RET79 a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd: 'The end never justifies the means'.
Sori ond os ti'n credu yn hynna, wel, mae o'n dweud lot am y ffordd ti'n meddwl. Felly buaset ti yn erbyn ni'n cwffio yn yr ail ryfel byd hefyd? Agwedd gachwraidd yw hwnna i fod yn hollol onest. Rhaid cymryd camau dewr i gael heddwch yn y byd yma. "If you want peace you have to be prepared for war".
Yn gyntaf dwi'n anghytuno efo Cardi. Mae Ret yn gywir - 'the end does sometimes justify the need' ac mae WW2 yn esiampl ragorol. Serch hynny (cyn i Cardi ymosod) dwi ddim o'r farn fod heddychiaeth yn gachwraidd. Yn wir, yn sytod WW1 a WW2 'roedd bod yn heddychwr yn golygu carchar neu'r ambulance service. Yr ambulance service yn WW1 oedd cario stretcher i'r 'front line' ac achub milwyr wedi ei clwyfo - dewr iawn ddywedwn i. Ac yn yr un modd, mae angen gyts er mwyn gwynebu llid a dirmyg cymdeithas.
Dwi ddim yn heddychwr. Dwi'n credu fod yna achosion sy'n cyfiawnha rhyfel. Ond dwi erioed wedi, a dwi ddim yn bwriadu cychwyn bychanu hyeddychiaeth.
I gloi fodd bynnag, dwi'n gorfod anghytuno efo pwynt wnaeth Cardi. Ti'n llyged dy le yn dweud fod Blair yn ceisio cyfiawnhau y rhyfe rwan gan ddadlau fod Saddam wedi mynd so da iawn fi. Ond adeg y bleidlais yn San Steffan - WMD oedd y ddadl. Dwi'n credu fod Blair wedi cam arwain y cyhoedd. Mae Bush fodd bynnag wedi bod yn gyson - 'Regime Change' oedd mantra Bush, a dwi o'r farn fod o'n iawn. Felly, fel y dywedodd Will Self neithiwr, 'don't let Blair off the hook by attacking Bush - at least he was honest as to why he went to war".