Cymedrolwr: Cwlcymro
lowri larsen a ddywedodd:Odda chi' n gwybod bod 3 gwaith gymaint o bobl wedi ei lladd yn Irac ar ol y rhyfel cyn bellad a wan na be gafodd ei lladd yn ystod y rhyfel. Trisd ia.
Newt Gingrich a ddywedodd:Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth.
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:A faint o bobl Irac a gafodd eu lladd gan y sancsiynau yn eu herbyn, Newt?
mred a ddywedodd:Newt Gingrich a ddywedodd:Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth.
Dydi hyn ddim yn wir.
Rwyt yn anghofio crybwyll nad oedd ymddygiad erchyll Saddam yn rhwystr i America a'i chynghreiriaid ei gefnogi yn ystod y rhyfel efo Iran, ac wedi gwenwyno'r Cwrdiaid.
Ffaith diddorol: nid Saddam oedd y cynta i ystyried defnyddio arfau cemegol yn Irac. Fe'i rhagflaenwyd gan Brydain pan oeddynt yn rheoli'r wlad. Bwriadent ddefnyddio awyrennau i ollwng cemegau gwenwynig ar y boblogaeth pan oedd gwrthwynebiad i'w presenoldeb ar gynnydd. Problemau technegol yn unig a achosodd i'r cynllun gael ei roi o'r neilltu.
Sioni Size a ddywedodd:Hollol
A 5000 gafodd eu lladd yn yr ymosodiad nwy gwenwynig Newt, ar ben y ffaith fod dy ddadl yn sylfaenol ac yn resymegol anghywir. Pwy werthodd y nwy (am y milfed gwaith ar maes -e )
A 250,000 o bobl o fewn ffiniau Irac sydd wedi eu lladd/diflannu dan law Saddam yn ol Human rights Watch.
Llawer llai na'r 1.5 miliwn o'r sancsiynau + y ddau ryfel dan America/Lloegr. A fedri di weld y paradocs? Wyt ti'n mynd i gyfiawnhau marwolaeth yr holl bobl yna oherwydd fod Irac yn 'rhydd'?
Rhydd - Iesu Grist.
War is Peace, Freedom is Slavery - fu na 'rioed broffwyd tebyg i George Orwell.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai