Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 6:57 am
gan RET79
Allaf i ddim derbyn bod 'pob ymdrech yn cael ei wneud i beidio lladd pobl di-niwed' pan fo byddinoedd yn parhau i ddefnyddio arfau dinistriol erchyll fel 'daisy cutters' a 'carpet bombs'.


Wrth i dechnoleg wella y gobaith yw fydd dim cymaint o angen defnyddio arfau fel hyn. Fe dybiwn i mai arfau 'precision' yw arfau'r dyfodol ac mae'r nod yw gallu anelu at dargedau yn gywir o bellach i ffwrdd heb ffrwydro gymaint fel fod pobl o amgylch y targed ddim yn cael eu dal yn y peth gymaint.

O bob gwlad sydd yn datblygu arfau, fe dybiwn i fod cyfle da iawn i America gael gafael ar y fath bethau cyn neb arall ar y blaned.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 2:05 pm
gan Sioni Size
Fy honiad i yn erbyn America, Ret, yw eu bod ar y gorau'n ystyried bywydau pobl eraill yn amherthnasol wrth gyrraedd eu nod o Full Spectrum Dominance.
A gan fod bywydau yn amherthnasol i'r nod, mae'n gwneud synnwyr ar rai adegau i ddinistrio a malu strwythur gwlad neu i ladd llawer o bobl er mwyn gwneud hi'n haws. Wrth greu dychryn a dinistrio strwythurau cynnal bywyd megis dwr, ysbytai, bwyd, pontydd nid yw'r wlad honno wedyn yn medru amddiffyn ei hun mor drylwyr, yn ysbrydol na'n gorfforol. Fe gymrodd hi dros ddeg mlynedd o sicrhau'r sefyllfa yma'n Irac, yn cynnwys sicrhau drwy'r arolygwyr nad oedd gan Irac yr arfau i fedru amddiffyn eu hunain.

Ar adegau eraill mae angen testio'r arfau gwych newydd, er mwyn profi i'w hunain pa mor eithriadol o glyfar yr ydyn nhw. Cafodd llond ystafell danddaearol o ferched, plant a hen bobl eu lladd gan fom 'precision', oedd mor wych fel fod y taflegryn yn medru cael ei arwain drwy 'air vent' er mwyn cyrraedd at y bobl.

Fedri di honni mai damwain oedd hynny?

February 13 1991- Gulf War: Two laser-guided "smart bombs" destroy an underground bunker in Baghdad killing hundreds of Iraqis.

http://news.bbc.co.uk/onthisday/hi/date ... 541107.stm
os wyt ti eisiau gwybod mwy.

Y farchnad yn Belgrad olau dydd? Embasi'r Tseiniaid cocky ym Melgrad? 8000 Somalia adeg 'Black Hawk Down'? 5000 Panama wrth geisio arestio Noriega am fod o'n gwrthod gwneud beth oedd y CIA yn ei orchymyn? Wyt ti eisiau mwy o enghreifftiau?
Damweiniol Ret?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 2:19 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Sioni Size a ddywedodd:A gan fod bywydau yn amherthnasol i'r nod, mae'n gwneud synnwyr ar rai adegau i ddinistrio a malu strwythur gwlad neu i ladd llawer o bobl er mwyn gwneud hi'n haws. Wrth greu dychryn a dinistrio strwythurau cynnal bywyd megis dwr, ysbytai, bwyd, pontydd nid yw'r wlad honno wedyn yn medru amddiffyn ei hun mor drylwyr, yn ysbrydol na'n gorfforol. Fe gymrodd hi dros ddeg mlynedd o sicrhau'r sefyllfa yma'n Irac, yn cynnwys sicrhau drwy'r arolygwyr nad oedd gan Irac yr arfau i fedru amddiffyn eu hunain.


Hollol. Nid chaiff rhyfela America ei gyfyngu i fomio'n unig. Yr hyn maen nhw'n ei wneud yw dinistrio isadeiledd cyfan y gwledydd y maent yn ymosod arnynt, gan wneud bywyd yn anioddefol i'r bobl gyffredin sy'n byw yn y gwledydd hynny, heb na dwr na thrydan ac ati. Nid yr 'arweinwyr milain' sydd yn dioddef yn rhyfeloedd ffugsanctaidd America, ond y bobl gyffredin.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2004 4:59 pm
gan Owain Llwyd
Boris a ddywedodd:Yn yr un modd Hiroshima ac Nagasaki. Cafodd Truman adroddiad gan ei luoedd arfog y byddai D Day 2 yn Japan yn gweld o leiaf 250,000 o filwyr yn marw, milwyr Americanaidd. O ystyried y modd yr ymladdodd Japan ynys wrth ynys trwy'r mor tawel y tebygolrwydd yw y byddai eu colledion nhw wedi bod yn bedair gwaith yn uwch. O ddefnyddio'r bomb niwclear lladdwyd cannoedd o filoedd ond ildiodd Japan.


Pwt diddorol mewn cysylltiad รข hwn o erthygl ar safle Counterpunch:

Walter A. Davis, Counterpunch a ddywedodd:We have learned to recite, by rote, what has now become a national article of faith: that the bombings of Hiroshima and Nagasaki were justified, almost idealistic acts, undertaken with reluctance, as "the least abhorrent choice" but finally the only way to end the war thereby saving perhaps a million lives. This explanation was first articulated in an article ghost-written for Secretary of State Henry Stimson by his aide McGeorge Bundy (Stimson and Bundy, 1947). It is a pretty story, the only problem being Bundy's admission in a book published shortly before his death (Bundy, 1990), that the entire thing was a fabrication, a deliberate myth, carefully constructed after the fact to disguise the actual reasons why we dropped the bomb: (1)to avenge Pearl Harbor, (2) to justify the amount of money spent developing the bomb, (3) to create laboratories so that our scientific, medical, and military personnel could study the affects of the bomb, and (4) to impress the Russians and the rest of the world with this opening salvo in the Cold War.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2004 5:06 pm
gan Sioni Size
Waeth heb ddim. Mewn edefyn arall mewn mater o ddyddiau mi fydd Ret yn gofyn 'be ydi dy broblem di efo America?' fel petai neb wedi esbonio iddo ganwaith yn barod.