Jeni Wine a ddywedodd:Ma na sawl ffordd wahanol o weld petha, a dwi'n recno bod cysyniadau fel hapusrwydd, cariad, rhyddid ac amser i gyd yn eiria anwadal a fflimsi iawn.
Be wyddan ni?
Da ni ddim agosach at ddiffinio'r petha ma er ein bod ni di bod yn trio ers miloedd o flynyddoedd (er mi nath ryw ddarlithydd o'n i'n gael tymor dwytha fynnu fod o'n gallu diffinio amser a datrys pob dirgelwch ynglyn â'r peth...lemon
).
Ynglyn â'r syniad ma o fod yn rhydd, dwi di bod yn adolygu de(!), ac mi oedd Rousseau yn deud mai'r unig ffordd fedrwch chi fod yn rhydd o fewm cymdeithas ydi pan da chi'n cael eich gorfodi i fod yn rhydd, h.y. er mwyn cael rhyddid i neud fel y mynnoch mae'n rhaid i chi ufuddhau i gyfreithiau a rheolau sy'n eich rhwystro rhag amharu ar ryddid pobl eraill. Felly fedrwn ni ddim bod â'r rhyddid i ddwyn eiddo rhywun arall, achos mae hynny'n amharu hawl y person yna i fod yn berchen ar eiddo. Dwi'n meddwl fod hwnna'n syniad eitha cwl.
Chwadan a ddywedodd:Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed
Eniiiiwe, i fynd yn ôl at y pwynt gwreiddiol, mi fasa na lot o bobl yn dadla fod ymreolath (autonomy?) yn ran o hapusrwydd. Dychmygwch fyw mewn caethiwed
llwyr, lle mae rhywun yn penderfynu popeth drosta chi. Ma'r person yma'n deud pryd da chi isho mynd i'r toiled, faint da chi isho i'w yfed, am ba hyd ma rhaid i chi olchi'ch gwallt yn y bore - popeth. Dwi'm yn son am gaethiwed yn yr ystyr bod yn y carchar, ond caethiwed yn yr ystyr fod genna chi
ddim rheolaeth dros eich bywyd. Byddwch yn onest wan, fasa chi'n hapus fel hyn?
Dwi'm yn deud ein bod ni o fewn cymdeithas yn rhydd yng ngwir ystyr y gair achos 1) da ni ddim yn deall be ydi rhyddid a 2) da ni'n cael ein gorfodi i fod yn rhydd, sydd yn baradocs. Ond yn gyffredinol, siwrli fedrwch chi'm gwadu eich bo chi'n mynd yn hapusach y mwya o "ryddid" sydd genna chi?