Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:00 pm
gan ceribethlem
Mae Saddam a'r byd wedi newid lot ers 1963.

Hollol pathetig RET.
Os yw Saddam yn tyranical despot (ac rydym ni ar y chwith wedi dweud hyn erioed), mae'n hollol anfoesol i'r CIA ei ariannu a'i arfogi. Dyn peryglus y buodd ef erioed.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:04 pm
gan RET79
ceribethlem a ddywedodd:
Mae Saddam a'r byd wedi newid lot ers 1963.

Hollol pathetig RET.
Os yw Saddam yn tyranical despot (ac rydym ni ar y chwith wedi dweud hyn erioed), mae'n hollol anfoesol i'r CIA ei ariannu a'i arfogi. Dyn peryglus y buodd ef erioed.


Dwi'n siwr wnei di newid lot mewn 40 mlynedd hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:10 pm
gan ceribethlem
Digon tebyg, ond anhebyg iawn a fyddeaf yn troi o fod yn berson addfwyn a chyfeillgar i ddechrau lladd a ffurfio unbeniaeth!

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:20 pm
gan RET79
ceribethlem a ddywedodd:Digon tebyg, ond anhebyg iawn a fyddeaf yn troi o fod yn berson addfwyn a chyfeillgar i ddechrau lladd a ffurfio unbeniaeth!


Wel mae'r tebygolrwydd fod unrhyw berson sydd mewn grym felna am amser mor faith a 40 mlynedd yn mynd i fynd yn wallgo yn eitha uchel ddwedwn i. Dau dymor geith Bush fod mewn pwer felly tua 8 mlynedd. Dyna wahaniaeth arall sylfaenol rhwng America a gwlad fel Irac.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:21 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:Mae Saddam a'r byd wedi newid lot ers 1963.


Fyset ti'n barod i ymhelaethu ar hyn? Sut mae Saddam wedi newid? Oedd o'n un o'r goodies yn 1963 ond 'fod o wedi cael ei hudo i'r Ochr Dywyll o dipyn i beth wedyn - rhyw fath o Annakin Hussein?

Gwir bod y byd wedi newid, ond pa agweddau yn benodol oeddet ti'n meddwl amdanyn nhw?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 11:44 am
gan Cardi Bach
Owain Llwyd a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Mae Saddam a'r byd wedi newid lot ers 1963.


Fyset ti'n barod i ymhelaethu ar hyn? Sut mae Saddam wedi newid? Oedd o'n un o'r goodies yn 1963 ond 'fod o wedi cael ei hudo i'r Ochr Dywyll o dipyn i beth wedyn - rhyw fath o Annakin Hussein?

Gwir bod y byd wedi newid, ond pa agweddau yn benodol oeddet ti'n meddwl amdanyn nhw?


:lol:
Da iawn nawr OLl!

Ma'r edefyn ma yn hileriys!
Ma RET yn despret druan.

Gdwch e fod nawr, druan bach. Dim ond hyn a hyn o weithe y gall rhywun cal ei fwrw lawr. Pryd ma'r cavalry am ddod?

Hold...HOLD...

:lol:

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 2:26 pm
gan Cwlcymro
Dau dymor geith Bush fod mewn pwer felly tua 8 mlynedd. Dyna wahaniaeth arall sylfaenol rhwng America a gwlad fel Irac.


Ia, ond yn anffodus dim ym Mhrydain. Os na di'r toriaid yn sortio ei hunain allan yn o fuan, mi alla ni fod yn sdyc efo Blair am flynyddoedd fry!

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 1:29 pm
gan Sioni Size
:D
Dyna chdi Ret. Mi oedd y CIA yn ddrwg yn 1963 yn toeddan, tra rwan mae nhw'n arwyr cyfiawnder a rhyddid. Dal i gredu yn y ffydd boi, ti'n ysbrydoliaeth i ni oll.