Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 11:04 am
gan nicdafis
Mwy ar <a title="american samizdat" href="http://www.drmenlo.com/samizdat/2003_12_14_archive.html#107195333326929273">sut all treial Saddam fynd</a>.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 11:15 am
gan Boris
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n credu y dylai'r bobl oedd/sydd yn erbyn y rhyfel fod yn llawer mwy balch na'r "hebogiaid" fod Saddam wedi'i ddal. Bydd yn achos llys diddorol iawn. Dw i'n siwr bod Bush yn gweddïo am Jack Ruby newydd wrth i ni siarad.


Ehhh?

Balch fod y boi wedi ei ddal oherwydd gweithredoedd a wrthwynebwyd gan bob blydi 'dull di drais' trndi lefti o fewn Maes e?

Oes na ddim fath beth a chywilydd yn bodoli ar y chwith.

O wneud dim, sef galwad y chwith, yna fe fyddai Saddam yn dal mewn pwer - canlyniad uniongyrchol i weithredu yn ol dymuniadau y chwith.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 1:12 pm
gan nicdafis
Ti'n hollol, <i>hollol</i> iawn Boris. Dim cywilydd o gwbl.

Dw i'n mynd i ladd fy hunan nawr.

Da bo, byd creulon.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 1:25 pm
gan Cardi Bach
Boris a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n credu y dylai'r bobl oedd/sydd yn erbyn y rhyfel fod yn llawer mwy balch na'r "hebogiaid" fod Saddam wedi'i ddal. Bydd yn achos llys diddorol iawn. Dw i'n siwr bod Bush yn gweddïo am Jack Ruby newydd wrth i ni siarad.


Ehhh?

Balch fod y boi wedi ei ddal oherwydd gweithredoedd a wrthwynebwyd gan bob blydi 'dull di drais' trndi lefti o fewn Maes e?

Oes na ddim fath beth a chywilydd yn bodoli ar y chwith.

O wneud dim, sef galwad y chwith, yna fe fyddai Saddam yn dal mewn pwer - canlyniad uniongyrchol i weithredu yn ol dymuniadau y chwith.


Boris nid gwneud dim oedd gwrthwynebu cefnogaeth llywodraethau'r gorllewin o Saddam yn yr 80au.
Nid gwneud dim yw gwrthwynebu cefnogaeth llywodraethau'r gorrlewin o unbeniatheau heddiw.

Oes ma cywilydd yn bodoli 'ar y chwith' - cywilydd o'n llywodraeth gormesol.
Cywilydd fod ein 'so-called civilization' ni sydd gymaint yn well mor farbaraidd.
ie, ateb tipical, ond na fe.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 1:31 pm
gan Boris
Cardi Bach a ddywedodd:
Oes ma cywilydd yn bodoli 'ar y chwith' - cywilydd o'n llywodraeth gormesol.
Cywilydd fod ein 'so-called civilization' ni sydd gymaint yn well mor farbaraidd.
ie, ateb tipical, ond na fe.


You said it :!:

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 3:34 pm
gan Sioni Size
Boris a ddywedodd:

Balch fod y boi wedi ei ddal oherwydd gweithredoedd a wrthwynebwyd gan bob blydi 'dull di drais' trndi lefti o fewn Maes e?

Oes na ddim fath beth a chywilydd yn bodoli ar y chwith.

O wneud dim, sef galwad y chwith, yna fe fyddai Saddam yn dal mewn pwer - canlyniad uniongyrchol i weithredu yn ol dymuniadau y chwith.


Yr un hen ddadl sydd wedi ei ateb droeon.
Dwyt ti a dy deip ond yn erbyn unbeniaeth os ydi o yn erbyn 'interests' Prydain. Ac os yw'r unbeniaeth yn erbyn 'interests' Prydain ti'n troi'n bleeding heart mwya'r byd wedyn.
Saddam yn prynu arfau ganddom yn yr 80au- bawd i fyny.
Saddam yn gwrthod talu - bawd i lawr.
A wedyn ti'n dod a chywilydd i fewn i'r ddadl. Croeso'n ol Boris, ro'n i'n meddwl dy fod yn crio yn dy wely ar ol gweld dy gamweddau, ond ti mor focused ac erioed.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 3:39 pm
gan Boris
Sioni Size a ddywedodd:Yr un hen ddadl sydd wedi ei ateb droeon.
Dwyt ti a dy deip ond yn erbyn unbeniaeth os ydi o yn erbyn 'interests' Prydain. Ac os yw'r unbeniaeth yn erbyn 'interests' Prydain ti'n troi'n bleeding heart mwya'r byd wedyn.
Saddam yn prynu arfau ganddom yn yr 80au- bawd i fyny.
Saddam yn gwrthod talu - bawd i lawr.
A wedyn ti'n dod a chywilydd i fewn i'r ddadl. Croeso'n ol Boris, ro'n i'n meddwl dy fod yn crio yn dy wely ar ol gweld dy gamweddau, ond ti mor focused ac erioed.


Dwi ddim yn credu dy fod ti wedi llwyddo i ateb unrhyw ddadl erioed.

Yn wahanol i ti sy'n 'knee jerc anti Brit' dwi ddim yn 'knee jerc pro Brit'. Lle mae da yn digwydd dwi'n dweud hynny ac felly hefyd gyda'r drwg. Be sy'n dy gorddi di Sioni, fod real politic Bush wedi llwyddo lle ddaru dymuniadau da ond dim gweithredu ti a dy deip fethu?

Cywilydd yn wir, ond sda dyn fel ti sy'n clodfori lladd gan yr IRA ddim cywilydd nag oes - dim ond rhagfarn.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 3:51 pm
gan Sioni Size
Get a grip. Gan dy fod yn mynnu dod a'r IRA i fewn i bob neges gyrra un breifat i fi yn dangos dy enghraifft o 'glodfori' a mi gawn ni drafod o'n fanna.
Tori blaenllaw Cymru a clodforwr yr Urdd Oren ddim yn pro-brit!
Sori am fynd off y pwnc ond felna mae'r boi ma.

Felly Boris, wyt ti felly yn dweud y dylai diwydiant arfau prydain stopio rwan hyn oherwydd fod o'n arfogi gwledydd 'rogue' ac ansefydlog ac unbeniaethol ynteu oes na ormod o swyddi yn y fantol yn fama i boeni am drueniaid y byd?
Pa fath o dori wyt ti ddyn. Callia! Be ydio i ni os ydi un gang o wops yn lladd gang arall o wops (Alan Clark, tori)?

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 3:59 pm
gan Boris
Sioni Size a ddywedodd:Get a grip. Gan dy fod yn mynnu dod a'r IRA i fewn i bob neges gyrra un breifat i fi yn dangos dy enghraifft o 'glodfori' a mi gawn ni drafod o'n fanna.

Tori blaenllaw Cymru a clodforwr yr Urdd Oren ddim yn pro-brit!
Sori am fynd off y pwnc ond felna mae'r boi ma.

Felly Boris, wyt ti felly yn dweud y dylai diwydiant arfau prydain stopio rwan hyn oherwydd fod o'n arfogi gwledydd 'rogue' ac ansefydlog ac unbeniaethol ynteu oes na ormod o swyddi yn y fantol yn fama i boeni am drueniaid y byd?

Pa fath o dori wyt ti ddyn. Callia! Be ydio i ni os ydi un gang o wops yn lladd gang arall o wops (Alan Clark, tori)?


Pwynt cyntaf - sbia ar dy gyfraniadau i drafodaethau Gogledd Iwerddon.

Pwynt dau - amddiffyn yr Urdd Oren dwi wedi wneud, nid clodfori. Mae fy nghydwybod yn glir, yn wahanol i gydwybod y rhai hynny sy'n eilun addoli yr IRA.

Pwynt tri - tori blaenllaw? Wel diolch yn fawr.

Pwynt pedwar - dylai gwerthu arfau gael ei reoli yn ofalus, ond gwahardd gwneud hyn? Na dwi ddim yn credu fod hynny yn debygol nac yn ddymunol. Gwel fod Gwlad fel prydain yn YMDRECHU i reoli gwerthiant arfau nac fod y stff yn dod trwy law maffia gwledydd fel Serbia.

Pwynt pump - Tori bach call gobeithio. Dwi'n licio y cyfeiriad at Alan Clark er dwi'n falch o ddweud fod ei syniadaeth re wops yn agosach at agwedd y 'not in my name crowd' nac at fy syniadaeth i. Diddorol sylwi dy fod yn cyd-ymdeimlo efo bron pawn yn y byd Sioni ag eithro cymuned Brotestanaidd Gogledd Iwerddon - tybed pam?

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 4:06 pm
gan Sioni Size
Dos a fo i'r edefyn arall y nob.
"Ei reoli'n ofalus". Sut felly Boris, ymhelaetha. Ond ei werthu i'r democratiaethau daionus utopiaidd yma sy'n bodoli ia? Mi ei di'n bell.