Faint sy wedi marw yn Irac?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Nifer o bobl sydd wedi ei lladd yn irac

Postiogan mred » Sul 21 Rhag 2003 4:45 am

Newt Gingrich a ddywedodd:
mred a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth.

Dydi hyn ddim yn wir.

Rwyt yn anghofio crybwyll nad oedd ymddygiad erchyll Saddam yn rhwystr i America a'i chynghreiriaid ei gefnogi yn ystod y rhyfel efo Iran, ac wedi gwenwyno'r Cwrdiaid.

Ffaith diddorol: nid Saddam oedd y cynta i ystyried defnyddio arfau cemegol yn Irac. Fe'i rhagflaenwyd gan Brydain pan oeddynt yn rheoli'r wlad. Bwriadent ddefnyddio awyrennau i ollwng cemegau gwenwynig ar y boblogaeth pan oedd gwrthwynebiad i'w presenoldeb ar gynnydd. Problemau technegol yn unig a achosodd i'r cynllun gael ei roi o'r neilltu.


Yn gyntaf mae'r ffigwr o 1,000,000 yn gywir - profa fo'n wrong.

Yn ail, na tydi dy ffaith ddiddorol ddim yn ddiddorol iawn.

Felly ffugio atgasedd wyt ti at weithredoedd ffiaidd o'r math a wnaed gan Saddam? Dydi defnyddio cemegau gwenwynig yn erbyn poblogaeth ddiamddiffyn ddim mewn gwirionedd yma nac acw? Defnyddio dadleuon ffug i resymoli be sy mewn gwirionedd yn oil-grab wyt ti wedi bod yn ei wneud o'r cychwyn yn amlwg.

Mae ffynhonnell ffigur llawer is na dy ffigur di uchod. Be di ffynhonnell dy nifer di?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan RET79 » Sul 21 Rhag 2003 1:33 pm

Trist iawn.

Ond mae hefyd yn ffaith fod Cymorth Cristnogol yn amcangyfrif fod 12,000 wedi ei lladd yn Irac ers dechrau y rhyfel, llai na'r nifer a laddwyd pan ymosododd Saddam ar y Cwrdiaid efo nwy gwenwynig.

Yn ystod rhyfel Irac Iran fe laddwyd dros 3,000,000 a hynny mewn wyth mlynedd. Yn rhyfel cyntaf y Gwlff yr amcangyfrif yw fod dim llai na 50,000 wedi marw. Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth. Mewn un noson yn 1998 cafod 8,000 o garcharorion (llawerryn grcharorion gwleidyddol) ei dienyddio.

Rho dy ffeithiau mewn cyd-destun Lowri a diolcha fod Saddam wedi mynd.


Dyma fy enwebiad i am neges y flwyddyn. Game set a match i Newt.

Mae rhoi ffeithiau mewn cyd-destun yn rywbeth mae'r chwith ar maes-e o hyd yn cael trafferth mawr hefo.

Os yw chi'n anghytuno hefo ffeithiau mae Newt yn crybwyll yna rhaid i chi ei brofi'n anghywir. Dyw jest dweud eu bod yn anghywir ddim yn enill dadl na chrediniaeth i chi.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Sul 21 Rhag 2003 1:37 pm

Felly os chi'n erbyn y rhyfel, sydd rwan yn dirwyn i ben, beth yw chi'n cynnig? Y dylai pob person estron adael Irac ac y dylai Saddam gael ei ollwng yn rhydd? Wedi'r cyfan, dyna fuasai'r sefyllfa os na fuasai'r gorllewin heb fynd i fewn yno yn y lle cyntaf.

A faint o Iraqi exiles sydd yn condemnio'r rhyfel? Maent i gyd yn llawenu yn ol beth welaf i.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan mred » Sul 21 Rhag 2003 2:38 pm

Sioni Size a ddywedodd:A 250,000 o bobl o fewn ffiniau Irac sydd wedi eu lladd/diflannu dan law Saddam yn ol Human rights Watch.

Ffigur yn cynnwys ffynhonnell yr wybodaeth.


Newt Gingrich a ddywedodd:Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth.

Ffigur ddim yn cynnwys ffynhonnell yr wybodaeth.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 21 Rhag 2003 4:57 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:Onid polisi y Cenhedlaeoedd Unedig oedd sancsiynau???


Yeah right!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Sioni Size » Sul 21 Rhag 2003 10:13 pm

Nacdi, dydi 5000 ddim yn iawn, i'r gwrthwyneb. Ond dydi o ddim yn fwy na 12000. Ta dwi'n methu rywbeth yn fama Newt?
Pwy sy'n sodio'r ffeithiau eto?
1.5 miliwn + o'r sancsyniau a'r rhyfeloedd, nid y rhyfel olaf.
"Yn gyntaf mae'r ffigwr o 1,000,000 yn gywir - profa fo'n wrong."
Mae Human Rights Watch yn deud 250,000. Profanhw'nanghywir. Profa dy filiwn di'n iawn.

Mae o yn eitha tedious i orfod ateb chdi a Ret mor aml. ond mae gadael i chi gael y gair olaf yn amhosib ei gyfiawnhau mewn cymdeithas war.

A mae cymryd gair rhaglenni newyddion yr imperialwyr anglo-sacsonaidd am 'mass graves' yn hanesyddol hynod naif. Mae'r tactec yma wedi ei ddefnyddio mor aml a mor gelwyddog mae'n amhosibl eu trystio, megis Fietnam a Cosofo i enwi dau.
O ia, mae'r mass graves yma yn cynnwys nifer o'r rhai a fradychwyd gan America pan geisiont godi yn erbyn Saddam yn 1991. Doedd America ddim yn siwr be fyddai eu polisi am olew'r wlad felly rhaid oedd eu rhwystro wrth gwrs. Helpwyd byddin Saddam gan America i'w lladd.

http://www.rferl.org/nca/features/2003/ ... 153149.asp
THE WALL STREET JOURNAL EUROPE:
To understand the answer to this, Lewis says one must look at the events of 1991. "At the beginning of the Gulf War in that year, the U.S. government called on the people of Iraq to rise in rebellion and overthrow" Saddam, who "had oppressed them for so long." Iraqis "responded readily, and rebellions broke out in many parts of the country."

But in the meantime, concurrent with their victory, the U.S. agreed to a cease-fire with the defeated Iraqi leader. "In the days that followed, Saddam Hussein [crushed] the rebellion, [including] Shiites in the south and Kurds in the north, killing tens of thousands in the most brutal way, including with chemical weapons."

http://pilger.carlton.com/iraq/articles/55395
The US did not simply stand aside, and the uprising was treated with dismay by the US government. Much of the detail is in Said Aburish?s book cited earlier. During the bombing of Iraq in February 1991, Bush called for the Iraqi people to rise up against Saddam Hussein in 1991. What he wanted was a military coup, not a popular uprising, because it was expected that such an uprising in the centre and south of Iraq would be pro-Iranian and in favour of an Islamic state, and in the north would be in favour of Kurdish independence. Bush senior?s National Security Adviser, Brent Scowcroft said in 1997 ?we clearly would have preferred a coup. There?s no question about that.? (Interview on ABC news quoted in Sarah Graham-Brown, Sanctioning Saddam I.B. Tauris 1999 p. 19). A popular uprising did take place in March 1991, and for the reasons given above, the US was willing to see it crushed: ?General Schwartzkopf, leading the coalition delegation [which met Iraqi commanders on 3 March], appeared to have little interest in the civil unrest engulfing southern Iraq. In fact he explicitly agreed, to the surprise of the Iraqi commanders, that Iraq could fly military helicopters ? but not fighters or bombers ? in areas where there were no coalition forces.

This effectively allowed Iraq to use helicopter gunships, along with artillery and ground forces, to crush the rebellions.? (Graham-Brown, p. 19). ?General Sir Peter de la Billiere, the commander of the British contingent in the Gulf War, has since been reported as saying that he felt Schwartzkopf was right to agree to the Iraqis flying helicopters. "The Iraqis were responsible for establishing law and order. You could not administer the country with using the helicopters." This suggests that the potential uses of the helicopters were well understood by the negotiators. Sir Peter further alleged that one of the battle objectives was to leave Iraq with enough forces "to defend its borders" against Iran?. (Washington Post 12 March 1998 quoted in Graham-Brown, p. 47).
[/i]
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Owain Llwyd » Llun 22 Rhag 2003 9:51 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Onid polisi y Cenhedlaeoedd Unedig oedd sancsiynau???


Yeah right!


Fel dw i'n ei dallt hi, mae Newt yn gywir yn hyn o beth, sef bod y Cyngor Diogelwch wedi awdurdodi sancsiynau economaidd yn erbyn Irac ym mis Medi 1990. Fodd bynnag, hyd y gwn i, mi oedd y sancsiynau wedi'u hawdurdodi yn benodol er mwyn rhoi pwysau ar Saddam Hussein i dynnu yn ôl o Kuwait. Dyna ddigwyddodd (er bod cyfraniad y sancsiynau i hynny yn destun dadl) felly mae parhad y sancsiynau am y 12 mlynedd (?) wedyn yn codi cwestiynau diddorol, a dweud y lleiaf.

Ond does 'na'm angen i Newt gymryd bod gwrthwynebwyr yr ymosodiad ar Irac o reidrwydd efo ffydd lwyr yn y Cenhedloedd Unedig ar ei ffurf bresennol, achos does gen innau ddim.

O ran y cyfanswm o 1 miliwn o farwolaethau yn Irac yn ystod y 90au, mi o'n i wedi clywed ffigur tebyg, ond bod y rheina o ganlyniad i'r sancsiynau.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 22 Rhag 2003 10:14 am

Fy mhwynt i yw bod America yn defnyddio awdurdod y Cenhedloedd Unedig mewn enghreifftiau fel hyn (i osod sancsiynau yn erbyn Irac), ond ar y llaw arall yn llwyr ymwrthod ag awdurdod y Cenhedloedd Unedig ar achlysuron eraill (peidio a rhoi arian i'r CU, mynd i ryfel uwchben ei awdurdod ac ati). Mae ei safbwynt yn un hollol anghyson.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Owain Llwyd » Llun 22 Rhag 2003 10:49 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Fy mhwynt i yw bod America yn defnyddio awdurdod y Cenhedloedd Unedig mewn enghreifftiau fel hyn (i osod sancsiynau yn erbyn Irac), ond ar y llaw arall yn llwyr ymwrthod ag awdurdod y Cenhedloedd Unedig ar achlysuron eraill (peidio a rhoi arian i'r CU, mynd i ryfel uwchben ei awdurdod ac ati). Mae ei safbwynt yn un hollol anghyson.


Dam reit.

Mae gen i broblem efo eu hagwedd hyblyg at Saddeim Hussein, y sosiopath hefyd. Mae fel tasen nhw weithiau yn cofio 'fod o'n foi annifyr ("SH yn anghenfil didrugaredd ac yn gormesu ei bobl ei hun yn ffiaidd ers degau o flynyddoedd, wedi lladd cannoedd o filoedd ohonyn nhw er mwyn cadw'r boblogaeth yn ei lle"), adegau eraill yn anghofio yn llwyr ("sancsiynau yn lladd cannoedd o filoedd, ond nid ni sydd ar fai - SH sydd ar fai am adeiladu palasau yn hytrach na helpu ei bobl ei hun. Sut oeddan ni i fod i wybod bysa fo'n rhoi ei fuddiannau ei hun yn uwch na dioddefaint ei bobl?")
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan nicdafis » Llun 22 Rhag 2003 11:00 am

<a href="http://story.news.yahoo.com/news?tmpl=story&cid=127&ncid=742&e=7&u=/uclicktext/20031218/cm_ucru/thetrialofsaddamhussein">Adysgrif yr achos yn erbyn Saddam.</a> Newyddion o'r dyfodol.

AC: You gassed 5,000 Kurds at the town of Halabja in 1988.

JUDGE KATHERINE HARRIS: Phrase queries in the form of a question, counselor. Like in "Jeopardy."

AC: Sorry, your honor. Mr. Hussein, did you gas 5,000 Kurds at Halabja?

SH: Actually, that was the Iranians. Hold on...(fumbles through papers)...here it is. Stephen Pelletiere, the main CIA political analyst on Iraq during the 1980s, wrote about this in The New York Times last January. He says yes, Kurds were gassed during one battle between us and Iranian troops, but the CIA "cannot say with any certainty that Iraqi chemical weapons killed the Kurds...The condition of the dead Kurds' bodies however, indicated they had been killed with a blood agent--that is, a cyanide-based gas--which Iran was known to use. The Iraqis, who are thought to have used mustard gas in the battle, are not known to have possessed blood agents at the time." Rumsfeld gave me permission to for mustard gas.


Dw i'n credu y dylai'r bobl oedd/sydd yn erbyn y rhyfel fod yn llawer mwy balch na'r "hebogiaid" fod Saddam wedi'i ddal. Bydd yn achos llys diddorol iawn. Dw i'n siwr bod Bush yn gweddïo am Jack Ruby newydd wrth i ni siarad.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron