Tudalen 1 o 5

Nifer o bobl sydd wedi ei lladd yn irac

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 1:28 am
gan Lowri Fflur
Odda chi' n gwybod bod 3 gwaith gymaint o bobl wedi ei lladd yn Irac ar ol y rhyfel cyn bellad a wan na be gafodd ei lladd yn ystod y rhyfel. :( Trisd ia.

Re: Nifer o bobl sydd wedi ei lladd yn irac

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 1:34 am
gan Newt Gingrich
lowri larsen a ddywedodd:Odda chi' n gwybod bod 3 gwaith gymaint o bobl wedi ei lladd yn Irac ar ol y rhyfel cyn bellad a wan na be gafodd ei lladd yn ystod y rhyfel. :( Trisd ia.


Trist iawn.

Ond mae hefyd yn ffaith fod Cymorth Cristnogol yn amcangyfrif fod 12,000 wedi ei lladd yn Irac ers dechrau y rhyfel, llai na'r nifer a laddwyd pan ymosododd Saddam ar y Cwrdiaid efo nwy gwenwynig.

Yn ystod rhyfel Irac Iran fe laddwyd dros 3,000,000 a hynny mewn wyth mlynedd. Yn rhyfel cyntaf y Gwlff yr amcangyfrif yw fod dim llai na 50,000 wedi marw. Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth. Mewn un noson yn 1998 cafod 8,000 o garcharorion (llawerryn grcharorion gwleidyddol) ei dienyddio.

Rho dy ffeithiau mewn cyd-destun Lowri a diolcha fod Saddam wedi mynd.

Re: Nifer o bobl sydd wedi ei lladd yn irac

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 2:33 am
gan mred
Newt Gingrich a ddywedodd:Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth.

Dydi hyn ddim yn wir.

Rwyt yn anghofio crybwyll nad oedd ymddygiad erchyll Saddam yn rhwystr i America a'i chynghreiriaid ei gefnogi yn ystod y rhyfel efo Iran, ac wedi gwenwyno'r Cwrdiaid.

Ffaith diddorol: nid Saddam oedd y cynta i ystyried defnyddio arfau cemegol yn Irac. Fe'i rhagflaenwyd gan Brydain pan oeddynt yn rheoli'r wlad. Bwriadent ddefnyddio awyrennau i ollwng cemegau gwenwynig ar y boblogaeth pan oedd gwrthwynebiad i'w presenoldeb ar gynnydd. Problemau technegol yn unig a achosodd i'r cynllun gael ei roi o'r neilltu.

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 7:03 am
gan Dylan
'Roedd Churchill wedi bwriadu defnyddio arfau cemegol ym 1922 yn erbyn y Cwrdiaid pan oedd yn ysgrifennydd trefedigaethol Prydain. 'Dw i'n trio ffindio'r araith. Reit hyll os 'dw i'n cofio'n iawn. Ond ta waeth.

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 2:02 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
A faint o bobl Irac a gafodd eu lladd gan y sancsiynau yn eu herbyn, Newt?

Gweler.

Paid ceisio gweud bod UDA a DU yn poeni am hawliau dynol y Cwrdiaid ac ati, wedi iddynt droi eu cefnau am flynyddoedd, ac wrth iddynt ganiatau Twrci i wneud beth a fynna yng 'Nghwrdistan'.

Wedi clywed darnau o'r araith, Dylan. Mae Churchill yn eu galw nhw'n "dark and disgusting race" neu rywbeth tebyg.

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 10:43 pm
gan Sioni Size
Hollol
A 5000 gafodd eu lladd yn yr ymosodiad nwy gwenwynig Newt, ar ben y ffaith fod dy ddadl yn sylfaenol ac yn resymegol anghywir. Pwy werthodd y nwy (am y milfed gwaith ar maes -e :rolio: )

A 250,000 o bobl o fewn ffiniau Irac sydd wedi eu lladd/diflannu dan law Saddam yn ol Human rights Watch.
Llawer llai na'r 1.5 miliwn o'r sancsiynau + y ddau ryfel dan America/Lloegr. A fedri di weld y paradocs? Wyt ti'n mynd i gyfiawnhau marwolaeth yr holl bobl yna oherwydd fod Irac yn 'rhydd'?
Rhydd - Iesu Grist.
War is Peace, Freedom is Slavery - fu na 'rioed broffwyd tebyg i George Orwell.

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 2:06 am
gan Newt Gingrich
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:A faint o bobl Irac a gafodd eu lladd gan y sancsiynau yn eu herbyn, Newt?



Onid polisi y Cenhedlaeoedd Unedig oedd sancsiynau???

Dwi ddim o blaid yr UN, ond chdi a dy debyg sydd wedi datgan fod rhyfel heb OK yr UN yn foesol wrong. So di sancsiynau yr UN hefyd yn foesol wrong?

Re: Nifer o bobl sydd wedi ei lladd yn irac

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 2:08 am
gan Newt Gingrich
mred a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth.

Dydi hyn ddim yn wir.

Rwyt yn anghofio crybwyll nad oedd ymddygiad erchyll Saddam yn rhwystr i America a'i chynghreiriaid ei gefnogi yn ystod y rhyfel efo Iran, ac wedi gwenwyno'r Cwrdiaid.

Ffaith diddorol: nid Saddam oedd y cynta i ystyried defnyddio arfau cemegol yn Irac. Fe'i rhagflaenwyd gan Brydain pan oeddynt yn rheoli'r wlad. Bwriadent ddefnyddio awyrennau i ollwng cemegau gwenwynig ar y boblogaeth pan oedd gwrthwynebiad i'w presenoldeb ar gynnydd. Problemau technegol yn unig a achosodd i'r cynllun gael ei roi o'r neilltu.


Yn gyntaf mae'r ffigwr o 1,000,000 yn gywir - profa fo'n wrong.

Yn ail, na tydi dy ffaith ddiddorol ddim yn ddiddorol iawn.

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 2:12 am
gan Newt Gingrich
Sioni Size a ddywedodd:Hollol
A 5000 gafodd eu lladd yn yr ymosodiad nwy gwenwynig Newt, ar ben y ffaith fod dy ddadl yn sylfaenol ac yn resymegol anghywir. Pwy werthodd y nwy (am y milfed gwaith ar maes -e :rolio: )

A 250,000 o bobl o fewn ffiniau Irac sydd wedi eu lladd/diflannu dan law Saddam yn ol Human rights Watch.
Llawer llai na'r 1.5 miliwn o'r sancsiynau + y ddau ryfel dan America/Lloegr. A fedri di weld y paradocs? Wyt ti'n mynd i gyfiawnhau marwolaeth yr holl bobl yna oherwydd fod Irac yn 'rhydd'?
Rhydd - Iesu Grist.
War is Peace, Freedom is Slavery - fu na 'rioed broffwyd tebyg i George Orwell.


So ma 5,000 yn OK?

Nol yn 1991 mewn cynhadledd PC cafwyd fy ffigwr a hynny gan unigolion o Gwrdistan. Pwy dwi'n gredu? Sioni 'I love the IRA' ta pobl oedd wedo colli teulu yn yr ymosodiad?

250,000?? So sut mae beddau 350,000 eisioes wedi dod i law?

1.5m wedi marw yn y rhyfel??????? 12,000 oedd y nifer yn ol Cymorth Cristnogol. 12,000 - 1.5m - be di'r gwahaniaeth i Sioni 'sod the facts' size

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 2:13 am
gan Newt Gingrich
Dwi hefyd yn sylwi nad oed yr un ohonoch wedi ymateb i'r pwynt olaf, sef diolchwch fod Saddam wedi mynd? Pam tybed?