Tudalen 1 o 3

PROTEST ABER YN ERBYN BUSH! 19/11/03

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2003 5:11 pm
gan sbesh
mae protest am 12-2 y tu allan i siop y pethe yn aber ar ddydd mercher 19 i'r rheiny ohonom sy'n frwd i gynnal protestiadau lleol yn erbyn ymweliad y troseddwr rhyfel Bush i Lundain. rydyn ni'n cynnal y brotest am iddo ef a'r llywodraeth yn llundain gwrthod gwrando ar ganran fawr o'r bobl yn erbyn mynd i ryfel yn irac- yn erbyn lladd miloedd o iraciaid, o danseilio cyfraith ryngwladol, o rhaffu celwyddau am WMD.
mae'n hen bryd i rhai o'r bobl ar y maes hyn stopio bod yn hollol patronizing i'r rhai ohonom ni sydd yn cael cydwybod ac am stopio Bush a'i debyg. digon hawdd yw i i bobl feirniadu, ond rydym yn weithgar, yn becso tra rych chi'n beirniadu o hyd ac o hyd heb wneud dim ynghylch dim.

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2003 5:19 pm
gan Cardi Bach
Fydda i na.
:D

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2003 6:25 pm
gan RET79
Mae'n nghydwybod i'n well rwan fod Saddam yn cuddio mewn rhyw ogof a ddim mewn pwer.

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2003 7:27 pm
gan Macsen
Os fyswn i yn Aber, mi fyswn i yn dod. Dim ei fod o'n mynd i wneud lot o wahaniaeth.

PostioPostiwyd: Maw 18 Tach 2003 3:38 pm
gan sbesh
falch i weld bod Cardi bach yn cefnogi'r achos, ynte bobl?! :)

PostioPostiwyd: Maw 18 Tach 2003 3:54 pm
gan Hedd Gwynfor
RET79 a ddywedodd:Mae'n nghydwybod i'n well rwan fod Saddam yn cuddio mewn rhyw ogof a ddim mewn pwer.


Cydwybod? Be ddiawl ti'n siarad am?

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2003 3:50 pm
gan Rhys Llwyd
RET79 a ddywedodd:Mae'n nghydwybod i'n well rwan fod Saddam yn cuddio mewn rhyw ogof a ddim mewn pwer.


WEHEI COMENT YR WYTHNOS

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 4:00 pm
gan Sioni Size
Ella mai Ret oedd yn gyfrifol am werthu'r inc oedd ar y cytundeb rhwng Thatcher a Saddam Hussein am yr arfau.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 4:27 pm
gan Hedd Gwynfor
Sioni Size a ddywedodd:Ella mai Ret oedd yn gyfrifol am werthu'r inc oedd ar y cytundeb rhwng Thatcher a Saddam Hussein am yr arfau.


:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Joc yr wthnos!

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 7:36 pm
gan RET79
Saddam dal mewn pwer? Nac ydy. Pam? Am nad yw'r lefties mewn pwer ym Mhrydain ac America.