ie, ond howld on, gynta i gyd dyw e'n neud dim sens i fi, hyd yn oed a derbyn unrhyw blydi ffigyrau i ddadlau fod cyfiawnhad dros ladd 1, 10, 100, 10,000 rahgor o bobl ddiniwed, a hynny let alone y pwynt nad oedd pob 'avenue' wedi eu defnyddio i ddatrys y broblem
Ar ben hyn, Bush Snr alwodd am y 'cease fire' yn 91. Pam na fydda america wedi mynd ar ol Saddam bryd hynny er mwyn cael regime change? Yn ol Bush a Bliar heddiw o'n nhw'n gwbod bryd hynny fod y boi yn tyrant (ac mi on nhw, achos nhw roddodd yr arfau iddo *yawn* ond fod e yn ddefnyddiol yn erbyn Iran *yawn*). Ond na, yn ol rhesymeg yma mi o'n nhw am roi rhagor o flynyddoedd iddo fod yn tyrant, ond y tro yma yn helpu fe hefyd trwy roi sancsiynnau fyddai'n lladd rhagor o bobl (mae'n amlwg fod y dull o lwgu drwy sancsiynnau yn llawer mwy effeithiol na gwastraffu bweldu fel oedd Saddam yn wneud)...cyn troi rownd a gweud, "na, mae e wedi anwybyddu ni rhy amal"...

ble ma'r sens - mae'r holl beth yn hollol ffeiledig!
Mae gwledydd yng Nghanolbarth America wedi llwyddo i gael chwyldro a gwaredu llywodraethau ffiaidd heb 'gymorth' America a'r cyngrheiriad. Yn anffodus iddyn nhw chwyldroadau Sosialaidd oedden nhw, ac WEDYN y bu i America fynd mewn a bomio, gan sicrhau fod tyrant gwaeth na'r cynta yn dod mewn (Somoza yn dod i feddwl *yawn fach arall*). Mae yna chwyldro heb waed newydd fod yn Georgia - dim cweit yr un pethfi'n cydnabod, ond yn arwydd o beth gall y bobl wneud. Neu beth am y 'Velvet revolution'? Neu beth am yr ANC (fi'n derbyn nad oedd hon yn 'bloodless, ond o'r tu fewn y daeth hi).
Mae hyn yn bosib. Ond mae'n rhaid iddo ddod o'r tu fewn. Golygodd y sancsiynnau fod pobl gyffredin Irac yn gorfod poeni o ddydd i dydd am fyw a iechyd, a heb amser i feddwl am chwyldroadau, ac roedd eu hunig brofiad diweddar yn 1991 pan y bu i America droi eu cefn arnyn nhw wedi golygu nad oedd llawer o obaith cael cymorth allanol pe bai angen. Yn y cyfamser rod Saddam wedi rhoi lan eu ymgais am arfau dinistriol, ac yn hytrach yn byw'n fras tra'n tra-arglwyddiaethu dros Irac. Fel hen ddyn, na gyd odd e moyn. Bastard yr un modd, ond hardly yn fygythiad i ddiddordebau Prydeinig!