Americanwyr thic!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Maw 24 Chw 2004 11:19 am

Yn ddi-os? Ynteu ai 'celfyddyd' America yw'r unig beth sy'n cael ei stwffio lawr ein corn gwddw?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Chw 2004 11:37 am

Sioni Size a ddywedodd:Yn ddi-os? Ynteu ai 'celfyddyd' America yw'r unig beth sy'n cael ei stwffio lawr ein corn gwddw?


Wbath personol ydi chwaeth, wrth gwrs, felly fedrai ond mynegi fy marn.
Ond Philip Roth yw fy hoff nofelydd i o bell ffordd, a mi ydw i'n credu ei bod hi'n anodd dod o hyd i unrhyw un heddiw sy'n sgwenu rhyddiaeth gystal a Saul Bellow, John Updike, neu Don De Lillo. Fy hoff gyfarwyddwr ffilm i ydi Woody Allen. Fy hoff ddramau teledu i ydi 'The Sopranos' a 'Six Feet Under'. Byddai rhestr o gerddorion Americanaidd - o Marvin Gaye i Bob Dylan - yn cymeryd yn rhy hir i'w sgwenu. A pha artist o'r hanner can mlynedd dwytha sydd wedi cael yr un dylanwad a Andy Warhol?

Nid difrio celfyddyd gweddill y byd ydw i. Dim ond tynny sylw at pam mor ddi-sail ydi'r ddamcaniaeth fod America yn wlad o bobl dwp.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chwadan » Maw 24 Chw 2004 12:18 pm

Dio'm otsh be ma Americanwyr na run genedl arall yn gyfrannu o ran celfyddyd, y pwynt ydi na fedrwch chi labelu cenedl. Felly ma trio cynnal rhyw ddadl arall ynglyn a pa mor dda/crap ydi UDA yn ddibwrpas yn yr edefyn yma mithincs.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Chw 2004 12:24 pm

Chwadan a ddywedodd:Dio'm otsh be ma Americanwyr na run genedl arall yn gyfrannu o ran celfyddyd, y pwynt ydi na fedrwch chi labelu cenedl. Felly ma trio cynnal rhyw ddadl arall ynglyn a pa mor dda/crap ydi UDA yn ddibwrpas yn yr edefyn yma mithincs.


Dwn i ddim os ydi hyn yn wir. Fedri di ddim labelu unigolion yn ol eu cenedl/hil, ond dwi yn meddwl fod diwylliant cenedlaethol yn bodoli, a bod posib gwerthuso hwnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Chw 2004 12:30 pm

Wedi deu hynny, dwi yn derbyn ella bysa trafodaeth "Mae America yn shit" "Nacdi, mae nhw'n gret" sy'n para 6 tudalen yn mynd ychydig yn ail-adroddus. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Macsen » Maw 24 Chw 2004 2:20 pm

Dwi'n cytuno a Garnet bod America wedi cyfrannu lot at y byd o ran cerddoriaeth, ffilm, ac yn y blaen. Ond rydan ni'n gwybod mwy am ddiwylliant Americanaidd am ei fod o o'n cwmpas ni bob dydd. Yn bersonnol mae'n hoff gen i ddiwylliant Siapan ychdig yn fwy na America, sy'n tueddu i fod ychydig yn rhu faterol a llwyd ar adegau. Ond efallai bod hynny am ei fod o'n wahanol. Os fysai diwylliant Japan mor prevalent o'n cwmpas ni, bosib y buaswn i wedi diflasu ar hwnna fyd. Wn im. :?

Garnet a ddywedodd:Wedi deu hynny, dwi yn derbyn ella bysa trafodaeth "Mae America yn shit" "Nacdi, mae nhw'n gret" sy'n para 6 tudalen yn mynd ychydig yn ail-adroddus.


O Duw yn y nefoedd na! Achub ni, Arglwydd!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Chw 2004 2:36 pm

Macsen a ddywedodd:Dwi'n cytuno a Garnet bod America wedi cyfrannu lot at y byd o ran cerddoriaeth, ffilm, ac yn y blaen. Ond rydan ni'n gwybod mwy am ddiwylliant Americanaidd am ei fod o o'n cwmpas ni bob dydd.


Ella bod hyn yn wir ym myd ffilm a cherddoriaeth, ond mae'r celfyddydau "uwch" yn llawer mwy rhyngwladol. Paulo Coehlo - sy'n sgwenu (yn wael) mewn Portugese - ydi awdur mwyaf poblogaidd y byd, cofia, a mae Gabirel Garcia Marquez yn sgwenu yn Sbaeneg, ac yn cael ei ystyried yn un o gewri llenyddiaeth fodern.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan jimkillock » Sad 28 Chw 2004 11:03 am

Garnet, siwr bod ti'n dallt pam mae Americanwyr yn cael eu galw yn thic? maen nhw'n anwybyddus iawn am wledydd eraill, fel arfer, sy ddim yn syrpreis fawr gan bod America yn continent state, ac oherwydd bod nhw'n dominyddu'r economi byd eang.

Mae'r ffaith bod y celfyddau uchel ar gael in i o wledydd tlawd hefyd siwr o fod i wneud efo'r ffaith nad ydyn nhw'n costio cymaint i greu na dibynnu ar ffyrdd o mass distribution.

Dwi'n siwr bydd pethau'n newid dros y canrif nesaf, (os mae tyfiant economaidd yn troi'n gynaladwy - cwestiwn arall) gweler dylanwad diwylliant Siapan erbyn hyn, er enghraifft gemau cyfrfiaduron, cartwns, dylunio graffeg ... consumer culture America wedi ei ail-lunio a'i roi yn ôl ni ... ond dal diwylliant Siapaidd yw hyn.

Ar y ochr arall, mae diwylliant ffilmiau / miwsig India yn fawr iawn yn Asia, y Dwyrain Canol ac Affrica. Ella mae'n rhatach, ac ella mae mwy o gyswllt efo gwerthau pobl cyffredin yn y gwledydd yna.

Cwestiwn diddorol hyn oll, dwi'n teimlo.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan RET79 » Sad 28 Chw 2004 11:11 am

Os yw nhw mor dwp, sut mae nhw mor gyfoethog?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan jimkillock » Sad 28 Chw 2004 11:24 am

RET79 a ddywedodd:Os yw nhw mor dwp, sut mae nhw mor gyfoethog?

Dwi'm yn siwr os ti'n cyfeirio ata i, ond dwi'm yn deud bod nhw'n dwp, dim ond deud bod eu perspectif, hy fel pobl o continent state, yn wahanol iawn, ond mae hyn yn gwneud nhw'n ymddangos fel pobl anwybuddus iawn.

Wyt ti'n gwbod bod pobl o Wlad yr Iâ yn wybyddus iawn ym ddiwylliant y DU? Ein teledu, llyfrau ayyb? Ond faint ydan ni'n gwbod amdanynt? Run fath o berthynas ella. Cymru a Loegr, ella, perthynas tebyg arall.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron