Tudalen 2 o 6

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 3:11 pm
gan Boris
Gruff Goch a ddywedodd:Be am gael ci yn lle? ;)


Yma ym Mhrydain fe allet fod yn gyfrifol yng ngolwg y gyfraith petae dy gi yn brathu lleidr sydd yn dy eiddo. Mae hyn yn ffaith! Pwy di'r nytars, ni ta'r Americanwyr?

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 4:55 pm
gan RET79
Hoffwn i bobl ystyried y sefyllfa hyn: 3 o'r gloch bore, rwyt ti a dy wraig a phlant bach yn cysgu. Ti'n clywed rhywun yn tori fewn i dy ty a mae nhw'n agosau at y grisiau. Beth ti'n wneud? Aros yn dy wely a gadael i nhw ymosod ar dy wraig a phlant? Gadael i nhw ddwyn a dinistrio dy eiddo personol? Neu ti am godi o'r gwely, pigo fyny'r bat baseball neu gwn a mynd i sortio'r broblem allan? Yn bersonol fuaswn i'n mynd i ddelio a'r sefyllfa.

Nid oes rhaid defnyddio'r bat neu'r gwn ond mae cyfle da y buasai bygwth
nhw yn ddigon i'w dychryn ac efallai'n gwneud y gwahaniaeth rhwng dy wraig a dy blant yn cael eu bwrw/threisio.

Y pwynt yw - os yw nhw wedi tori mewn i dy gartref, yna mae'r wlad wedi methu a dy amddiffyn. Felly mae lawr i ti amddiffyn dy hyn a dy deulu - pam fod rhai am wadu i ti'r hawl sylfaenol hwn?

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 10:16 pm
gan huwwaters
Yma ym Mhrydain fe allet fod yn gyfrifol yng ngolwg y gyfraith petae dy gi yn brathu lleidr sydd yn dy eiddo. Mae hyn yn ffaith! Pwy di'r nytars, ni ta'r Americanwyr?


"The law is an ass"

Y pwynt yw - os yw nhw wedi tori mewn i dy gartref, yna mae'r wlad wedi methu a dy amddiffyn. Felly mae lawr i ti amddiffyn dy hyn a dy deulu - pam fod rhai am wadu i ti'r hawl sylfaenol hwn?


Wel, os ydi neb yn cael bod yn berchen ar afr, pam y byddai nhw efo un?

Am y rheswm o deterrent, yn nhalaisth Texas, os yr ydych yn cael ei ffeindio'n euog yr ydych yn cael eich lladd. Ond beth bynnag, ma pobl dal i ladd yno a nifer ar 'death row'.

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 10:37 pm
gan Newt Gingrich
huwwaters a ddywedodd:
Yma ym Mhrydain fe allet fod yn gyfrifol yng ngolwg y gyfraith petae dy gi yn brathu lleidr sydd yn dy eiddo. Mae hyn yn ffaith! Pwy di'r nytars, ni ta'r Americanwyr?


"The law is an ass"

Y pwynt yw - os yw nhw wedi tori mewn i dy gartref, yna mae'r wlad wedi methu a dy amddiffyn. Felly mae lawr i ti amddiffyn dy hyn a dy deulu - pam fod rhai am wadu i ti'r hawl sylfaenol hwn?


Wel, os ydi neb yn cael bod yn berchen ar afr, pam y byddai nhw efo un?

Am y rheswm o deterrent, yn nhalaisth Texas, os yr ydych yn cael ei ffeindio'n euog yr ydych yn cael eich lladd. Ond beth bynnag, ma pobl dal i ladd yno a nifer ar 'death row'.


"The law is an ass" - ti'n hollol gywir. Yn wir mae pethau yn waeth na hyn hyd yn oed. Mae arwydd 'dangerous dog' yn groes i reolau Iechyd a Diogelwch (wir yr) achos ti'n cydnabod fod yr anifail yn beryglus!!!!

Yn yr un modd, os wyt ti'n berchen gweithdy neu ffactri sy'n storio defnyddiau ymfflamychyol (flammable) yma mae cyfraith Iechyd a Diogelwch y DU yn dweud y dylet adael golau ymlawn gyda'r nos - rhag ofn i leidr dorri mewn a tanio matsien er mwyn gweld ei ffordd! Digon o Iechyd a Diogelwch am y tro - mae darlithio yn y pwnc yn lladfa heb drafod y mater o fewn maes e :P

Mae dy ail bwynt yn rhesymol ond yn wan yn fy marn i. Os ti'n torri mewn i dy gan wybod fod y perchennog yn meddu gwn yn fe allet golli dy fywyd am ychydig iawn, video fel dywedodd rhywun - nei di feddwl ddwy waith. Ar y llaw arall, os ti'n dewis lladd ti'n gobeithio cael getaway efo dy weithred. Mae yna wahaniaeth yn fan yma. Gyda llaw, dwi'n llwyr yn erbyn y gosb eithaf - mwy o rym i'r wladwriaeth - ych a fi :!:

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 10:53 pm
gan Owain Llwyd
Boris a ddywedodd:
Gruff Goch a ddywedodd:Sut wyt ti'n defnyddio gwn i amddiffyn dy hun?

Os oes gan yr ymosodwr wn ei hun ac am dy ladd di, dydi hi ddim yn rhy hwyr yn barod i ti fynd i dy boced/holster/handbag i nôl dy wn di?


O clyfar iawn Gruff. Ond onid yw'r ystadegau yn dangos fod yna 'deterrent value'? Wn i ddim pam, sa gas gen i gario gwn - ond sut ti'n egluro'r ystadegau, mae nhwn weddol clear cut.


Pwynt eitha da gan Gruff, o'n i'n meddwl.

Nid cario gwn ydi'r deterrent chwaith, ond cario gwn a bod yn barod i chwythu brens dieithryn heb feddwl ddwywaith. Bod yn fwy o seico na'r sawl sy'n dy fygwth. Fyswn i ddim isio gweld datblygiad cymdeithas o bobl fel'na.

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2003 10:57 pm
gan Newt Gingrich
Owain Llwyd a ddywedodd:
Nid cario gwn ydi'r deterrent chwaith, ond cario gwn a bod yn barod i chwythu brens dieithryn heb feddwl ddwywaith. Bod yn fwy o seico na'r sawl sy'n dy fygwth. Fyswn i ddim isio gweld datblygiad cymdeithas o bobl fel'na.


Onid dyna relaiti cymdeithas heddiw?

Yw'r wladwriaeth yn amddiffyn y dinesydd?

Os na, oes yna hawl moesol i amddiffyn dy hun?

Beth fydde ti'n neud?

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 1:01 am
gan ffwrchamotobeics
Peidio cario gwn. Y mwya' sy na o arfau, mwy o ladd fydd. Fact. Yr unig rai sy'n enill yw Lockheed Martin/Smith&Wesson/B.A.E/Haliburton etc. a'r rhai sy'n colli bob tro yw'r gwledydd (ag ardaloedd) tlawd fel Angola/Affganistan, hyd yn oed yr U.D.A.

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 12:37 pm
gan Owain Llwyd
Newt Gingrich a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:
Nid cario gwn ydi'r deterrent chwaith, ond cario gwn a bod yn barod i chwythu brens dieithryn heb feddwl ddwywaith. Bod yn fwy o seico na'r sawl sy'n dy fygwth. Fyswn i ddim isio gweld datblygiad cymdeithas o bobl fel'na.


Onid dyna relaiti cymdeithas heddiw?

Yw'r wladwriaeth yn amddiffyn y dinesydd?

Os na, oes yna hawl moesol i amddiffyn dy hun?

Beth fydde ti'n neud?


Llapgoch amdani, hogia!

(Mi wna i drio meddwl am ateb arall pan fydd gen i fwy o amser.)

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 1:35 pm
gan Boris
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Peidio cario gwn. Y mwya' sy na o arfau, mwy o ladd fydd. Fact. Yr unig rai sy'n enill yw Lockheed Martin/Smith&Wesson/B.A.E/Haliburton etc. a'r rhai sy'n colli bob tro yw'r gwledydd (ag ardaloedd) tlawd fel Angola/Affganistan, hyd yn oed yr U.D.A.


Perffaith wir.

Ond dio ddim yn ateb y broblem. Os ydi'r baddies yn barod efo arfau ddylai y wladwriaeth wahardd dinesyddion rhag amddiffyn eu hunain?

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:49 pm
gan Cardi Bach
Boris a ddywedodd: Os ydi'r baddies yn barod efo arfau ddylai y wladwriaeth wahardd dinesyddion rhag amddiffyn eu hunain?


Mae'r ddadl yma yn aml yn cael ei roi, ond mae'n y nharo i fod rhwbeth mawr o'i le gyda'r ddadl. Onid yw'r cwestiwn ben-i-waered, fel petai?

Nyge'r cwestiwn ddyled fod siwd y'n ni am stopo'r 'baddies' rhag cal arfe yn y lle cynta?