Americanwyr thic!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Iau 04 Maw 2004 3:44 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Roedd yr Indiaid Cochion yn ymddangos yn hynod hapus, a thrigolion Tibet, tan i'r sgym imperialaidd gyrraedd eu tir.


Os ydi'r math yma o fywyd yn gymaint o wynfyd, pam na nei di roi'r gorau i dy fywyd gorllewinol llygredig, a mynd i fyw oddi ar y tir?


Oherwydd y trethi a rheolau cynllunio, f'annwyl fab.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 04 Maw 2004 3:47 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Roedd yr Indiaid Cochion yn ymddangos yn hynod hapus, a thrigolion Tibet, tan i'r sgym imperialaidd gyrraedd eu tir.


Os ydi'r math yma o fywyd yn gymaint o wynfyd, pam na nei di roi'r gorau i dy fywyd gorllewinol llygredig, a mynd i fyw oddi ar y tir?


Oherwydd y trethi a rheolau cynllunio, f'annwyl fab.


Ond mi gei di godi pabell ar damaid o dir comin, heb dalu dima o dreth, na chael caniatad cynllunio.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Iau 04 Maw 2004 4:21 pm

Dydi pres ond yn gyfystyr i faint mae pethau'n gostio. Os di pawb yn cael mwy o bres mae popeth yn mynd yn ddrytach. Yr unig beth yw'r awch am fwy o bres yw'r awch i fod yn gyfoethocach na gweddill y bobl. Mae'n well cael £50 yr wythnos hefo costau byw yn £40 nac ydi cael £1000 yr wythnos hefo costau byw yn £2000. Dadleua fo hynna ta.


Be sy na i ddadlau efo? Deud oeddwn i bod hi bron yn amhosib bod yn hapus fo dim pres ond os wyt ti isio profi i'r gwrthwyneb yn hela mwydod ar y tir comin, croeso. :lol:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan jimkillock » Sad 06 Maw 2004 3:25 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Roedd yr Indiaid Cochion yn ymddangos yn hynod hapus, a thrigolion Tibet, tan i'r sgym imperialaidd gyrraedd eu tir.


Os ydi'r math yma o fywyd yn gymaint o wynfyd, pam na nei di roi'r gorau i dy fywyd gorllewinol llygredig, a mynd i fyw oddi ar y tir?


Oherwydd y trethi a rheolau cynllunio, f'annwyl fab.


Ond mi gei di godi pabell ar damaid o dir comin, heb dalu dima o dreth, na chael caniatad cynllunio.

Efallai mae hyn yn jôc bach i chi, ond i rai eraill mae hyn yn bwnc eitha difrifol.

Mae Sioni'n iawn nad yw hyn mor hawdd a hynny, ond mae digon o bobl yn trïo, Teepee valley De Cymru er enghraifft. Roedd rhaid iddyn nhw dalu am y tir, ond maen nhw'n osgoi rheolau cynllunio gan symud eu Tipis bob hyn a hyn. Heb symud nhw, buaswn nhw wedi codi "strwythur parhaol" (rhaid cael un dros dro).
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Maw 2004 10:00 am

jimkillock a ddywedodd:Efallai mae hyn yn jôc bach i chi, ond i rai eraill mae hyn yn bwnc eitha difrifol.

Mae Sioni'n iawn nad yw hyn mor hawdd a hynny, ond mae digon o bobl yn trïo, Teepee valley De Cymru er enghraifft. Roedd rhaid iddyn nhw dalu am y tir, ond maen nhw'n osgoi rheolau cynllunio gan symud eu Tipis bob hyn a hyn. Heb symud nhw, buaswn nhw wedi codi "strwythur parhaol" (rhaid cael un dros dro).


Dwi yn tynny coes rhyw ychydig, ond mae 'na bwynt difrifol. Mae posib i bobl fynd ati i fyw bywydau "naturiol" anarchiadd os ydyn nhw'n mynnu, ond mae'n rhaid iddyn nhw fedru gwneud hynny heb amharu ar fywydau y mwyfarif, sy'n dewis byw o fewn ffiniau cymdeithas. Dyma pam fod gennym ni reolau cynllunio etc.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 09 Maw 2004 1:28 pm

Be oedd pwynt hyn yn y lle cyntaf p'run bynnag? Oedda ti'n trio profi fod yr Indiaid cochion yn anhapus?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dielw » Maw 09 Maw 2004 2:11 pm

Y pwynt oedd bod o bron yn amhosib byw heb bres a bod yn hapus. Roeddet ti'n dadlau i'r gwrthwyneb. Roedd yr indiaid cochion yn hela buffalo efo ffyn pigog, dan ni'n mynd i tesgo efo pres.

Rwyt ti'n rhamantus iawn pan mai'n dod at unrhyw ffordd o fyw heblaw am yr un rwy ti'n byw ynddo fo heddiw! :P
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Maw 2004 2:34 pm

Sioni Size a ddywedodd:Be oedd pwynt hyn yn y lle cyntaf p'run bynnag? Oedda ti'n trio profi fod yr Indiaid cochion yn anhapus?


Heb fynd yn or-athronyddol, dwi ddim yn meddwl fod posib defnyddio geiriau fel "hapus" neu "anhapus" i ddisgrifio byd yr Americanwyr Brodorol. Cysyniadau modern ydy'r rhain. Mi ydw i'n gwybod y byswn i yn anhapus iawn yn byw mewn pabell ac yn bwyta dim byd ond bison bob dwrnod, ond gan nad oedd yr Americanwyr Brodorol yn ymwybodol o fy modolaeth i, tydy nhw ddim yn medru cymharu.

Er hynny - a barn bersonol ydi hyn - dwi'n meddwl mai sylfaen natur ddynol ydi ceisio gwneud ein hunain yn fwy cyfforddus. Ac er na fedra i "brofi" hyn mewn unrhyw ffordd wyddonol, mi ydw i'n hyderus fod dyn sy'n byw mewn ty neis, efo tan glo, dodrafn, Playstation2, Sky TV, cwrw, bwyd da, ac amser hamdden yn fwy "hapus" na rhywun sy'n byw mewn pabell ac yn sychu ei din efo dail.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Maw 09 Maw 2004 2:51 pm

Roedd yr indiaid yn gorfod meddwl gymaint am goroesi efallai nid oedden nhw efo amser i fod yn anhapus.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Sioni Size » Maw 09 Maw 2004 2:56 pm

Yda chi'n trio dweud fod yr indiaid cochion yn fudur ac afiach? Yda chi'n trio dweud nad oedd amser hamdden gan yr Indiaid?

Yda chi'n trio dweud fod pawb yn hapus heddiw o'i gymharu? Dydi bod yn hapus a bod yn gyffyrddus ddim r'un peth o gwbl.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron