Tudalen 8 o 9

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:40 am
gan Sioni Size
Beth ydi pwynt technoleg?

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:50 am
gan Garnet Bowen
Chwadan a ddywedodd:
Mae sawl enghraifft lle nad ydi hyn yn wir - be am droseddwyr sydd wedi treulio cyfnod hir mewn carchar, ac unwaith y cawn nhw eu rhyddid, mae nhw'n troseddu unwaith eto er mwyn cael mynd yn ol i mewn i garchar. Onid ydi hi'n bosib dweud fod y bobl yma yn "hapusach" heb eu rhyddid.

Dewis personol ydi troseddu eto de - rhyddid :rolio:

Dwn i ddim os ydw i'n derbyn dy ddadl di fod dewis aberthu rhyddid yn un ffurf o ryddid yn ei hun, ond mi adawn ni hynny am rwan.

Be am garcharor sy ddim yn "dewis" cael ei ail-garcharu. Be am rywun sy'n gwneud cangymeriad ac yn cael ei ddal yn troseddu, yn cael ei garcharu, ac yn hapus yn y carchar. Onid ydi hynny yn tanseilio dy ddadl di?

neu

Be os ydi rhywun yn cael ei garcharu ar gam, ac yn penderfynnu ei fod yn mwynhau cael ei garcharu?

Efallai fod yr enghraifft ola yma yn un anhebygol dros ben, ond y pwynt dwi'n drio ei wneud ydi ei bod hi'n amhosib i chdi wneud datganiad ysgubol fel "rhyddid = hapusrwydd", oherwydd fod bodolaeth un person sydd ddim yn cydweld a'r gosodiad yn ei droi yn safbwynt, yn hytrach na "gwirionedd". Os ydi'r enghraifft uchod yn bodoli byth - pa bynnag mor anhebygol ydi hyn - yna mae dy ddatganiad di yn peidio a bod yn egwyddor goddrychol, ac yn troi yn safbwynt gwrthrychol.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:54 am
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd:Beth ydi pwynt technoleg?

Cwestiwn traethawd (neu destun llyfr) 'di hwna, dim wbath y medr rywun ateb mewn brawddeg neu baragraff.

Yr hyn sy'n fy nhiclo fi ydi'r gosodiad yma

Sioni Size a ddywedodd:Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.

Science fiction llwyr.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 12:00 pm
gan Dielw
Beth os mae'r peiriannau a'r dechnoleg yn cymryd drosodd? :ofn:

Sa chi'n gallu neud ffilm am y peth...

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 2:44 pm
gan Sioni Size
Garnet Bowen a ddywedodd:Yr hyn sy'n fy nhiclo fi ydi'r gosodiad yma

Sioni Size a ddywedodd:Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.

Science fiction llwyr.

Dyna ydi pendraw naturiol pinacl technoleg.

A mae dyfyniad Dan Dean yn hynod arwyddocaol. Os ydi America yn fotio Bush i fewn eto, maent yn un ai twp, diawledig o hunanol, neu'n gyfuniad o'r ddau. Medrid dwedu ru'n peth am bobl yr Eidal a Berlusconi hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 3:06 pm
gan Chwadan
Garnet Bowen a ddywedodd:Efallai fod yr enghraifft ola yma yn un anhebygol dros ben, ond y pwynt dwi'n drio ei wneud ydi ei bod hi'n amhosib i chdi wneud datganiad ysgubol fel "rhyddid = hapusrwydd", oherwydd fod bodolaeth un person sydd ddim yn cydweld a'r gosodiad yn ei droi yn safbwynt, yn hytrach na "gwirionedd". Os ydi'r enghraifft uchod yn bodoli byth - pa bynnag mor anhebygol ydi hyn - yna mae dy ddatganiad di yn peidio a bod yn egwyddor goddrychol, ac yn troi yn safbwynt gwrthrychol.

Nes i'm deud fod rhyddid = hapusrwydd o gwbl, darllen be nes i ddeud eto ac mi weli di mai rhan o hapusrwydd nes i ddeud ydi o. Felly dwi ddim yn honni fod y gosodiad "rhyddid = hapusrwydd" yn wir ac mae gweddill dy ddadl yn ddibwrpas.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Maw 2004 4:29 pm

Yr hyn ddeudist di oedd "Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed" (fy italics i).

Beth bynnag, tydi hi ddim yma nag acw os mai "rhyddid=hapusrwydd" 'ta "rhyddid=rhan o hapusrwydd" ddeudist di, yr un pwynt dwi'n ei wneud. Sef bod hapusrwydd yn rhywbeth gwrthrychol, hollol bersonol.

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 3:59 pm
gan Jeni Wine
Ddrwg gen i am fytio mewn a chitha di bod yn ddyfal-ddadlau ers tro rwan, ond ga i ofyn hyn:

Chwadan a ddywedodd:Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed

Ydi ddim yn wir deud Chwadan, mai UN safbwynt yn unig ydi hyn? Fel y soniodd Garnet, beth os ydi person yn mwynhau bod yn gaeth, ac yn hapus yn y cyflwr hwnnw?

Wrth edrych ar ochr arall y geiniog (neu'r Rubiks Cube), gall rhyddid fod yn fwrn. Fel ddudodd Sartre "Mae dyn wedi ei gondemnio i fod yn rhydd." Meddyliwch am yr holl ddewisiadau, yr holl gyfrifoldebau...nid yn unig drostoch chi'ch hun ond hefyd dros eraill...

I mi, mae hyn yn sgeri ac yn gneud perffaith synnwyr.

Ma na sawl ffordd wahanol o weld petha, a dwi'n recno bod cysyniadau fel hapusrwydd, cariad, rhyddid ac amser i gyd yn eiria anwadal a fflimsi iawn.

Be wyddan ni?

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 4:28 pm
gan RET79
Hefo rhyddid daw cyfrifoldeb.

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 4:30 pm
gan Dr Gwion Larsen
RET79 a ddywedodd:Hefo rhyddid daw cyfrifoldeb.
Heb ryddid mae creulondeb