Dim angen bod yn ymosodol Boris. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, dyw hyn ddim yn golygu fod rhywun yn dwpach.
Ta beth nol at y pwynt.
RET79 a ddywedodd:Boris :
Mae'n taro fi fod dy ddadl di, a llawer un arall, yn datgan fod Bush yn wrong yn Irac achos mae yna wledydd eraill drwg - pam ddim ymosod ar y gwledydd hynny?
Ar un llaw mae'r chwith yn condemnio America am 'blismona'r byd' ond ar y llaw arall mae nhw'n cwyno nad yw America yn mynd mewn i wledydd eraill! Gwnewch eich meddwl fyny plis.
Nid cwyno fod America ddim yn digon yw'r sylw mae pobl yn ei wneud, yn hytrach dweud nid yw'n iawn fod America a'r DU yn gallu cyfiawnhau rhyfel oherwydd ymddygiaid Saddam at y Cwrdiaid oherwydd fod Twrci yn ei wneud i'r un raddfa os nad mwy.
Os mae'n hanfodol achub Cwrdiaid Irac, yna mae'n hanfodol achub Cwrdiaid Twrci.
Cwrd yw Cwrd, nid yw'r ffaith fod Twrci yn hytrach nac Irac yn ei ormesu yn newid hyn.
Boris a ddywedodd:Dwi'n dweud ffug gan fod y rhelyw ohonoch o fewn Maes e sy'n ymosod ar Bush ar UDA yn mwynhau byw bywyd cwbwl Americanaidd, cinema, cerddorion, grwpiau pop, gemau cyfrifiaduron - typical o'r dosbarth canol Cymreig.
Ers pryd mae gerddorion yn beth Americanaidd. Dwi'n siwr fod ambell un o'r composers Clasurol mawr wedi byw a marw cyn ddyfodiad yr UDA.
Ta beth mae honni ein bod yn byw bywyd hollol Americanaidd oherwydd ein bod yn mynychu'r sinema ayyb gyfystyr a dweud mai byw bywyd Cymrieg wna bobl Sydney oherwydd eu bod yn cael Eisteddfod blynyddol.
Mae pobl y Byd yn defnyddio'r teledu, ydy hyn yn golygu taw byw bywyd Prydeinig ydynt oherwydd John Logie Baird (os taw hwnnw dy'r sillafiad)?