Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:28 pm
gan Chris Castle
Wnes i ddim ddarllen pawb felly ymddiheuraf os dwi'n ailddweud syniadau rhywun arall.

Roedd ymateb i "Bowling for Columbine" gan y dyn o Ganada'n diddorol iawn.
Ond pa fath o gynnau ydy pobl yn cario yng Nghanada. Disgwiliwn i taw gynnau hela ydyn nhw. Nid y fath assault rifle a pistolau fel yn yr UDA. Yn y Swistir mae dyletswydd i gadw Rifle am eich bod chi'n aelod y reserves, mae rheolau llym am sut i'w cadw hefyd.

Does dim problem 'da fi os dryll hela sydd mewn cwestiwn. Ond cofiwch sut gwlad yw Pacistan gyda pawb yn cario Kalashnikov i'r siopiau.

Ym Mhrydain does angen cael gynnau heblaw am shotgun i ladd 'sgarthion a bwyd, neu ddryll i saethu ceirw.

Be' sy'n fy mhoeni i ydy'r Gun Nuts sy'n cael plesur braidd yn rhywiol mas o saethu, a sy'n agressive iawn i amddiffyn eu "Hawliau".

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:32 pm
gan Cwlcymro
Allai wir ddim deall 'gun cultures'. Dwi erioed wedi GWELD gwn go iawn, heb son am fod pia un, ac eto dwi'n teimlo'n saff yn fy nhy. Yr unig dro dwi di meddwl fod na leidr yn y ty (stori hir) mi odd raid fi fynd rownd pob congol efo procar!

Pam fod hynnu'n wahanol yn America? Achos yn America swn i bron yn gallu bod yn siwr fod gan y lleidr wn. Felly swn i heb feddwl mynd o gwmpas efo procar. Y funud ma'r "bobl ddrwg" efo gwn, da ni isho gwn i arbad yn hunan. So ma'r "bobl ddrwg" yn cal mwy o ynna, so da ni'n cal mwy.....etc etc etc. Ac yn y diwadd ma achos o fi'n hitio lleidr dros ei ben efo procar yn troi yn achos o fi'n saethu'r lleidr efo shotgun yn ei gefn.

Be dwi'n trio ddeud (dwi'n meddwl) ydi fod gynna yn bridio mwy o ynna ac yn y blaen.

Ond fedra ni'm beio holl broblema America ar ddiffyg rheolaeth, fel udodd riwun ma Canada rhun mor llac efo'i rheolaeth, sam byd yn digwydd yn fanno.

I fi ma'n syml. Ma gynna yn llad, bo hynnu'n fwriadal neu ar ddamwain, dwi'n gweld dim iws i'r petha yn ein tai ni. Y mwy o reolaeth dros y dam petha y gora.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 4:10 pm
gan Aelod Llipa
Dan ni'n byw mewn Byd trist iawn os na allem fynd i'r gwely heb lwytho'r gwn yn gyntaf.
Fuasai'n well gen i wisgo 'bullet proof pajamas' na gorfod disgyn i lefel y gwter a prynu gwn i amddiffyn fy hyn.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 4:59 pm
gan Cardi Bach
[llwy bren]

Wy'n cofio Boris mewn trafodaeth arall yn dweud na fyddai byth am gymryd dim y byddwn i'n sgwennu o ddifri eto am i mi ddweud fod yr SNP lawer yn fwy asgell dde na Phlaid Cymru. Bu i mi, fel dyn, ymddiheurio, a chywiro fy ngosodiad.

Yn dilyn y cywiriadau o ddadleuon ffeiledig Boris uchod, yn dilyn ei resymeg, a allwn ni fyth gymryd unrhyw beth y dywed ef eto o ddifri? A fydd unrhyw ystadegyn ganddon yn ddim mwy na dychymyg 'over-active'?

[/llwy bren]

:winc:

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 5:10 pm
gan Boris
Cardi Bach a ddywedodd:[llwy bren]

Wy'n cofio Boris mewn trafodaeth arall yn dweud na fyddai byth am gymryd dim y byddwn i'n sgwennu o ddifri eto am i mi ddweud fod yr SNP lawer yn fwy asgell dde na Phlaid Cymru. Bu i mi, fel dyn, ymddiheurio, a chywiro fy ngosodiad.

Yn dilyn y cywiriadau o ddadleuon ffeiledig Boris uchod, yn dilyn ei resymeg, a allwn ni fyth gymryd unrhyw beth y dywed ef eto o ddifri? A fydd unrhyw ystadegyn ganddon yn ddim mwy na dychymyg 'over-active'?

[/llwy bren]

:winc:


Os dwi'n cofio trwy dy din ddaru ti ymddiheuro a dwi ddim yn derbyn dy ffeithiau fel efengyl. Beth bynnag, darllen di'r edefyn hwn yn fanwl ac fe gei weld mae fy mwriad oedd codi cwestiwn.

Ti hefyd yn anwybyddu y cwymp mewn trais mewn taliaethau megis Florida yn dilyn newid y gyfraith i roi'r hawl i gario gwn.

Dwi'n sylwi mai corddi yw dy fwriad fan hyn, ond yn y diwedd fe fedrwn daflu ffeithiau at ein gilydd ar y mater hwn trwy dydd 'lies damned lies and statistics' fel y dywedodd y sais.

Ond fel fy nghyfraniad olaf i'r pwnc hwn, dwi hefyd yn amheus os y byddwn am fyw mewn gwlad lle mae gan bobl arfau, dwi jyst yn amau falle fod y darlun ddim yn 'clear cut' fel mae rhai (fel ti) yn honni.

Yr ateb go iawn yw cael gwlad lle mae cyfraith a threfn yn gweithio. Nid polisi y dde yw hynny, ond synnwyr cyffredin.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 5:13 pm
gan Boris
Cardi Bach a ddywedodd:Felly: US states with the largest increase in gun ownership have also recorded the largest decrease in violent crime" John Lott, 'More Guns, Less Crime' ?

Na.



Dam it all, mae hwn yn anghywir. Does dim o dy ddadleuon yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r datganiad uchod. Ti'n son am 'gun control' ond mae'r datganiad uchod yn trafod 'gun ownership' - so be di dy bwynt?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 7:01 pm
gan Macsen
Dw i yn erbyn y hawl i gario gwn.

Delwedd

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:43 am
gan ffwrchamotobeics

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 1:16 am
gan Marwolaeth
Ffwrchamotobeics a ddywedodd:Ti'n Ionc.Ffeindia Duw


Ionc? Tydi Ifan ddim hyd yn oed yn gristion i ddechrau.

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2004 10:24 pm
gan Ramirez
huwwaters a ddywedodd:Wel, os ydi neb yn cael bod yn berchen ar afr, pam y byddai nhw efo un?


OOOOOOOOOES GAFR ETOOOOOOOOO...!!

sori :wps: