Cymedrolwr: Cwlcymro
sbesh a ddywedodd:mi fydd yna brotest yn aberystwyth hefyd yr wythnos hynny( trefniadau i ddilyn....) ond canolbwynt y brotest fydd i wrthwynebu ymweliad Bush ac er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod gweithredoedd Bush yn Irac yn ddigon i'w gyhuddo o drais rhyfel/ war crimes. Da ni moyn cynnal protest er mwyn barhau i ategu ein gwrthwynebiad i'r rhyfel a'r hyn sydd yn digwydd yn Irac. nawr bod y rhyfel drosodd yn 'swyddogol' dy'n ni ddim jyst yn gallu anwybyddu be sy'n digwydd a be ddigwyddodd yno.
RET79 a ddywedodd:felly beth yw eich syniadau chi am Irac a'ch cyngor i Bush, eisiau iddo dynnu allan neu beth? Neu cael Saddam yn ol (dyna fuasai'r sefyllfa petai USA a'r UK heb fynd i fewn yn y lle cyntaf, sef beth roeddech eisiau)
RET79 a ddywedodd:Wel Sioni yn amlwg ti ddim yn gallu trafod yn aeddfed hefo parch, trist iawn.
Y dewisiadau anodd mewn bywyd yw'r rhai lle nad oes dewis hawdd. Fel hefo rhyfel Irac y dewis oedd cadw Saddam i fewn neu cael ei wared. Nid oedd y dewis yna yn ddewis neis ond o'r ddau cael gwared o Saddam oedd y dewis cywir gan yn y pendraw ti'n achub mwy o fywydau diniwed.
Mae'r brotest yn erbyn Bush yn seiliedig ar nonsens llwyr ac ymgais blentynaidd iawn i gael sylw tuag at fudiadau lleiafrifol cachlyd.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai