Americanwyr thic!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dielw » Maw 09 Maw 2004 3:19 pm

Dwi di ddeud o blaen - cer i fyw yn y goedwig neu ar y stryd os wyt ti'n hapusach yn anghyfforddus. Rho dy bres i fi a fyddwn ni dau'n hapus. :winc:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Maw 2004 4:41 pm

Sioni Size a ddywedodd:Yda chi'n trio dweud fod yr indiaid cochion yn fudur ac afiach? Yda chi'n trio dweud nad oedd amser hamdden gan yr Indiaid?

Yda chi'n trio dweud fod pawb yn hapus heddiw o'i gymharu? Dydi bod yn hapus a bod yn gyffyrddus ddim r'un peth o gwbl.


Ond mae "hapus" yn gysyniad hollol anelwig. Be ydi bod yn "hapus" felly, Sioni? Cerdded o gwmpas efo gwen fawr ar dy wyneb bob awr o'r dydd? Oes 'na unrhywun erioed wedi byw bywyd "hapus"?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan RET79 » Maw 09 Maw 2004 7:32 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Oes 'na unrhywun erioed wedi byw bywyd "hapus"?


Dyna bwynt diddorol. Yw hi'n bosib bod yn hapus trwy'r amser? Os buasai ti'n hapus trwy'r amser sut fyddai ti'n gwybod dy fod yn hapus gan ti ddim yn gwybod beth yw bod yn drist!
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 09 Maw 2004 8:07 pm

RET79 a ddywedodd:Os buasai ti'n hapus trwy'r amser sut fyddai ti'n gwybod dy fod yn hapus gan ti ddim yn gwybod beth yw bod yn drist!


Dyna pam nath Duw infentio hangovers.

A brain freeze, rol yfed ysgytlaeth? :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Chwadan » Maw 09 Maw 2004 10:41 pm

Ma'n bosib na fedrwch chi fyw bywyd "hapus" yn ystyr hollol ideolegol y peth, ond ma na ddigon di cael ei sgwennu ar sut i fyw y bywyd hapusaf posibl. Ond swn i'n cytuno, ma na wahaniaeth rhwng bod yn hapus a bod yn gyfforddus. I mi, ma cyfforddusrwydd(?) yn awgrymu safon byw penodol, rhywbeth y mae gan bawb o fewn cymdeithas hawl iddo. Dyna mae'r wladwriaeth les i fod i'w roi i ni.

Yn ol JS Mill (pwnc traethawd wsos yma!), rhyddid ydi un o brif rannau hapusrwydd, h.y. does gan gymdeithas ddim hawl ymyrryd yn ein bywydau onibai fod ein gweithredoedd yn niweidio interests rhywun arall. Feeelly ella sa chi'n medru dadlau fod yr Indiaid yn gwbl hapus os oedda nhw'n byw yn y fath gymdeithas. Ella'n bod ni ddim mor rhydd a nhw ac felly ddim mor hapus achos ein bod ni'n cael ein rhwystro rhag gneud rhai petha sydd ddim yn niweidio eraill, e.e. cymyd cyffuriau caled ayb.

Trafodwch :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Honc » Mer 10 Maw 2004 3:38 am

Ramirez a ddywedodd:
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:rhaid cofi bod dim posib labelu gwlad cyfan yn unrhywbeth.


bah! bullshit!

werddon- leprechauns
awstralia- crocodile dundee
cuba- sigars
iceland- rhew
argentina- maradona

hawdd!

Cau dy geg pen wy ffor ffycs ecs y cont tew.
Oh the words that he spoke, Seemed the wisest of philosophies, there's nothing ever gained, by a wet thing called a tear, when the world is too dark, and I need the light inside of me, I'll go into a bar and drink fifteen pints of beer
Rhithffurf defnyddiwr
Honc
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 08 Maw 2004 5:57 pm
Lleoliad: Aberdaron

Postiogan Garnet Bowen » Mer 10 Maw 2004 3:39 pm

Wps.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Mer 10 Maw 2004 3:40 pm

Chwadan a ddywedodd:Ma'n bosib na fedrwch chi fyw bywyd "hapus" yn ystyr hollol ideolegol y peth, ond ma na ddigon di cael ei sgwennu ar sut i fyw y bywyd hapusaf posibl. Ond swn i'n cytuno, ma na wahaniaeth rhwng bod yn hapus a bod yn gyfforddus. I mi, ma cyfforddusrwydd(?) yn awgrymu safon byw penodol, rhywbeth y mae gan bawb o fewn cymdeithas hawl iddo. Dyna mae'r wladwriaeth les i fod i'w roi i ni.


Y broblem ydi fod hapus yn beth hollol goddrychol, ac felly mae hi'n amhosib mesur "hapusrwydd". Ac i raddau mae hi'n ddi-bwrpas trafod natur hapusrwydd - rhywbeth hollol bersonol ydi o.

Mae hi'n haws o lawer trafod "ansawdd byw" pobl - sy'n gyfuniad o ffactorau gwrthrychol sy'n medru cael eu mesur.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chwadan » Mer 10 Maw 2004 3:54 pm

Dwi'n anghytuno - dydi hapusrwydd ddim yn hollol oddrychol achos mae na rai petha sy'n rhan o hapusrwydd dim ots am bwy ti'n son. Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed, felly mae rhyddid yn rhan o hapusrwydd. Wrth gwrs, mi fedri di gymharu safon byw, ond dydi hynna ddim yn unrhyw fesur o hapusrwydd - dyna ydi un o'r prif gwynion am fesur GDP gwlad. Mi allsa gwlad fod yn gneud yn dda iawn o ran yr economi, ond fod na densiynau enfawr yn ymwneud a chrefydd, gwleidyddiaeth ayb o'i mewn, fel nad ydi trwch y boblogaeth yn gallu deud eu bod yn hapus (Gogledd Iwerddon ecstrim ella?)...
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dielw » Mer 10 Maw 2004 4:12 pm

Be dwi di bod yn deud chwadan yn gynharach ydi bod angen pres i gael rhyddid, o leia yn ein cymdeithas ni - felly nid yw'n bosib bod yn hapus heb bres.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron