Tudalen 1 o 3

Lladd pobl diniwed

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 5:29 pm
gan RET79
Dwi ddim yn hoffi pan mae pobl diniwed yn cael eu lladd. Ond rhaid cydnabod fod gwahaniaeth rhwng pobl diniwed yn cael eu lladd yn fwriadol hefo pobl diniwed yn cael eu lladd ar ddamwain.

Yw'r chwith ar maes-e yn cydnabod y gwahaniaeth hyn?

Enghraifft 1.

- person diniwed yn cael ei daro lawr gan gar: damwain.

- person diniwed yn cael ei redeg lawr gan gar yn fwriadol, yn cael ei lofruddio mewn gwaed oer: dim damwain.

Enghraifft 2.

- soldiwrs america yn bomio adeilad a shrapnel yn lladd person diniwed yn bell i ffwrdd: damwain

- soldiwrs america yn lladd milwr iraq: dim damwain.

Dwi ddim yn credu fod hi'n bosib cael trafodaeth aeddfed am fywydau diniwed yn cael eu lladd os nad yw pobl yn gallu cydnabod y gwahanieth rhwng damwain a bwriadol.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 5:33 pm
gan SbecsPeledrX
Ydw dwin derbyn hwna RET.

Y gwahaniaeth gyda llaw yw mae bwriad bombs yw lladd pobl ac nid dyna bwriad ceir.

Er hyn, fedrai dderbyn dy safbwynt di os fedri di dderbyn nad oes gwahaniaeth rhwng america neu prydain yn lladd pobl diniwed ar gam ac dywed yr IRA neu ETA yn neud yr un peth. Neu oes un rheol i bobl efo tanks a rheol eraill i bobl heb?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 5:40 pm
gan RET79
SbecsPeledrX a ddywedodd:Ydw dwin derbyn hwna RET.

Y gwahaniaeth gyda llaw yw mae bwriad bombs yw lladd pobl ac nid dyna bwriad ceir.

Er hyn, fedrai dderbyn dy safbwynt di os fedri di dderbyn nad oes gwahaniaeth rhwng america neu prydain yn lladd pobl diniwed ar gam ac dywed yr IRA neu ETA yn neud yr un peth. Neu oes un rheol i bobl efo tanks a rheol eraill i bobl heb?


Wel os ti'n meddwl mae'r gwahaniaeth rhwng terrorists fel yr IRA a byddin gwlad ddemocrataidd yw dim ond tanks yna mae angen edrych ar dy ben di.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 6:00 pm
gan SbecsPeledrX
Does gen fy nghwlad i ddim byddin gyfaill. Dyna sy'n agor fy llygaid.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 6:31 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Y broblem, Ret, yw bod y 'damweiniau' hyn, fel adeiladau'r Groes Goch yn cael eu bomio, yn digwydd ychydig yn rhy aml. Beth yn gwmws yw 'friendly fire' beth bynnag? Shwt mae arfau'n gallu bod yn gyfeillgar?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 6:56 pm
gan RET79
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Y broblem, Ret, yw bod y 'damweiniau' hyn, fel adeiladau'r Groes Goch yn cael eu bomio, yn digwydd ychydig yn rhy aml. Beth yn gwmws yw 'friendly fire' beth bynnag? Shwt mae arfau'n gallu bod yn gyfeillgar?


Dyw'r broblem 'friendly fire' ddim yn reswm teilwng dros beidio ac achub miliynau o bobl rhag dictator erchyll a chas.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 7:22 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Rhyddhau'r bobl drwy eu lladd?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 7:28 pm
gan RET79
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Rhyddhau'r bobl drwy eu lladd?


Ti ddim yn deall y pwnc o gwbl mae gen i ofn. Yn y byd real ti fel arfer yn gorfod talu pris, dim freebies.

Felly ti'n erbyn rhyddhau miliynau o bobl gan efallai caiff cannoedd (ar y mwyaf) o bobl eu lladd yn y broses.

Dwi ddim yn derbyn fod soldiwrs yn bobl ddiniwed. Dyw'r ffaith fod rhai pobl diniwed wedi cael ei lladd yn Irac ddim yn golygu ei fod o wedi bod yn anghywir i fynd mewn a rhyddhau'r miliynau o bobl yn y lle cyntaf.

Byddai gwneud dim, fel roedd y chwith am weld, wedi golygu fod Saddam dal mewn grym i godi ofn a llofruddio ei bobl ei hun.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 7:31 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ond nag wyt ti'n sylweddoli mai asgell dde America a roddodd Saddam mewn grym yn y lle cyntaf, a drodd eu cefnau wrth iddo weithredu'r erchyllterau yn erbyn ei bobl ei hun, yna esgus eu bod wastad wedi gwrthwynebu'r peth, cyn bomio'r bobl, a'u lladd, yn yr un modd ag roedd Saddam wedi'i wneud yn y lle cyntaf?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 7:38 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Titbit o wybodaeth.

Sori, ond pan mae America yn lladd cynifer o bobl a hyn, naill ai drwy fomiau sy'n mynd oddi ar y trywydd sy'n cael ei fwriadu, neu drwy saethu protestwyr ac ati, ac yn dal i honni mai damweiniau y'n nhw i gyd, wy'n dueddol o fod braidd yn amheus...