Boris,
Pam wyt ti'n ymateb i Sioni Spart?
Sdim byd gwell da ti i'w wneud gyda dy amser?
Cymedrolwr: Cwlcymro
Colm a ddywedodd:ma'r ffycin maes ma wedi ei swampio hefo ffycin thatcherites!
ydych chi ddigon hen i gofio'r wythdegau bois?
Dwi'n dweud ffug gan fod y rhelyw ohonoch o fewn Maes e sy'n ymosod ar Bush ar UDA yn mwynhau byw bywyd cwbwl Americanaidd, cinema, cerddorion, grwpiau pop, gemau cyfrifiaduron - typical o'r dosbarth canol Cymreig.
Pwynt arbennig o dda.
Cwlcymro a ddywedodd:Dwi'n dweud ffug gan fod y rhelyw ohonoch o fewn Maes e sy'n ymosod ar Bush ar UDA yn mwynhau byw bywyd cwbwl Americanaidd, cinema, cerddorion, grwpiau pop, gemau cyfrifiaduron - typical o'r dosbarth canol Cymreig.
Pwynt arbennig o dda.
A dweud y gwir, pwynt arbennig o ddrwg. A un sy'n yng ngwylltio i.
Mi ddudai hyn yn syml, rhag ofn i chdi fethu ei ddalld o, a mi ddudai o mewn caps lock hefyd, jusd rhag ofn i chi sgipio heibio fo fel arfar.
DYDI YMOSOD AR BOLISIAU BUSH DDIM YN YMOSOD AR AMERICA
Dwi'n ddigon hapus yn fy myd yn anghytuno efo Bush am Iraq, Kyoto a llawer mwy, tra dwi'n yfad fy Coke a gwylio Lord of the Rings. Achos sgenaim byd yn erbyn Americannwyr fel pobl. Ma genai deulu yna i ddechra arni.
Dwi YN ymosod ar gredoda unrhywun sy'n cefnogi'r polisiau yma, ond mae dweud fod hyn yn ymosod ar America yn trio dweud fod pawb yn America'n rhannu'r credodau yno. A ma hynnu yn slur uffernol ar Americannwyr, dweud nad oes ganddynt feddwl ei hyn, a'i bod yn dilyn ei harlywydd mewn blind faith!
Newt Gingrich a ddywedodd:Be sydd gan Lord of the Rings i'w wneud gyda'r drafodaeth?
Awdur o Sais a ffilm o Seland Newydd i bron bob pwrpas.
Owain Llwyd a ddywedodd:Newt Gingrich a ddywedodd:Be sydd gan Lord of the Rings i'w wneud gyda'r drafodaeth?
Awdur o Sais a ffilm o Seland Newydd i bron bob pwrpas.
Ella fod o'n meddwl am y pres mawr gan New Line y tu cefn i'r fenter? Doedd pwynt Cwlcymro ddim mor astrus a hynny.
Cwlcymro a ddywedodd:Argol, nachdi dda de Newt. O'r holl ddadl ti'n cymeryd yr un pwynt lleia pwysig.
Gei di gyfnewid 'Lord of the Rings' efo 'Matrix', 'Terminator 3' be bynnag ti blydi isho, dim dyna ydi bon y ddadl.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai