Sioni Size a ddywedodd:Be oedd pwynt hyn yn y lle cyntaf p'run bynnag? Oedda ti'n trio profi fod yr Indiaid cochion yn anhapus?
Heb fynd yn or-athronyddol, dwi ddim yn meddwl fod posib defnyddio geiriau fel "hapus" neu "anhapus" i ddisgrifio byd yr Americanwyr Brodorol. Cysyniadau modern ydy'r rhain. Mi ydw i'n gwybod y byswn i yn anhapus iawn yn byw mewn pabell ac yn bwyta dim byd ond bison bob dwrnod, ond gan nad oedd yr Americanwyr Brodorol yn ymwybodol o fy modolaeth i, tydy nhw ddim yn medru cymharu.
Er hynny - a barn bersonol ydi hyn - dwi'n meddwl mai sylfaen natur ddynol ydi ceisio gwneud ein hunain yn fwy cyfforddus. Ac er na fedra i "brofi" hyn mewn unrhyw ffordd wyddonol, mi ydw i'n hyderus fod dyn sy'n byw mewn ty neis, efo tan glo, dodrafn, Playstation2, Sky TV, cwrw, bwyd da, ac amser hamdden yn fwy "hapus" na rhywun sy'n byw mewn pabell ac yn sychu ei din efo dail.