Americanwyr thic!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Maw 02 Maw 2004 12:12 pm

Ia ond yr hapusrwydd ydi'r peth pwysig, mond un ffordd o gael hapusrwydd ydi pres. Os sa chdi'n goro dewis o'r ddau, hapusrwydd fysa chdi'n ddewis, felly dim pres ydi'r 'ultimate goal'
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Maw 02 Maw 2004 12:39 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ia ond yr hapusrwydd ydi'r peth pwysig, mond un ffordd o gael hapusrwydd ydi pres. Os sa chdi'n goro dewis o'r ddau, hapusrwydd fysa chdi'n ddewis, felly dim pres ydi'r 'ultimate goal'


Cywir. Mae arian dim ond yn helpu chdi i gyraedd y gol yna.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dielw » Maw 02 Maw 2004 4:29 pm

A heb bres mae hi'n amhosib byw, heb son am fod yn hapus. Dyna pam nad ydi dewis B yn realistic. Mwy o hippy shit Macsen...

Mae America wedi neud yn wych felly mae'n amlwg dydyn nhw ddim yn dwp o bell ffordd. Mae nhw wedi troi gwlad sydd yn dlotach o ran adnoddau na rhai o wledydd Africa mewn i gwlad mwya llwyddiannus y byd.

Dydi hynny ddim i ddeud bod eu polisiau dramor yn gallu bod yn rhai gwarthus. Edrych ar ôl #1 ma nhw heb unrhyw feddwl am diwylliannau eraill. Dwi'n falch bod ni di cysylltu i Lloegr nid America. Twp wir.... :rolio:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Macsen » Maw 02 Maw 2004 4:55 pm

Dielw a ddywedodd:A heb bres mae hi'n amhosib byw, heb son am fod yn hapus. Dyna pam nad ydi dewis B yn realistic. Mwy o hippy shit Macsen...


Ddim yn bosib byw heb bres? Rhyfedd sut mae holl anifeiliad (a ffermwyr!) y byd yn cadw ei economi yn gweithio heb i ni ei weld o. Wrth gwrs ei fod o'n bosib byw heb bres, y mwnci! :crechwen:

A be yn union ti'n feddwl 'mwy o hippy shit?'
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Iau 04 Maw 2004 9:47 am

Macsen a ddywedodd:
Dielw a ddywedodd:A heb bres mae hi'n amhosib byw, heb son am fod yn hapus. Dyna pam nad ydi dewis B yn realistic. Mwy o hippy shit Macsen...


Ddim yn bosib byw heb bres? Rhyfedd sut mae holl anifeiliad (a ffermwyr!) y byd yn cadw ei economi yn gweithio heb i ni ei weld o. Wrth gwrs ei fod o'n bosib byw heb bres, y mwnci! :crechwen:

A be yn union ti'n feddwl 'mwy o hippy shit?'


Mae anifeiliaid yn byta gwair, dail, neu eu gilydd. Mae ffermwyr yn byta bwyd moethus wedi ei brynnu efo'r siec fisol o Iwrop.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Iau 04 Maw 2004 10:18 am

Tria di fyw heb bres os wyt ti isio. Fe ffindia di bod on amhosib yn y byd go iawn. Cer allan ar y stryd heddiw a tria fo am wythnos :winc:

Ti'n gweld, dyna be dwi'n olygu wrth ddeud "mwy o hippy shit". Yn y byd go iawn dydi o ddim yn bosib
B) Bod heb ddimau ond yn hapus braf a mor serene a all un fod.

ond mae hi digon hawdd malu cachu am y peth - dyna be oedd yr hippies yn neud yn lle gorfod gweithio fel pawb arall.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Sioni Size » Iau 04 Maw 2004 11:44 am

Mae Macsen yn iawn. Roedd yr Indiaid Cochion yn ymddangos yn hynod hapus, a thrigolion Tibet, tan i'r sgym imperialaidd gyrraedd eu tir.

Mae cymryd yn ganiataol fod £1000 yr wythnos yn well na £50 yr wythnos ar bob cyfrif dan unrhyw amgylchiadau yn ddwl ac yn anwybyddu economics. Does dim pwynt cael mil yr wythnos os byddai tun o fins yn costio £800.

Ret, rwyt wedi cyfaddef yma nad diwedd y gan yw'r geiniog yn y diwedd, ond fod hapusrwydd yn bwysicach. Mae enghreifftiau ymhobman, o wleidyddiaeth ryngwladol i'r cemegau sydd yn ein bwyd o'r chwant am arian yn gwneud bywyd pobl yn waeth. Felly mae dy lofnod yn foronic.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 04 Maw 2004 11:49 am

Sioni Size a ddywedodd:Roedd yr Indiaid Cochion yn ymddangos yn hynod hapus, a thrigolion Tibet, tan i'r sgym imperialaidd gyrraedd eu tir.


Os ydi'r math yma o fywyd yn gymaint o wynfyd, pam na nei di roi'r gorau i dy fywyd gorllewinol llygredig, a mynd i fyw oddi ar y tir?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Iau 04 Maw 2004 12:11 pm

Sioni Size a ddywedodd:Mae cymryd yn ganiataol fod £1000 yr wythnos yn well na £50 yr wythnos ar bob cyfrif dan unrhyw amgylchiadau yn ddwl ac yn anwybyddu economics. Does dim pwynt cael mil yr wythnos os byddai tun o fins yn costio £800.


Sut allai ddadlau fo hwna? Na, seriys, sut? :lol:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Sioni Size » Iau 04 Maw 2004 3:43 pm

Dydi pres ond yn gyfystyr i faint mae pethau'n gostio. Os di pawb yn cael mwy o bres mae popeth yn mynd yn ddrytach. Yr unig beth yw'r awch am fwy o bres yw'r awch i fod yn gyfoethocach na gweddill y bobl. Mae'n well cael £50 yr wythnos hefo costau byw yn £40 nac ydi cael £1000 yr wythnos hefo costau byw yn £2000. Dadleua fo hynna ta.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai