Cymedrolwr: Cwlcymro
Chwadan a ddywedodd:Mae sawl enghraifft lle nad ydi hyn yn wir - be am droseddwyr sydd wedi treulio cyfnod hir mewn carchar, ac unwaith y cawn nhw eu rhyddid, mae nhw'n troseddu unwaith eto er mwyn cael mynd yn ol i mewn i garchar. Onid ydi hi'n bosib dweud fod y bobl yma yn "hapusach" heb eu rhyddid.
Dewis personol ydi troseddu eto de - rhyddid
Sioni Size a ddywedodd:Beth ydi pwynt technoleg?
Sioni Size a ddywedodd:Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.
Garnet Bowen a ddywedodd:Yr hyn sy'n fy nhiclo fi ydi'r gosodiad ymaSioni Size a ddywedodd:Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.
Science fiction llwyr.
Garnet Bowen a ddywedodd:Efallai fod yr enghraifft ola yma yn un anhebygol dros ben, ond y pwynt dwi'n drio ei wneud ydi ei bod hi'n amhosib i chdi wneud datganiad ysgubol fel "rhyddid = hapusrwydd", oherwydd fod bodolaeth un person sydd ddim yn cydweld a'r gosodiad yn ei droi yn safbwynt, yn hytrach na "gwirionedd". Os ydi'r enghraifft uchod yn bodoli byth - pa bynnag mor anhebygol ydi hyn - yna mae dy ddatganiad di yn peidio a bod yn egwyddor goddrychol, ac yn troi yn safbwynt gwrthrychol.
Chwadan a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Efallai fod yr enghraifft ola yma yn un anhebygol dros ben, ond y pwynt dwi'n drio ei wneud ydi ei bod hi'n amhosib i chdi wneud datganiad ysgubol fel "rhyddid = hapusrwydd", oherwydd fod bodolaeth un person sydd ddim yn cydweld a'r gosodiad yn ei droi yn safbwynt, yn hytrach na "gwirionedd". Os ydi'r enghraifft uchod yn bodoli byth - pa bynnag mor anhebygol ydi hyn - yna mae dy ddatganiad di yn peidio a bod yn egwyddor goddrychol, ac yn troi yn safbwynt gwrthrychol.
Nes i'm deud fod rhyddid = hapusrwydd o gwbl, darllen be nes i ddeud eto ac mi weli di mai rhan o hapusrwydd nes i ddeud ydi o. Felly dwi ddim yn honni fod y gosodiad "rhyddid = hapusrwydd" yn wir ac mae gweddill dy ddadl yn ddibwrpas.
Chwadan a ddywedodd:Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai