Protest yn erbyn Bush yn Caerdydd 19/11/03

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Protest yn erbyn Bush yn Caerdydd 19/11/03

Postiogan Mr Jones » Mer 05 Tach 2003 1:36 pm

Does dim manylion gyda fi eto ond mae protest yn erbyn Bush ar y 19/11/03 yng Nghaerdydd.
Mr Jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 31 Gor 2003 6:20 pm
Lleoliad: Llantrisant

Postiogan RET79 » Mer 05 Tach 2003 6:26 pm

Dyw'r syniad ddim yn gwneud sens.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan sbesh » Iau 06 Tach 2003 4:41 pm

mi fydd yna brotest yn aberystwyth hefyd yr wythnos hynny( trefniadau i ddilyn....) ond canolbwynt y brotest fydd i wrthwynebu ymweliad Bush ac er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod gweithredoedd Bush yn Irac yn ddigon i'w gyhuddo o drais rhyfel/ war crimes. Da ni moyn cynnal protest er mwyn barhau i ategu ein gwrthwynebiad i'r rhyfel a'r hyn sydd yn digwydd yn Irac. nawr bod y rhyfel drosodd yn 'swyddogol' dy'n ni ddim jyst yn gallu anwybyddu be sy'n digwydd a be ddigwyddodd yno.
sbesh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 9:39 am
Lleoliad: Tir Na Nog

Postiogan RET79 » Iau 06 Tach 2003 5:47 pm

felly beth yw eich syniadau chi am Irac a'ch cyngor i Bush, eisiau iddo dynnu allan neu beth? Neu cael Saddam yn ol (dyna fuasai'r sefyllfa petai USA a'r UK heb fynd i fewn yn y lle cyntaf, sef beth roeddech eisiau)
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 6:06 pm

sbesh a ddywedodd:mi fydd yna brotest yn aberystwyth hefyd yr wythnos hynny( trefniadau i ddilyn....) ond canolbwynt y brotest fydd i wrthwynebu ymweliad Bush ac er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod gweithredoedd Bush yn Irac yn ddigon i'w gyhuddo o drais rhyfel/ war crimes. Da ni moyn cynnal protest er mwyn barhau i ategu ein gwrthwynebiad i'r rhyfel a'r hyn sydd yn digwydd yn Irac. nawr bod y rhyfel drosodd yn 'swyddogol' dy'n ni ddim jyst yn gallu anwybyddu be sy'n digwydd a be ddigwyddodd yno.


Ia, ia, na fe bach
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Gwe 07 Tach 2003 12:37 pm

RET79 a ddywedodd:felly beth yw eich syniadau chi am Irac a'ch cyngor i Bush, eisiau iddo dynnu allan neu beth? Neu cael Saddam yn ol (dyna fuasai'r sefyllfa petai USA a'r UK heb fynd i fewn yn y lle cyntaf, sef beth roeddech eisiau)


rynda, ma rhaid i Bush ddeall fod beth nath e'n rong.
Ma rhaid iddo fe ddeall na all e fynd a danfon ei fyddin mewn i unrhyw wlad am ba bynnag reswm (sydd wedi newid sawl gwaith gyda Blair a'i gabinet ers blwyddyn dwetha).

Ma beth nath Bush, a Blair, wedi arwain at farwolaeth nifer o Gymry - yn ddi-anghenrhaid.

A pam bo ti'n mynnu malu cachu rwtsh bod ni moyn gwels Saddam nol? Tyfa lan RET. Ni odd yn ymgyrchu yn erbyn y ffaith fod llywodraethau Prydain ac America yn gwerthu arfau i Saddam i ladd Cwrdiaid a Shiaits a phobl yn Iran o'r dechre!

Cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn dos dim croeso i Bush, ac mi fydda i'n ymgyrchu yn chwyrn i ddangos nad oedd y nghymuned i oleia yn cefnogi rhyfel gwallgo Bush a Blair.

Boris, wyt ti'n dishgwl i sbesh gyfrannu ymhellach os mai nagyd wyt ti'n gallu neud yw bychanu? Oleia fod sbesh yn trial neud rhwbeth. Ma rhyw gof gyda fi o ti Boris yn son rwle dy fod ti wedi bod yn erbyn y rhyfel yma. Wyt ti am neud rhwbeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Sioni Size » Gwe 07 Tach 2003 2:47 pm

Iddi bois!
Hoi, Ret a Boris, rydych chi mor arbennig o syml. Rhywben mi benderfynoch fabwysiadu personoliaeth y wladwriaeth fel eich personoliaeth eich hun. Fetiai eich bod yn blismyn. Neu'n aelodau o'r toriaid.

Ys dywed Cardi Bach, roedd meddylwyr y byd yma yn chwyrn yn erbyn ymosod ar irac, yn erbyn y sancsiynau sydd wedi lladd miliwn a hanner ac yn erbyn y diwydiant arfau sy'n golygu ein bod yn gwerthu arfau i rywun rywun fedar dalu.

Tra rydych chi'ch dau a'ch teip yn gefnogol i ymosod ar irac, roeddech y gefnogol i'r sancsiynau A rydych yn gefnogol i werthu arfau i rywun rywun megis Indonesia, Israel a Saddam Hussein gynt. Dydach chi ddim yn gweld dim pellach i beth sy'n dda i 'ni', Prydain (Lloegr), rwan ac ar y pryd.
Byddech yn cega ar y chwith yn yr 80au am wrthwynebu gwerthu arfau i irac, yn byddech chi. Pennau prics di-enaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan RET79 » Gwe 07 Tach 2003 4:31 pm

Wel Sioni yn amlwg ti ddim yn gallu trafod yn aeddfed hefo parch, trist iawn.

Y dewisiadau anodd mewn bywyd yw'r rhai lle nad oes dewis hawdd. Fel hefo rhyfel Irac y dewis oedd cadw Saddam i fewn neu cael ei wared. Nid oedd y dewis yna yn ddewis neis ond o'r ddau cael gwared o Saddam oedd y dewis cywir gan yn y pendraw ti'n achub mwy o fywydau diniwed.

Mae'r brotest yn erbyn Bush yn seiliedig ar nonsens llwyr ac ymgais blentynaidd iawn i gael sylw tuag at fudiadau lleiafrifol cachlyd.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cardi Bach » Gwe 07 Tach 2003 4:37 pm

RET79 a ddywedodd:Wel Sioni yn amlwg ti ddim yn gallu trafod yn aeddfed hefo parch, trist iawn.

Y dewisiadau anodd mewn bywyd yw'r rhai lle nad oes dewis hawdd. Fel hefo rhyfel Irac y dewis oedd cadw Saddam i fewn neu cael ei wared. Nid oedd y dewis yna yn ddewis neis ond o'r ddau cael gwared o Saddam oedd y dewis cywir gan yn y pendraw ti'n achub mwy o fywydau diniwed.

Mae'r brotest yn erbyn Bush yn seiliedig ar nonsens llwyr ac ymgais blentynaidd iawn i gael sylw tuag at fudiadau lleiafrifol cachlyd.


Pwy wyt ti i siarad am drafod aeddfed, RET? Ti'n un pert i siarad.
Ta waeth ni wedi mydn dros lot o hwn yn y drafodeth ar ryfel Irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan RET79 » Gwe 07 Tach 2003 4:40 pm

Rhaid i'r chwith ddeall mai heb i Bush a Blair fynd i mewn byddai Saddam dal mewn grym yn trin ei bobl ei hun fel baw.

Felly, rhaid i'r chwith gyfiawnhau peidio mynd i fewn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai