dy hun?

Os oes gan yr ymosodwr wn ei hun ac am dy ladd di, dydi hi ddim yn rhy hwyr yn barod i ti fynd i dy boced/holster/handbag i nôl dy wn di?

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 1:45 pm
gan Boris
Gruff Goch a ddywedodd:Sut wyt ti'n defnyddio gwn i amddiffyn dy hun?

Os oes gan yr ymosodwr wn ei hun ac am dy ladd di, dydi hi ddim yn rhy hwyr yn barod i ti fynd i dy boced/holster/handbag i nôl dy wn di?


O clyfar iawn Gruff. Ond onid yw'r ystadegau yn dangos fod yna 'deterrent value'? Wn i ddim pam, sa gas gen i gario gwn - ond sut ti'n egluro'r ystadegau, mae nhwn weddol clear cut.

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 2:36 pm
gan Dylan
Mae'n amhosibl cael y drafodaeth hwn heb ystyried y ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Mae safonau byw y chwartel isaf yn UDA wedi gostwng ers dechrau'r '70au. Mae llawer o dystiolaeth sy'n awgrymu bod perthynas glos iawn rhwng tlodi a thorcyfraith. Yn enwedig pan fo'r bwlch ariannol rhwng y tlawd a'r cyfoethog mor eang yn economaidd ond mor fach yn ddaearyddol, megis mewn dinasoedd mawr.

'Dw i'n amheus iawn o unrhyw ystadegau ynglyn â gynau i ddweud y gwir (o'r naill safbwynt a'r llall)

Ond onid yw'r ystadegau yn dangos fod yna 'deterrent value'? Wn i ddim pam, sa gas gen i gario gwn - ond sut ti'n egluro'r ystadegau, mae nhwn weddol clear cut


Yr unig effaith mae cael gwn ymhob ty yn ei wneud ydi annog mwy o ladron i gael gynnau eu hunain er mwyn ad-ennill y fantais. "Arms race", fel petai.

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 2:52 pm
gan Gruff Goch
Be am gael ci yn lle? ;)

(Mi wna i bostio mwy pan dwi adref...)

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 3:09 pm
gan Boris
Dylan a ddywedodd:'Dw i'n amheus iawn o unrhyw ystadegau ynglyn â gynau i ddweud y gwir (o'r naill safbwynt a'r llall)

Ond onid yw'r ystadegau yn dangos fod yna 'deterrent value'? Wn i ddim pam, sa gas gen i gario gwn - ond sut ti'n egluro'r ystadegau, mae nhwn weddol clear cut


Yr unig effaith mae cael gwn ymhob ty yn ei wneud ydi annog mwy o ladron i gael gynnau eu hunain er mwyn ad-ennill y fantais. "Arms race", fel petai.


O ran yr ystadegau, dwi'n deall be ti'n ddeud. Ond pan mae gymaint ohonynt yn pwyntio i'r un cyfeiriad mae'n rhaid talu sylw.

Mae dy ail bwynt yn ddiddorol. 'Arms race' medde ti, ond mae lefelau bwrgleriaeth yn yr UDA yn llawer is na'r DU. Fe ymddengys nad yw risgio bywyd er mwyn video recorder yn temptio lladron yn yr UDA. Meddylia am y peth, fydde ti'n risgio tori mewn i dy lle mae gan y perchennog yr hawl i dy saethu'n farw?

Unwaith eto, dwi'n pwysleisio nad wyf yn berchen gwn, dwi ddim yn hoffi gynnau a dwi ddim yn keen ar 'gun culture' America. Ond mae cyfres o ystadegau yn pwyntio i'r un casgliad (er gwaethaf amheuaeth resymol Dylan) yn codi cwestiwn i mi.

Beth bynnag gwraidd y drafodaeth yma os ti'n cofio Dylan oedd cyfansoddiad yr UDA lle awgrymaist fod 'right to bear arms' yn beth drwg. Yr oll i mi ei wneud oedd dadlau fod y cymal yma'n gymal poblogaidd. Mae'n rhaid i ti gydnabod bod hi'n hawdd deall pam fod cymal o'r fath yn boblogaidd dan yr amgylchiadau.