Tudalen 7 o 9

PostioPostiwyd: Mer 10 Maw 2004 4:37 pm
gan Sioni Size
Dielw a ddywedodd:Be dwi di bod yn deud chwadan yn gynharach ydi bod angen pres i gael rhyddid, o leia yn ein cymdeithas ni - felly nid yw'n bosib bod yn hapus heb bres.


Ac 'yn ein cymdeithas ni' ydi'r frawddeg allweddol yn fana. Heddiw, rwan.

Mae technoleg yn mynd mor dda fel fod rhaid creu swyddi dibwrpas i gadw'r economi i fynd. Llawer o swyddi dibwrpas sy'n gwneud llwyth o bobl yn anhapus, gan eu bod yn treulio llawer o'u hamser yn y gwaith.

Pan mae ffatri oedd yn cyflogi 500 yn medru gwella eu cynhyrchu a'u gydag un peiriant ac un person dyma sy'n digwydd. Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.

Wrth gwrs, nid oes ennill cymdeithasol (ariannol)ar gael yn y sefyllfa yma felly mae pobl megis y cwmniau mawr meddygol a chemegol yn patentio popeth er mawr loes i wledydd y trydydd byd. Nid yw rhannu buddianau technoleg yn gwneud synnwyr cyfalafol.

Felly y gorau mae technoleg yn mynd, y mwyaf buan ddylai diweddglo fod ar gyfalafiaeth.

PostioPostiwyd: Mer 10 Maw 2004 6:08 pm
gan TXXI
2 bwynt.

1. Mae'r ddadl yma di mynd rownd mewn cylch dwywaith, stopio i gael paned a di mynd rownd eto!

2. Efallai nid pres sy'n rhoi hapusrwydd, ond yn sicr, yn ein cymdeithas ni heddiw nid yw'n bosib bod yn hapus heb bres. Ac os yda chi'n anghytuno yna cerwch ach pres - a'ch holl feddiannau (pres brynnodd o!) a'i roi i'r boi Big Issue. Fe fydd o yn hapus, ac o'r diwedd fe gewch chi eich bywyd di-gyfoeth hapus.

PostioPostiwyd: Mer 10 Maw 2004 8:31 pm
gan Dan Dean
TXXI a ddywedodd:2 bwynt.

1. Mae'r ddadl yma di mynd rownd mewn cylch dwywaith, stopio i gael paned a di mynd rownd eto!

2. Efallai nid pres sy'n rhoi hapusrwydd, ond yn sicr, yn ein cymdeithas ni heddiw nid yw'n bosib bod yn hapus heb bres. Ac os yda chi'n anghytuno yna cerwch ach pres - a'ch holl feddiannau (pres brynnodd o!) a'i roi i'r boi Big Issue. Fe fydd o yn hapus, ac o'r diwedd fe gewch chi eich bywyd di-gyfoeth hapus.


3. Sgin hyn ffyc ol i wneud efo Americanwyr thic.

Newydd ddarllen hyn a meddwl y boi wnaeth ei sgwennu efo pwynt da.

Mass stupidity would seem to be the only rational explanation for the fact that George Bush Jr. is possibly (probably?) going to be elected President of the United States in three weeks. What are these fucking idiots thinking?

Leaving aside the issues (which is hard to do because Bush's understanding of them seems pretty sketchy at best) for a moment, the guy is, plainly, a complete moron. And an awful lot of Americans seem to be pretty happy about it. According to the articles I've read in Salon (from the leftist perspective) and The National Review (from the right), Gore loses points in the polls because people think he's too smart. Which makes me wonder when intelligence became a goddamn handicap in the administration of the most powerful country on the planet? If Abraham Lincoln ran for president these days, he'd get slaughtered at the polls because he was a) smart and b) pretty ugly.

Of course, Gore lies his ass off all the time and is totally naked ambition-creepy; these things definitely do not help his cause. But the main objection that many people in the States seem to have to him is the fact that he's an "intellectual," whereas Bush comes across as a friendly guy people can relate to. So, if Bush is the sort of guy Americans can relate to, and he's a total imbecile...what does that say? I rest my case. Americans are stupid.

Well, not all of them, of course. It's in the best interests of a lot of smart, rich, greedy people to have a sympathetic idiot running the country. God bless America! I hate Gore, but if he loses, we're all in for a world of shit.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 8:45 am
gan Dielw
It's in the best interests of a lot of smart, rich, greedy people to have a sympathetic idiot running the country.


Ddim thic ydyn nhw.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 9:04 am
gan Garnet Bowen
Chwadan a ddywedodd:Dwi'n anghytuno - dydi hapusrwydd ddim yn hollol oddrychol achos mae na rai petha sy'n rhan o hapusrwydd dim ots am bwy ti'n son. Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed, felly mae rhyddid yn rhan o hapusrwydd.


Dwi'n anghytuno. Mae sawl enghraifft lle nad ydi hyn yn wir - be am droseddwyr sydd wedi treulio cyfnod hir mewn carchar, ac unwaith y cawn nhw eu rhyddid, mae nhw'n troseddu unwaith eto er mwyn cael mynd yn ol i mewn i garchar. Onid ydi hi'n bosib dweud fod y bobl yma yn "hapusach" heb eu rhyddid.

I'r rhan fwyaf ohonom ni, mae meddwl am fynd i garchar yn peri ofn, ond i leiafrif, mae bod mewn carchar yn eu gwneud nhw'n hapus - sydd yn profi mai gwerth hollol oddrychol ydi "hapusrwydd".

Chwadan a ddywedodd:Wrth gwrs, mi fedri di gymharu safon byw, ond dydi hynna ddim yn unrhyw fesur o hapusrwydd - dyna ydi un o'r prif gwynion am fesur GDP gwlad. Mi allsa gwlad fod yn gneud yn dda iawn o ran yr economi, ond fod na densiynau enfawr yn ymwneud a chrefydd, gwleidyddiaeth ayb o'i mewn, fel nad ydi trwch y boblogaeth yn gallu deud eu bod yn hapus (Gogledd Iwerddon ecstrim ella?)...


Mae mesur safon byw yn wahanol i fesur cyfoeth. Mae 'na systemau rhyngwladol sy'n mesur nifer o ffactorau gwahanol - Quality of life indicators, sef cyfoeth, hawliau dynol, yr amgylchedd, trosedd etc. - er mwyn ceisio rhoi gwerth gwrthrychol ar ansawdd bywyd rhywun.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 9:06 am
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd:
Mae technoleg yn mynd mor dda fel fod rhaid creu swyddi dibwrpas i gadw'r economi i fynd. Llawer o swyddi dibwrpas sy'n gwneud llwyth o bobl yn anhapus, gan eu bod yn treulio llawer o'u hamser yn y gwaith.

Pan mae ffatri oedd yn cyflogi 500 yn medru gwella eu cynhyrchu a'u gydag un peiriant ac un person dyma sy'n digwydd. Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.

Wrth gwrs, nid oes ennill cymdeithasol (ariannol)ar gael yn y sefyllfa yma felly mae pobl megis y cwmniau mawr meddygol a chemegol yn patentio popeth er mawr loes i wledydd y trydydd byd. Nid yw rhannu buddianau technoleg yn gwneud synnwyr cyfalafol.

Felly y gorau mae technoleg yn mynd, y mwyaf buan ddylai diweddglo fod ar gyfalafiaeth.


:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 9:52 am
gan Chwadan
Mae sawl enghraifft lle nad ydi hyn yn wir - be am droseddwyr sydd wedi treulio cyfnod hir mewn carchar, ac unwaith y cawn nhw eu rhyddid, mae nhw'n troseddu unwaith eto er mwyn cael mynd yn ol i mewn i garchar. Onid ydi hi'n bosib dweud fod y bobl yma yn "hapusach" heb eu rhyddid.

Dewis personol ydi troseddu eto de - rhyddid :rolio:

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:13 am
gan Sioni Size
A beth, pray tell, sydd wedi dy diclo gyn gymaint Garnet?

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:14 am
gan Sioni Size
Dielw a ddywedodd:
It's in the best interests of a lot of smart, rich, greedy people to have a sympathetic idiot running the country.


Ddim thic ydyn nhw.


Pwy ddwedodd fod nhw'n thic? Pawb arall sy'n fotio Bush sy'n thic.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:36 am
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd:A beth, pray tell, sydd wedi dy diclo gyn gymaint Garnet?


Y ffaith fod dy ffordd di o ddarogan ein dyfodol wedi ei ddwyn o bennod wael o Buck Rogers. Fydda ni i gyd yn gwisgo dillad wedi ei gwneud o ffoil, ac yn byta pils yn lle bwyd go iawn, hefyd?