Tudalen 9 o 9

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 4:31 pm
gan RET79
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Hefo rhyddid daw cyfrifoldeb.
Heb ryddid mae creulondeb


Ddim bob tro.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 7:59 am
gan Dielw
Ma na sawl ffordd wahanol o weld petha, a dwi'n recno bod cysyniadau fel hapusrwydd, cariad, rhyddid ac amser i gyd yn eiria anwadal a fflimsi iawn.

Be wyddan ni?

Dyfyniad gore dwi di clywed am dipyn.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 12:53 pm
gan Chwadan
Jeni Wine a ddywedodd:Ma na sawl ffordd wahanol o weld petha, a dwi'n recno bod cysyniadau fel hapusrwydd, cariad, rhyddid ac amser i gyd yn eiria anwadal a fflimsi iawn.

Be wyddan ni?

Da ni ddim agosach at ddiffinio'r petha ma er ein bod ni di bod yn trio ers miloedd o flynyddoedd (er mi nath ryw ddarlithydd o'n i'n gael tymor dwytha fynnu fod o'n gallu diffinio amser a datrys pob dirgelwch ynglyn â'r peth...lemon :rolio:).

Ynglyn â'r syniad ma o fod yn rhydd, dwi di bod yn adolygu de(!), ac mi oedd Rousseau yn deud mai'r unig ffordd fedrwch chi fod yn rhydd o fewm cymdeithas ydi pan da chi'n cael eich gorfodi i fod yn rhydd, h.y. er mwyn cael rhyddid i neud fel y mynnoch mae'n rhaid i chi ufuddhau i gyfreithiau a rheolau sy'n eich rhwystro rhag amharu ar ryddid pobl eraill. Felly fedrwn ni ddim bod â'r rhyddid i ddwyn eiddo rhywun arall, achos mae hynny'n amharu hawl y person yna i fod yn berchen ar eiddo. Dwi'n meddwl fod hwnna'n syniad eitha cwl.

Chwadan a ddywedodd:Does bosib fod neb yn gallu bod yn hapus mewn caethiwed

Eniiiiwe, i fynd yn ôl at y pwynt gwreiddiol, mi fasa na lot o bobl yn dadla fod ymreolath (autonomy?) yn ran o hapusrwydd. Dychmygwch fyw mewn caethiwed llwyr, lle mae rhywun yn penderfynu popeth drosta chi. Ma'r person yma'n deud pryd da chi isho mynd i'r toiled, faint da chi isho i'w yfed, am ba hyd ma rhaid i chi olchi'ch gwallt yn y bore - popeth. Dwi'm yn son am gaethiwed yn yr ystyr bod yn y carchar, ond caethiwed yn yr ystyr fod genna chi ddim rheolaeth dros eich bywyd. Byddwch yn onest wan, fasa chi'n hapus fel hyn?

Dwi'm yn deud ein bod ni o fewn cymdeithas yn rhydd yng ngwir ystyr y gair achos 1) da ni ddim yn deall be ydi rhyddid a 2) da ni'n cael ein gorfodi i fod yn rhydd, sydd yn baradocs. Ond yn gyffredinol, siwrli fedrwch chi'm gwadu eich bo chi'n mynd yn hapusach y mwya o "ryddid" sydd genna chi?

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 1:53 pm
gan Cardi Bach
Yn groes i'r graen, ond ma beth ma RET yn gweud yn crynhoi'r cwbwl - gyda rhyddid daw cyfrifoldeb.
Ti'n llygad dy le Chwadan, wy ddim yn credu fod yna un diffiniad o beth yw rhyddid y gall pawb gytuno arno.
Wy'n itha hoff o'r 'rhyddid' oedd gyda fi fel plentyn - dim cyfrifoldebau na dyletswyddau tebyg i heddiw, ond roe'n i'n hollol ddibynol ar yn rhieni ac yn gaeth i ffordd o fyw a'r rheolai hynny.

Trafodeth ddifyr, ond sai cwiet yn gweld ble ma'r drafodeth yma yn arwain at eto!

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2004 5:26 pm
gan Cwlcymro
Nath rywun weld Bush yn siarad ddoe? Dim ond y trydydd gwaith iddo fo ddod i siarad heb aides wrth ei ymyl a mi ofynodd riwyn "What's the biggest mistake you've made since 9/11?"
Argol mi straffaglodd o a dod allan efo rwbath fel "Um....Well.....I wish you'd have informed me of this question before so I could prepare for it......um.....you see..........well.........um.it's hard to get an answer to pop into my head as I'm standing here in a press conference.....um...it will come I'm sure....I can't think of any mistakes......I'm not saying there arn't any.....um....I didn't make any....you see......I'm not sure....." etc etc!!
Dim ots be di'r ddadl am Americanwyr thic, ma Bush yn ymdrechu'n galed i ddangos fod arweinydd y wlad yn uffwernol o anwybodus!