Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 8:02 pm
gan RET79
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Sori, ond pan mae America yn lladd cynifer o bobl a hyn, naill ai drwy fomiau sy'n mynd oddi ar y trywydd sy'n cael ei fwriadu, neu drwy saethu protestwyr ac ati, ac yn dal i honni mai damweiniau y'n nhw i gyd, wy'n dueddol o fod braidd yn amheus...


ok cut to the chase, beth yw dy honiad am America?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 8:13 pm
gan Dylan
Pan mae byddinoedd yn parhau i ddefnyddio arfau fel 'daisy cutters' a 'carpet bombs' yna 'dw i'n siwr elli di fy esgusodi i pan 'dw i'n amheus pan maent yn honni eu bod yn gwneud eu gorau glas i beidio lladd pobl di-niwed.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 8:18 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hollol. Hefyd, o ddarllen llyfr Salam Pax, un o'r bobl ddiniwed sydd wedi'i 'ryddhau' gan America, mae e'n dweud bod milwyr America yn llawer rhy frwd i ddefnyddio drylliau cyn defnyddio'u meddyliau. Mae'r fyddin yn llawn pobl ifanc yn eu harddegau hwyr, ugeiniau cynnar sydd eisiau bod yn arwyr, ac mae ganddynt 'itchy trigger finger'. Gweler cymeriad Clean yn Apocalypse Now i weld am beth mae e'n son.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 8:34 pm
gan Dylan
Ac mae hynny o gofio bod Salam Pax wedi bod o blaid y rhyfel ('dw i'n meddwl), felly paid a'i ddiddymu fel gwrth-Americanwr rhonc sydd yn manteisio ar unrhyw gyfle i'w beirniadu.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 11:03 pm
gan RET79
felly beth yw eich honiad am America os gwelwch yn dda?

PostioPostiwyd: Sad 27 Rhag 2003 12:59 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dylan a ddywedodd:Ac mae hynny o gofio bod Salam Pax wedi bod o blaid y rhyfel ('dw i'n meddwl), felly paid a'i ddiddymu fel gwrth-Americanwr rhonc sydd yn manteisio ar unrhyw gyfle i'w beirniadu.


Wel, roedd Salam Pax yn erbyn Saddam ond hefyd yn erbyn y rhyfel. Sori, a wedes i rhyfel? Fi'n golygu ymosodiad!

Yr honiad yw mai dim ond hyn a hyn o weithiau y'ch chi'n gallu gweud mai camgymeriad yw'r damweiniau hyn. Maen nhw'n digwydd yn llawer rhy aml. Yn bersonol, rwy' isie ateb. S'dim damcaniaeth 'da fi fel y cyfryw. Ret, shwt wyt ti'n gallu esbonio'r holl ddamweiniau sydd wedi digwydd yn Irac, yn Serbia ac ati?

PostioPostiwyd: Sad 27 Rhag 2003 3:52 am
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:felly beth yw eich honiad am America os gwelwch yn dda?


'Honiad'? Jyst darllena fy neges cyntaf yn yr edefyn hwn. Allaf i ddim derbyn bod 'pob ymdrech yn cael ei wneud i beidio lladd pobl di-niwed' pan fo byddinoedd yn parhau i ddefnyddio arfau dinistriol erchyll fel 'daisy cutters' a 'carpet bombs'. Arfau sy'n lladd pob dim dros bellter mawr iawn. 'Bomiau manwl' wedi'u targedu yn ofalus? Ym, na.

'Dydi byddinoedd ddim yn poeni llawer am unrhyw un anlwcus sy'n digwydd bod gerllaw cyn belled ag eu bod yn taro'r targed. A 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn llwyddo i wneud hynny yn aml iawn. A 'dydi hynny ddim lot gwell nag eu lladd yn fwriadol.

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 7:09 pm
gan Boris
Dylan a ddywedodd:Pan mae byddinoedd yn parhau i ddefnyddio arfau fel 'daisy cutters' a 'carpet bombs' yna 'dw i'n siwr elli di fy esgusodi i pan 'dw i'n amheus pan maent yn honni eu bod yn gwneud eu gorau glas i beidio lladd pobl di-niwed.


Cydnabyddaf bwynt cryf a hollol gyfiawn. Mae safon RET ddechreuodd yr edefyn hwn yn eithaf cywir, ond mae bomiau o'r math hyn yn 'indiscriminate' ac wedi ei cynllunio i fod felly. Pwynt da.

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 7:11 pm
gan Boris
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Hollol. Hefyd, o ddarllen llyfr Salam Pax, un o'r bobl ddiniwed sydd wedi'i 'ryddhau' gan America, mae e'n dweud bod milwyr America yn llawer rhy frwd i ddefnyddio drylliau cyn defnyddio'u meddyliau. Mae'r fyddin yn llawn pobl ifanc yn eu harddegau hwyr, ugeiniau cynnar sydd eisiau bod yn arwyr, ac mae ganddynt 'itchy trigger finger'. Gweler cymeriad Clean yn Apocalypse Now i weld am beth mae e'n son.


Falle bod ti'n gwneud cam a nhw. Fel ti'n dweud, pobl ifanc, prin yn fwy na plant. Gwlad ddiethr, ofn, ffrindiau wedi ei lladd - shoot first ask questions later? Dim cyfiawnhad yw'r uchod, ond darllena unrhyw gofiant o ryfel ac fe weli fod y menatality 'better him dead than me' yn un cryf.

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 7:21 pm
gan Boris
Dylan a ddywedodd:'Dydi byddinoedd ddim yn poeni llawer am unrhyw un anlwcus sy'n digwydd bod gerllaw cyn belled ag eu bod yn taro'r targed. A 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn llwyddo i wneud hynny yn aml iawn. A 'dydi hynny ddim lot gwell nag eu lladd yn fwriadol.


Cwestiwn moesol a theg. Ar ddiwedd WW2 fe barhaodd Prydain ac America ar gais yr Undeb Sofietaidd i 'carpet bombio' dinasoedd yr Almaen megis Dresden, Hamburg a Berlin. Bwriad y dacteg hon oedd lladd pobl. Ond oedd hyn yn 'war crime'? Dadl Stalin oedd fod y bombio yn hwyluso yr ymladd i'w fyddinoedd, gwell Almaenwr marw nag aelod o luoedd yr Undeb Sofietaidd. Felly oedd Bomber Harris ac dynion yr RAF yn euog o droseddau rhyfel?

Yn yr un modd Hiroshima ac Nagasaki. Cafodd Truman adroddiad gan ei luoedd arfog y byddai D Day 2 yn Japan yn gweld o leiaf 250,000 o filwyr yn marw, milwyr Americanaidd. O ystyried y modd yr ymladdodd Japan ynys wrth ynys trwy'r mor tawel y tebygolrwydd yw y byddai eu colledion nhw wedi bod yn bedair gwaith yn uwch. O ddefnyddio'r bomb niwclear lladdwyd cannoedd o filoedd ond ildiodd Japan. Pwy oedd cyfrifoldeb pennaf Truman? Ei filwyr ynteu poblogaeth Hiroshima? Yw amddiffyn eich milwyr yn eich gwneud yn droseddwr rhyfel?

Mae na ormod o ddu a gwyn o fewn maes e. Dwi'n hawlio fod Pogon, RET a minnau (a Garnet weithiau er nad ydi o'n asgell dde) yn gweld hyn weithiau, tra fod tueddiad tuag at 'absolute truths' yn lliwio dadl y chwith. Gyda llaw, nid bod yn ddirmygus yw fy mwriad yn fan hyn felly ymateb call nid rant gan Sioni Size plis. :winc: